大象传媒

Pryder mewn marchnadoedd am ddiffyg cymorth ariannol

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y Farchnad AberystwythFfynhonnell y llun, Ian Capper/ Geograph

Mae masnachwyr mewn marchnadoedd dan do yn ofni y bydd llawer ohonyn nhw yn mynd allan o fusnes.

Bu'n rhaid eu cau fel rhan o'r mesurau i geisio atal lledaeniad y coronafeirws a hynny gan nad ydyn nhw wedi gallu hawlio grant cymorth fel siopau ar y stryd fawr.

Mae masnachwyr yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi cysylltu 芒 大象传媒 Cymru i ddweud eu bod yn poeni am eu dyfodol.

Dywed un masnachwr ei fod yn teimlo fel pe bai wedi dioddef 'gwahaniaethu' oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu trin yn yr un modd 芒 busnesau bach eraill.

Mae'r masnachwyr wedi bod yn ceisio cael grant o 拢10,000 ar gyfer busnesau sy'n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.

Ond, maen nhw'n dweud bod y broses yn rhy gymhleth, ac nad ydyn nhw'n gallu cael eu hasesu'n unigol am ardrethi busnes i fedru prosesu'r cais.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Paul Deverson yn bryderus ynghylch dyfodol ei fusnes

Mae rhai masnachwyr - ar farchnadoedd yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, wedi gallu hawlio'r grant gan fod gan eu stondinau wedi cael eu gwerthuso'n unigol ar gyfer ardrethi busnes.

Ond nid dyma'r sefyllfa i lawer o fasnachwyr ar farchnadoedd eraill.

Mae Paul Deverson yn rhedeg stondin fframio a ffotograffiaeth yn Ninbych-y-pysgod, un o'r marchnadoedd hynaf yng Nghymru.

"[Fel masnachwyr] mae gennym gontract sy'n dweud yn glir ein bod yn talu ardrethi busnes yn ein rhent - ond nid oes gennym gyfeirnod ardrethi, ac felly ni allwn fynd ymhellach gyda chais am grant," meddai.

"Dywedwyd wrthym wedyn fod grant gwytnwch Cymru yn dod allan a bod hynny'n mynd i lenwi'r holl fylchau. Ond wnaeth e ddim.

"Ry'n ni'n teimlo ein bod yn dioddef gwahaniaethu.

"Mae siopau y tu allan i'r farchnad, o fewn can llath, gyda busnesau tebyg iawn i'n rhai ni sy'n cael cefnogaeth y grant o 拢10,000, fydd yn eu helpu nhw i oroesi hyd at y flwyddyn nesaf."

'Byw ar 拢35 yr wythnos'

Mae masnachwyr yng Ngheredigion wedi cael profiad tebyg wrth geisio am grantiau cymorth y llywodraeth.

Mae Jacqui Ireland wedi rhedeg siop luniau ers 15 mlynedd yn neuadd y farchnad yn Aberystwyth ac mae'r busnes yn helpu i gynnal y teulu - Jacqui, ei g诺r a mab 17 oed.

Dywedodd Jacqui, "Does dim arian yn dod mewn oherwydd so ni'n gweithio oherwydd y lockdown. Ar hyn o bryd ni'n byw ar 拢35 yr wythnos.

"Ni wedi hawlio Universal Credit ond mae'n cymryd pump wythnos i ddod trwyddo ac ar y foment does dim byd yn digwydd tan y mis nesaf.

"Ni wedi torri lawr ar bethau, ac wedi cael mortgage holiday, ond ni'n gwneud yn well na llawer o bobl ar y farchnad."

Dros y penwythnos cyhoeddodd llywodraeth San Steffan bod cronfa newydd gwerth hyd at 拢617m wedi'i sefydlu i helpu busnesau bach sydd ddim yn gymwys ar gyfer grantiau eraill.

Fe fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu gan awdurdodau lleol, ac mae llywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw "flaenoriaethu busnesau mewn lleoliadau a rennir [gan gynnwys} masnachwyr marchnad rheolaidd."

Mae'r llywodraeth wedi bod yn siarad 芒 chynghorau yn Lloegr am y cynllun - mae'n dal yn aneglur a fydd y gronfa newydd hefyd ar gael i fusnesau bach yng Nghymru.

Mewn ymateb i'r problemau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r grantiau busnes sy'n gysylltiedig 芒 threthi yn daladwy i drethdalwyr yn unig.

"Mae hyn yn golygu y byddai unrhyw daliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i berchennog y gofod y mae masnachwyr marchnad yn ei rentu, os yw'n gymwys. Gallai grantiau cymorth busnes eraill fod o fudd i fasnachwyr marchnad fel cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer pobl hunangyflogedig."

Deiseb

Gellir gwneud ceisiadau ar-lein am y cynllun hwn o 13 Mai, bydd yn caniat谩u i geisiadau cymwys hawlio grant trethadwy o 80% o'u helw misol cyfartalog hyd at gyfanswm o 拢 7,500.

Mae'r problemau wrth hawlio'r grant o 拢10,000 wedi effeithiau ar fasnachwyr ledled y Deyrnas Gyfunol.

Ffederasiwn y Masnachwyr Marchnad yw'r gymdeithas sy'n cynrychioli'r sector, gyda 20,000 o aelodau.

Yn 么l prif weithredwr y Ffederasiwn Joe Harrison, mae dros hanner y masnachwyr mewn marchnadoedd dan do ac awyr agored yn cael eu heffeithio.

Mae'r Ffederasiwn yn lob茂o'r llywodraeth ac yn annog ei haelodau i arwyddo deiseb ar-lein yn galw am estyn grantiau i fusnesau bach sydd y tu allan i'r system rhyddhad ardrethi.

Mae'r ddeiseb, sydd 芒 mwy na 23,000 o lofnodion ar hyn o bryd, yn dweud bod "busnesau bach yn marw bob dydd ac mae swyddi'n cael eu colli.

"Mae angen mynediad cyflym a hawdd arnon ni at grantiau arian parod i fusnesau bach gan eu galluogi i oroesi Covid-19. Mae amser yn brin."