Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
G诺yl AmGen: Beth sydd wedi ei ddatgelu hyd yma?
Fyddwch chi'n gweld colli eich hoff 诺yl eleni?
Gall dim gymryd lle cymdeithasu a mwynhau ymysg torf o ffrindiau. Ond eleni mae digwyddiadau poblogaidd fel G诺yl y Gelli, Tafwyl ac eraill wedi addasu a chynnig arlwy wahanol i'r arfer.
Gyda mis Awst yn agos谩u, mae 大象传媒 Cymru a'r Eisteddfod yn bwriadu cynnal G诺yl AmGen yn y cyfnod byddai'r Brifwyl wedi ymweld 芒 Cheredigion.
Ond beth fydd yn digwydd yn ystod yr 糯yl AmGen? Dyma bopeth sydd wedi ei ddatgelu hyd yma...
Pryd a lle?
Mae sesiynau ar-lein amrywiol yn cael eu cynnal ar yn barod, ac ar wasanaeth Hansh S4C.
Mae鈥檔 flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.Diwedd neges Facebook
Ar 30 Gorffennaf fe fydd Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw yn ymuno yn yr hwyl ar benwythnos gychwynol wreiddiol yr Eisteddfod yn Nhregaron
Beth?
Fe fydd y penwythnos yn ddathliad o'r gorau o ddiwylliant Cymru, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o drafodaethau a pherfformiadau fyddai i'w disgwyl ar faes yr Eisteddfod.
Ar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn fe fydd amserlenni Radio Cymru wedi eu trawsnewid a chyflwynwyr yr orsaf yn ein tywys i bob cornel o'r maes rhithiol. Bydd yr arlwy yn cynnwys dram芒u a chyngherddau yn ogystal 芒 rhaglenni dogfen a cherddoriaeth.
Bydd Cymru Fyw yn rhannu cystadlaethau a pherfformiadau o'r archif ac yn cynnal trafodaethau difyr am bynciau amrywiol.
Bydd hefyd ambell i gystadleuaeth gan gynnwys:
- Cystadleuaeth y St么l Farddoniaeth a Chystadleuaeth y St么l Ryddiaith
- Albym y Flwyddyn
- Dysgwyr yr 糯yl AmGen
Mae'r 大象传媒 hefyd yn cydweithio 芒 Llenyddiaeth Cymru a'u partneriaid er mwyn cyhoeddi fel rhan o'r 诺yl.
Pwy?
Bydd yr 诺yl yn rhoi llwyfan i rai o gerddorion a llenorion amlycaf Cymru ac yn ein cyflwyno i ambell seren y dyfodol.
Llywyddion y Dydd fydd Seren Jones a Toda Ogunbanwo ac fe fydd y ddau yn annerch yr 诺yl yn ystod y penwythnos.
Radio Cymru 2 fydd calon gerddorol yr 诺yl, 芒'r rhaglenni yn adlewyrchu amrywiaeth llwyfannau cerddorol yr Eisteddfod o'r T欧 Gwerin i Maes B.
Bydd E盲dyth Crawford yn cyflwyno'r gerddoriaeth sy'n ei hysbrydoli hi a'r actor byd enwog Rhys Ifans yn rhannu ei ddewis cerddorol tra'n trafod ei brofiadau yn ystod y cyfnod clo.
Bydd amserlen lawn yr 诺yl yn cael ei ddatgelu yn fuan.
Pam?
Bwriad yr 诺yl yw llenwi rhywfaint ar y bwlch ar 么l Eisteddfod Ceredigion a "rhoi llwyfan i oreuon y genedl".
Yn 么l Rhuanedd Richards, golygydd 大象传媒 Radio Cymru a 大象传媒 Cymru Fyw: "Dyma gyfle gwych i ni allu dod at ein gilydd fel cenedl i ddathlu ein diwylliant a chreu g诺yl o'r newydd.
"Fe fydd hi'n Faes B, pafiliwn a phabell l锚n ond yn bennaf oll fe fydd yn ganolbwynt ac yn gyrchfan i wrandawyr o bob cwr o'r byd i ymgynnull a mwynhau arlwy o raglenni amrywiol o'r 'stafell fyw."