大象传媒

40% o denantiaid y sector preifat 'mewn dyled rhent'

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bron 40% o'r tua 180,000 o denantiaid yn y sector preifat yng Nghymru mewn dyled gyda'u rhent, yn 么l arolwg gan Rhentu Doeth Cymru.

Yn 么l Cyngor Ar Bopeth fe allai hyn arwain at don o bobl yn cael eu taflu o'u cartrefi ddiwedd Awst - oni bai bod camau pendant ar unwaith.

Ar 23 Awst mae'r cyfnod seibiant - cyfnod sy'n gwahardd landlordiaid rhag cael gwared ar denantiaid - yn dod i ben.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddant yn gwneud datganiad yngl欧n 芒 deddfu yn y maes ddydd Mercher.

Dyledion rhent

Un o'r rhai sy'n poeni'n ddirfawr am y sefyllfa yw Rutendo Dafana o Dreorci sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Dywedodd ei bod hi'n poeni am ei sefyllfa ar 么l iddi gael ei rhoi ar ffyrlo o'i gwaith fel gweinyddes mewn bar ers mis Mawrth. Mae hi nawr mewn dyled gyda'i rhent.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rutendo Dafana o Dreorci - un sydd mewn dyled rhent ac yn pryderu am y dyfodol

Dywedodd y fyfyrwraig 21 oed ei bod hi nawr yn wynebu sefyllfa anodd o orfod gadael coleg er mwyn ceisio am swydd llawn amser.

Arolwg

Yn 么l arolwg Rhentu Doeth Cymru mae 68,000 (38%) o denantiaid Cymru mewn sefyllfa tebyg i Ms Dafana, a'u bod y tu 么l gyda'u taliadau rhent ers dechrau 'r cyfnod clo ar 23 Mawrth.

Yn 么l Cyngor ar Bopeth mae galwadau ff么n iddynt yngl欧n 芒 dyledion rhent wedi dyblu i 1,037 rhwng Mawrth a Mehefin 23 eleni, o'i gymharu 芒 497 yn yr un cyfnod y llynedd.

Yn 么l Gwennan Hardy o'r elusen, pan fydd y cyfnod sy'n atal landlordiaid rhag cael gwared ar denantiaid yn dod i ben yn Awst fe fydd nifer o denantiaid yn wynebu bod yn ddigartref.

Mae Cyngor ar Bopeth am i Lywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid.

Cyfnod rhybudd

Un o'r awgrymiadau ydi fod yn rhaid i landlordiaid roi chwech mis yn hytrach na thri mis o rybudd cyn gorfodi tenant adael.

Mae Arolwg Rhentu Doeth Cymru hefyd yn dweud fod landlordiaid Cymru yn cael trafferth o ran talu eu morgeisi.

Mae Cyngor ar Bopeth am i Lywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dangosodd arolwg Rhentu Doeth Cymru fod 38% o denantiaid Cymru ar ei 么l hi gyda'u taliadau rhent ers dechrau 'r cyfnod clo

Dywedodd Douglas Haig o Asiantaeth Osod James Douglas yng Nghaerdydd fod nifer o landlordiaid yn cael trafferth i dalu eu costau wedi tri mis o ostyngiad mewn taliadau rhent.

Mae'n pryderu y bydd nifer y tenantiaid sydd yn cael trafferth i dalu eu rhent yn cynyddu pan fydd Llywodraeth y DU yn dod a'r cynllun ffyrlo i ben.

"Rydym wedi bod fel zombies, a nawr fod yr economi yn ceisio atgyfodi unwaith eto, dyma pryd y byddwn yn gweld llawer o bobl yn colli eu gwaith a'r gefnogaeth yn diflannu," meddai.

"Os na fyddwn yn gwneud rhywbeth nawr ac o bosib rhywbeth eithaf radical yna fe allen ni weld llawer iawn mwy o denantiaid yn methu talu eu rhent yn y dyfodol.

Angen 'cynyddu lwfans tai'

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r lwfans tai sy'n cael ei dalu fel rhan o'r Credyd Cynhwysol o'r 30ain canradd o'r cyfartaledd rhent yng Nghymru i'r 50fed canradd a chynnig benthyciad di-log am dair blynedd i denantiaid i dalu unrhyw ddyledion rhent oedd wedi casglu yn ystod y cyfnod clo.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ei ymateb.

Mae cwmni yswirio landlordiaid Hamilton Fraser wedi defnyddio'r gost o rentu yng Nghymru a gwerth cyflogau i ddod i'r casgliad y byddai tenantiaid sydd ar ei h么l hi gyda thaliadau am dri mis - sydd yn gyfartaledd o 拢1,616 - yn cymryd dros bedwar mis a hanner i dalu eu dyledion rhent dros y cyfnod.

Dywedodd Matthew Hooker o'r cwmni fod tenantiaid a landlordiaid "mewn lle anodd iawn".

"Mae Llywodraeth y DU wedi darparu hoe fach i'r ddau ar ffurf peidio a throi pobl allan o'u tai a gwyliau morgeisi, ond dim ond ateb dros dro yw hyn i broblem na fydd yn diflannu'n fuan," meddai Mr Hooker.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn bryderus am y cynnydd mewn dyledion rhent ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r system budd-daliadau lles; i gael gwared ar y cyfnod aros o bum wythnos am daliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol, dod 芒'r polisi dau blentyn i ben, gorffen y cap ar fudd-daliadau, ag ymestyn y taliadau tai drwy ddisgresiwn i'r bobl hynny nad ydynt yn gymwys i dderbyn budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol, ond allai fod yn derbyn incwm isel ac yn wynebu trafferthion wrth dalu costau tai o ganlyniad i Covid-19."