大象传媒

'Dyfodol bregus' yn wynebu clybiau ffermwyr ifanc Cymru

  • Cyhoeddwyd
Miriam Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Miriam Williams: Covid wedi cael effaith andwyol ar ein gweithgareddau

Fe allai clybiau ffermwyr ifanc Cymru wynebu colledion o dros 拢100,000 eleni oherwydd effaith Covid-19.

Fe gysylltodd rhaglen Post Cyntaf, Radio Cymru gyda phob un o'r 12 ffederasiwn yng Nghymru ac fe ddywedodd naw o'r 10 wnaeth ymateb eu bod yn disgwyl gwneud colledion eleni.

Roedd cyfanswm y colledion posib yn dod i tua 拢140,000 ar draws y Ffederasiynau.

Dywed cadeirydd pwyllgor un o siroedd y mudiad fod y dyfodol yn "fregus ofnadwy" ac y dylai Llywodraeth Cymru roi cymorth ariannol.

Dywed y gweinidog ar faterion gwledig y bydd y llywodraeth yn trafod gyda'r ffermwyr ifanc.

Digwyddiadau wedi'u canslo

Mae'r gwanwyn a'r haf yn gyfnodau prysur i'r mudiad, gyda nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal.

Y pinacl heb os yw'r rali - digwyddiad sydd, yn 么l rhai siroedd, yn cadw'r coffrau'n llawn weddill y flwyddyn. Ond nid eleni.

Mae pob digwyddiad wedi ei ganslo, ac ma 大象传媒 Cymru yn deall na fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn yr hydref.

Dyw CFfI Cymru heb gadarnhau hynny ond heb y digwyddiadau yma, fe fydd ffynonellau ariannol y siroedd wedi dod i stop.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Criw Clwb Llanwenog, Ceredigion yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc y llynedd

Miriam Williams yw is-gadeirydd pwyllgor staffio a chyllid ffederasiwn Eryri.

"Mae o wedi cael effaith andwyol ar ein gweithgareddau ni," meddai. "Ma' pob dim wedi ei ohirio, pethau mawr fel y rali, dawns y rali, ma'r Eisteddfod sydd fod cael ei chynnal yn hwyrach yn y flwyddyn wedi ei gohirio.

"Mae'n ergyd ariannol eitha' sylweddol a dweud y gwir.

"Ma' Covid-19 yn golygu bod y digwyddiadau 'na sy'n dod ag incwm i ni ddim yn digwydd mwyach. Felly mae o yn destun pryder mawr yn enwedig yr ansicrwydd o ba mor hir ma hyn yn mynd i barhau.

"Os na chawn ni ddawns rali y flwyddyn nesa wedyn ma'r coffrau yn syrthio'n is unwaith eto, ac felly mae o'n gyfnod andros o ansicr."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Gethin Thomas fod aelodau wedi bod yn gweithio yn eu cymunedau yn ystod y pandemig

Yn 么l Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Ffederasiwn Sir G芒r, Gethin Thomas, mae angen cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu'r mudiad.

"Mae e'n ergyd fawr oherwydd ma'r digwyddiadau cymdeithasol [ddim yn digwydd], y cystadlaethau ac ma' pobl yn mynychu rheini, er enghraifft y rali, y gwaith maes.

"Nawr ni'n edrych tuag at y Sioe Frenhinol, a does dim cyfle i fynd fan honno. A nawr ni wedi clywed bod canslo yr Eisteddfod yn yr hydref a ma' honno hefyd yn glatshen ariannol. Mae'r dyfodol yn fregus ofnadwy.

"Ma'r ffermwyr ifanc wedi bod yn brysur iawn iawn yn ystod y cyfnod Covid 'ma, er bod 'na ddim digwyddiadau a chystadleuaeth, ma' nhw wedi gweithio yn eu cymunedau.

"Ma hynny wedi cael ei gydnabod gan Aelodau'r Senedd yng Nghaerdydd ac Aelodau Seneddol. A dwi'n gweld fan hyn bod r么l glir iawn gan Lywodraeth Cymru i roi cefnogaeth ariannol i'r mudiad."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Fe ddywedodd un o swyddogion Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru eu bod nhw'n ddiolchgar iawn i'w haelodau am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y pandemig.

Cadarnhaodd bod trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn edrych ar gyllid.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Rwy'n cydnabod y ffaith bydd Ffermwyr Ifanc wedi eu siomi oherwydd y nifer o ddigwyddiadau sydd wedi eu gohirio.

"Ac rwyf yn gwerthfawrogi gwaith rhagorol y mae aelodau wedi eu cynnal yng nghymunedau ar draws Cymru yn ystod y pandemig.

"Rydym wedi gohebu 芒 Ffermwyr Ifanc ar faterion ariannol, a bydd swyddog o Fusnes Cymru yn cysylltu 芒'r mudiad i drafod eu hanghenion arbennig, ac opsiynau ariannol bosib."