Marwolaethau Ceredigion: 'Angen edrych yn fanylach'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, 63 unigolyn yn unig sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws yn y sir hyd yma medd Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Awdur, Gwyn Loader
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi galw am "edrych yn fanylach" ar y rheswm dros y cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y sir yn ystod misoedd cyntaf eleni.

Mae gwaith ymchwil Newyddion S4C yn dangos fod 342 o farwolaethau wedi cael eu cofrestru yn y sir yn ystod 17 wythnos cyntaf eleni. Mae'r ffigwr yna 22% yn uwch na chyfartaledd marwolaethau Ceredigion dros yr un cyfnod yn y pum mlynedd diwethaf.

Ar gyfer misoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth eleni, roedd mwy o farwolaethau yng Ngheredigion nag y mae'r sir wedi eu gweld yn yr un misoedd ers o leiaf deng mlynedd.

Profi ac olrhain

Hyd yma, mae awdurdod lleol Ceredigion wedi derbyn clod mawr am system profi ac olrhain maen nhw wedi ei gynnal yn annibynnol i'r llywodraeth. Dyna, yn 么l sawl un, sydd wedi golygu bod cyn lleied o bobl yno wedi eu heintio, ac wedi marw, gyda coronafeirws. Yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dim ond saith o bobl sydd wedi marw gyda Covid-19 yn y sir.

Ond mae ambell un sy'n byw yng Ngheredigion yn poeni y gallai'r feirws fod wedi taro'r ardal cyn bod unrhyw un yn ymwybodol o'i bresenoldeb.

Disgrifiad o'r fideo, Yr ymgymerwr angladdau Maldwyn Lewis fu'n siarad gyda Newyddion S4C am y sefyllfa

Yn ei barlwr angladdau ym Mhenriw-p芒l, mae Maldwyn Lewis yn cadw cofrestr o'r holl angladdau mae'n eu trefnu.

"Yn Ionawr a Chwefror eleni, naethon ni weld tipyn o gynnydd yn nifer y marwolaethau naethon ni ymdrin gyda nhw. Am ryw ryfedd reswm, roedd y niferoedd yn fwy nag 'yf i wedi gweld erioed yn y cyfnod dechrau'r flwyddyn."

"O ran oedran, nes i roi cipolwg ar y llyfr cofrestr sydd gyda ni yn gynharach. Oedd yr ifancaf yn 42 a'r hynaf yn 101, ond y mwyafrif yn cwympo yn y saithdegau i'r wythdegau hwyr."

Byddai dau angladd yr wythnos yn arfer bod yn ddigon prysur yn yr ardal wledig yma, ond yn 么l y trefnwr angladdau, bu'n gweinyddu bron 40 cynhebrwng yn neufis cyntaf 2020.

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Fe ofynnodd Newyddion S4C i Fwrdd Iechyd Hywel Dda a oedd ganddyn nhw esboniad am y cynnydd ddechrau eleni. Mewn datganiad, dywedodd Dr Phil Kloer, cyfarwyddwr meddygol a dirprwy brif weithredwr y bwrdd:

"Mae data marwolaethau yn amrywio flwyddyn wrth flwyddyn, ac fe all yr amrywiaeth fod yn fwy pan yn delio 芒 data ar gyfer sir unigol.

"Mae'r prif wahaniaeth rhwng data Ionawr 2019 a Ionawr 2020 o fewn i farwolaethau mewn ysbytai, ac yn y cyfnod hwnnw fe welon ni gynnydd mewn feirysau anadlu roddodd bwysau ar ein gwasanaethau ysbytai."

Mae Dr Rhian Daniel yn ystadegydd meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hi'n craffu ar ffigyrau marwolaethau y sir.

Edrychodd ar y ffigyrau marwolaeth yn y sir dros y degawd diwethaf. Mae'n dweud bod y cynnydd mewn marwolaethau ynghyd 芒 datganiad y bwrdd iechyd yn dweud bod feirysau anadlu wedi rhoi straen ar wasanaethau ysbytai'r ardal yn debygol o godi cwestiynau gan rai.

"Fyddai rhai pobl efallai yn gweld hynny fel esboniad pellach mai Covid-19 oedd y tu 么l i'r marwolaethau ychwanegol. Hynny yw, bod Covid-19 wedi cyrraedd Ceredigion yn gynharach yn y flwyddyn na rhannau eraill o Gymru.

"Wi ddim yn gweld yr esboniad yna'n ddeniadol dros ben achos byddai'n rhaid egluro ymhellach pam bod ffigyrau Ceredigion ddim wedi codi yn esbonyddol fel oedd y ffigyrau ymhobman arall os oedden nhw wedi cael yr haint yn gynharach."

Disgrifiad o'r llun, Pobl yn ciwio tu allan i fferyllfa yn Aberystwyth yn ystod y cyfnod clo

Ychwanegodd Dr Daniel: "Yn fy marn i, mae efallai yn fwy tebygol bod rhyw haint arall, efallai yn debyg i Covid-19 o safbwynt pwy oedd yn cael eu heffeithio waethaf, wedi taro Ceredigion."

Angen 'edrych yn fanylach'

Mae'r gwleidydd sy'n cynrychioli'r sir a'r etholaeth yn San Steffan yn dweud bod angen edrych eto ar y marwolaethau.

Dywedodd Ben Lake, AS Plaid Cymru wrth raglen Newyddion S4C: "Yn ystod dechrau'r flwyddyn, ges i lot o bobl leol, yn enwedig trefnwyr angladdau yn s么n am ba mor brysur oedd hi.

"Mae'r ffigyrau yna'n cadarnhau bod gwirionedd i'r peth. Mae angen i ni ystyried beth yw achos y cynnydd. Ydy fe'n rhywbeth naturiol neu a oes angen ystyried unrhyw beth arall?

"Un o'r cwestiynau sy'n codi yw hynny [a oedd Covid-19 yn bresennol yn y sir cyn bod unrhyw un yn ymwybodol]."

"Maen nhw'n gwestiynau digon dilys ac yn rhai 'wi'n gobeithio bydd modd edrych arnyn nhw yn bellach."

Disgrifiad o'r llun, Dywed yr Aelod Seneddol lleol, Ben Lake fod nifer o drefnwyr angladdau wedi cyfeirio at nifer uchel o angladdau yn yr ardal ar ddechrau'r flwyddyn

Pan ofynnodd Newyddion S4C i Fwrdd Iechyd Hywel Dda a oes unrhyw waith ymchwil yn cael ei wneud i'r marwolaethau ddechrau'r flwyddyn, fe ddywedon nhw: "Rydyn ni'n arfer adolygu pob marwolaeth mewn ysbyty er mwyn chwilio am gyfleon i ddysgu wrth i ni barhau i geisio gwella'r gofal ry'n ni'n ei gynnig."