大象传媒

Y bobl fu'n ceisio atal ymlediad Covid-19 Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Owain JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Owain Jones, Rheolwr Perfformiad Hamdden

Gweithio yn y maes chwaraeon a hamdden fydd Owain Jones yn ei wneud bob dydd, felly er bod iechyd yn bwysig iddo doedd helpu i reoli pandemig erioed yn rhan o'r briff.

Ond dyna'n union oedd o'n ei wneud rai wythnosau yn 么l gan arwain staff o wahanol adrannau ar draws Cyngor Sir Ynys M么n i geisio atal ymlediad Covid-19 ar 么l un o'r clystyrau gwaethaf ym Mhrydain. Ac mae'n dweud eu bod nhw'n lwcus iawn gydag amseru'r digwyddiad.

Nifer o brofion positif yn lladd-dy 2 Sisters Llangefni wnaeth greu pryder ddechrau Mehefin. Roedd profiad gwledydd eraill ar draws y byd wedi dangos yn barod bod awyrgylch gwaith mewn ffatr茂oedd o'r fath yn gallu arwain at ymlediad sydyn o'r feirws.

Daeth yr achos positif cyntaf yno ar 7 Mehefin. Wrth i'r niferoedd gynyddu dros y dyddiau nesaf, daeth yn amlwg bod yn rhaid gwneud dau beth ar frys: profi'r holl weithwyr, a dod o hyd i bawb oedd wedi bod mewn cysylltiad agos gyda unrhywun oedd gyda'r feirws rhag ofn i'r haint ymledu i'r gymuned.

Cyn yr achos cyntaf yn y lladd-dy, 235 o bobl oedd wedi cael prawf positif o Covid-19 ar yr ynys ers dechrau'r argyfwng fisoedd ynghynt. Gyda 560 o weithlu yn 2 Sisters roedd rheswm i bryderu.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid cau ffatri 2 Sisters am bythefnos oherwydd yr achosion Covid-19

Ond er gwaetha'r ffigurau, roedd Ynys M么n hefyd mewn sefyllfa ffodus: dim ond pythefnos cyn achos cyntaf 2 Sisters roedd uned arbennig wedi ei greu i olrhain cysylltiadau unrhyw achosion positif ar yr ynys.

"Dwi'n meddwl mai dyna un o'r penderfyniadau gorau sydd wedi eu gwneud," meddai Owain Jones, rheolwr perfformiad M么n Actif Cyngor Ynys M么n.

"Doedd neb yn gwybod beth oedd am ddigwydd wythnosau wedyn yn Llangefni, ond roeddan ni'n lwcus gan fod pawb efo rhywfaint o brofiad o ddelio gydag achosion ac wedi medru arfer efo'r system a hyfforddi cyn i hyn i gyd ddigwydd."

Ehangu'r t卯m mewn pryd

Roedd cynllun peilot wedi ei sefydlu ar 20 Mai gyda th卯m bychan o staff o wahanol adrannau'r cyngor, oedd yn cael cymorth gan Iechyd Cyhoeddus. Canolbwyntio ar olrhain cysylltiadau gweithwyr cartrefi preswyl gyda phrawf positif oedd briff cynta'r cynllun, cyn cael ei ehangu i holl drigolion yr ynys.

Os oedd unrhyw achos o'r feirws ar yr ynys, byddai aelod o'r t卯m yn cysylltu am sgwrs, rhoi cyngor hunan-ynysu a holi am unrhywun oedden nhw wedi bod mewn cysylltiad 芒 nhw yn y dyddiau blaenorol a hyd at 48 awr cyn iddyn nhw ddechrau dangos unrhyw symptomau.

Roedd manylion y cysylltiadau yn cael eu pasio ymlaen i aelodau arall o'r t卯m i geisio dod o hyd iddyn nhw a gofyn iddyn nhw hunan-ynysu er mwyn gwarchod gweddill y gymuned.

Yn y dyddiau cyn i sefyllfa 2 Sisters waethygu roedd y cyngor wedi ehangu'r t卯m gan ychwanegu 40 o staff ar y rota fyddai'n rhannu eu hamser gwaith rhwng eu dyletswyddau arferol a helpu'r uned newydd pe bai angen.

Roedd y staff yn dod o wahanol adrannau yn cynnwys swyddogion ieuenctid, y t卯m archwilio, gwasanaeth tai, adran gyllid, adnoddau dynol a staff canolfannau hamdden.

O fewn dim roedd 2 Sisters yn y newyddion wrth i'r niferoedd godi. Gofynnwyd i bawb gael prawf ac roedd yn rhaid cau'r lladd-dy dros dro.

