大象传媒

Colli dros 300 o swyddi GE yn Nantgarw

  • Cyhoeddwyd
NantgarwFfynhonnell y llun, Google

Mae cwmni General Electric yn bwriadu diswyddo 369 o'u gweithwyr ar eu safle yn Nantgarw ger Caerffili.

Mae'r diswyddiadau hyn yn ychwanegol i'r 180 o weithwyr sydd wedi gadael y cwmni'n barod drwy'r broses diswyddo gwirfoddol.

Gall hyn olygu fod 550 o swyddi allan o gyfanswm y gweithlu o 1,400 gael eu colli ar y safle.

Hwn yw'r arwydd diweddaraf bod y diwydiant hedfan awyrennau yn paratoi ar gyfer effaith hirdymor y cyfyngiadau ar deithio yn dilyn y pandemig coronafeirws.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae GE Aviation yn cyflogi tua 1,400 ar ei safle yn Nantgarw

Mae'r cwmni, sy'n cynhyrchu peiriannau i'r diwydiant awyrennau, yn dweud y gallai'r wasgfa economaidd effeithio ar 13,000 o'r 52,000 o weithwyr maen nhw'n eu cyflogi ledled y byd.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates: "Mae cyhoeddiad heddiw'n ergyd ddifrifol arall i'r diwydiant awyrofod gan ddod mor fuan wedi'r cadarnhad am golli swyddi Airbus ym Mrychdyn.

"Byddwn wrth gwrs yn darparu cefnogaeth i weithwyr sydd wedi eu heffeithio drwy ein cynlluniau Gyrfa Cymru a ReAct, ond rhaid i'r diwydiant awyrofod dderbyn gweithredu radical a chwim gan Lywodraeth y DU ac mae ei angen nawr.

"Rydym wedi galw'n barod am fesurau i'w cymryd ac rwyf yn galw unwaith eto am hyn heddiw. Heb weithredu gan Lywodraeth y DU, mae dyfodol y diwydiant awyrofod mewn perygl difrifol. Mae llywodraethau canolog eraill wedi symud yn chwim i ddiogelu eu diwydiannau, a rhaid i Lywodraeth y DU wneud yr un peth i ddiogelu sector sydd yn hanfodol i'n heconomi."

Ymateb gwleidyddion lleol

Wrth ymateb i'r newyddion yn Nantgarw fe gyhoeddodd yr aelod seneddol Alex Davies-Jones a'r aelod senedd Mark Antoniw ddatganiad ar y cyd.

"Mae'r cyhoeddiad y bydd 369 o swyddi yn cael eu torri yn safle General Electric yn Nantgarw yn ergyd i'r gweithwyr ac i'r gymuned gyfan.

"Mae'n ergyd fwy fyth bod y rhan fwyaf o'r swyddi gan GE ar drws y DU yn mynd o safle Nantgarw. Mae nhw yn swyddi sydd yn talu yn dda ac yn gofyn am sgiliau uwch."

Ychwanegodd datganiad y gwleidyddion: "Mae hyn yn dod hefyd wedi newyddion am swyddi yn mynd yn British Airways yn Llantrisant ac mewn safleoedd eraill yng Nghymru, a'r cyhoeddiad am ddiswyddiadau yn Airbus ym Mrychdyn yng ngogledd Cymru.

"Mae'n glir i ni bod angen i Lywodraeth y DU ymateb ar frys i alwad Llafur am gefnogaeth ychwanegol i sectorau penodol.

"Mae'r diwydiant awyrofod yn y DU yn wynebu argyfwng a dyw hi ddim yn dderbyniol i Lywodraeth y DU eistedd n么l a pheidio ysgwyddo'r baich.

"Byddwn ni yn parhau i weithio gyda Unite a rheolwyr GE yn lleol i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cymaint o swyddi yn parhau yn y dyfodol, ac i gefnogi y rhai sydd yn colli eu gwaith."