Pymtheg achos yn unig gafodd t卯m olrhain Ynys M么n yn eu hwythnos gyntaf wedi sefydlu'r cynllun peilot. Byddai'r t卯m nawr yn gorfod delio gyda 40 o achosion y dydd o weithlu'r ffatri gig yn unig.

Ffynhonnell y llun, Ynys Mon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emma Rogers, un o swyddogion olrhain cysylltiadau'r cyngor, wrth ei gwaith

Meddai Owain: "Be' wnaethon ni weld oedd bod lot o staff yn rhannu ceir i'r gwaith felly os oedd un wedi dangos symptomau ar ddydd Gwener, roedd rhaid i ni wybod efo pwy oedden nhw wedi rhannu car ers y dydd Mercher.

"Os oedd y car yn llawn bydda'n rhaid i ni gysylltu efo'r pedwar arall sydd yn y car, sy'n gallu golygu lot o waith pan mae cymaint yn bositif. O un person positif, allwn ni gael pedwar, pump neu chwech contact i fynd ar eu holau - sy'n creu lot o waith efo gymaint o achosion.

"Roedd yna bwysau ac roedd rhaid i ni weithio mwy o oriau na'r arfer i gadw fyny efo'r achosion.

"Roedd yn bythefnos anodd, yn brysur ofnadwy ac yn gyfnod heriol - ond o wybod bod digon o aelodau o staff i wneud y gwaith erbyn hynny roeddwn i'n gwybod ei fod yn rhywbeth allwn ni ddelio ag o."

Dywed Owain fod y rhan fwyaf o gysylltiadau person positif yn aelodau teulu, ac felly roedden nhw'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa cyn derbyn galwad.

Ar 么l cysylltu am y tro cyntaf, roedd yn rhaid ffonio neu anfon neges destun bob dydd am 14 diwrnod i weld os oedd y person wedi datblygu unrhyw symptomau - er mwyn eu cynghori ac er mwyn olrhain eu cysylltiadau nhw os oedd ganddyn nhw'r feirws.

Meddai Owain: "Cyngor yn unig ydyn ni'n gallu ei roi, ond fel dwi'n deall mae'r rhan fwyaf yn gwneud beth sydd rhaid gwneud a'r rhan fwyaf yn gwybod yn barod be' sydd rhaid gwneud. Os fydda rhywun yn dweud eu bod am adael y t欧, fydda angen i ni gysylltu efo Iechyd Cyhoeddus a gofyn i rywun sydd wedi cymhwyso i siarad efo nhw."

Dros y gwaethaf

Mae'r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod yr ymlediad wedi ei atal.

Ar 么l bod ar gau am bythefnos, a 217 o staff wedi cael prawf positif, fe ail-agorodd y lladd-dy ar 3 Gorffennaf.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddechrau'r wythnos eu bod yn gobeithio cyhoeddi yn fuan bod yr achos ar ben yn ffurfiol oherwydd y niferoedd isel o brofion positif erbyn hyn, ac yn sgil ymateb cadarnhaol y cyhoedd, y gweithlu a'r cyflogwr.

Mae llai o achosion yn golygu llai o waith olrhain felly mae staff t卯m Cyngor Ynys M么n nawr yn gallu rhoi mwy o amser i'w swyddi arferol - hyd nes bydd eu hangen eto. Mae'r cyngor hefyd yn gallu helpu awdurdodau lleol eraill sydd mewn sefyllfa debyg, fel Wrecsam yn dilyn achosion ffatri Rowan Foods.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 280 achos Covid-19 wedi eu cysylltu gyda ffatri Rowan Foods yn Wrecsam

"'Da ni wedi cael cefnogaeth gan awdurdodau eraill, felly mae ond yn deg bod ni'n helpu nhw," meddai Owain.

"Dwi'n meddwl bod hyn wedi dangos bod y gefnogaeth yna gan Iechyd Cyhoeddus a bod cydweithio da rhwng yr awdurdodau ar draws Cymru."

Ac wrth iddo yntau nawr rannu ei wythnos gwaith rhwng rheoli'r t卯m olrhain cysylltiadau a'i swydd arferol - gan baratoi at ail-agor canolfannau hamdden y sir - er gwaetha'r cyfnod heriol, mae'n falch o fod wedi cael y cyfle i fod yn rhan o'r t卯m:

"Dwi wedi mwynhau'r profiad dweud y gwir. Dwi wedi bod yn gweithio yn hamdden ers 2004 felly mae wedi bod yn neis i gael profiad gwahanol a chael newid."

Hefyd o ddiddordeb: