大象传媒

Angen gwella trafnidiaeth yn lle cynllun yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4

Mae angen systemau trafnidiaeth well i roi dewis amgen yn lle'r cynllun a gafodd ei wrthod i liniaru trafferthion traffig yr M4 o amgylch Casnewydd, yn 么l panel o arbenigwyr.

Fe allai codi t芒l mewn rhyw fodd hefyd fod yn ffordd o leihau tagfeydd, medd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru.

Mae oedi difrifol yn aml yn yr ardal dan sylw yn ystod yr oriau brig.

Er hynny cafodd y cynllun ffordd liniaru ei wrthod fis Mehefin y llynedd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Ond mae adroddiad y Comisiwn yn dweud y gallai pobl fod yn gyndyn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a bydd llawer yn dal i weithio o adref wedi'r pandemig coronafeirws.

Fe benderfynodd Mr Drakeford fod y cynllun 拢1.6bn gwreiddiol yn rhy gostus ac roedd hefyd yn bryderus ynghylch yr effaith bosib ar yr amgylchedd, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi argyfwng hinsawdd.

Angen mwy o ddewis

Ychwanegodd na fyddai wedi bwrw ymlaen hyd yn oed petasai'r cynllun yn fforddiadwy oherwydd y niwed posib i ardal Lefelau Gwent.

Dywed adroddiad y Comisiwn ddydd Iau fod angen "rhwydwaith o ddewisiadau amgen", gyda mwy o orsafoedd rheilffordd rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren.

Mae hefyd yn dweud fod llawer o bobl yn defnyddio'r draffordd gan fod dim dewis realistig arall, yn enwedig wrth deithio i ac o Gasnewydd.

Ond mae'r ffyrdd gwahanol o weithio sydd wedi esblygu ers dechrau'r pandemig, medd y Comisiwn, yn rhoi cyfle ac amser i'r awdurdodau ystyried y sefyllfa, ac mae'r pwyllgor yn edrych yn fanylach erbyn hyn ar bosibiliadau gweithio'n hyblyg.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist o ran o ffordd liniaru'r M4 o'r cynllun a gafodd ei wrthod fis Mehefin y llynedd

Prif ganfyddiadau

  • Mae tagfeydd ar yr M4 yn broblem yn yr oriau brig yn bennaf, wrth i bobl deithio i ac o'r gwaith

  • Mae'r M4 o amgylch Casnewydd ym mhedwerydd safle tabl traffyrdd dinesig mwyaf gorlawn y DU

  • Mae rhannau o'r draffordd yn agos iawn, neu wedi cyrraedd, ei gapasiti ymarferol

  • Mae mwyafrif y cerbydau'n cludo un teithiwr yn unig wrth i bobl deithio i ac o'r gwaith

  • Mae tua 23,000 o deithiau dyddiol rhwng Casnewydd a Bryste

Dywed y panel mai achos creiddiol y tagfeydd yw fod llawer o lefydd allweddol mor agos i'r draffordd, yn cynnwys ystadau tai, parciau manwerthu, swyddfeydd a mannau gwaith eraill, ynghyd 芒 phrinder dewisiadau teithio ystyrlon.

"Yn absenoldeb dewisiadau trafnidiaeth fwy datblygedig, mae'r draffordd wedi bod yn ganolbwynt naturiol o ran cynllunio datblygiadau," medd yr adroddiad.

Ychwanegodd fod tagfeydd yn debygol o gynyddu, yn sgil cynlluniau twf economaidd a ffisegol Caerdydd a Chasnewydd.

"Heb ddewisiadau trafnidiaeth amgen, mae risg y gallai dyluniad llawer o'r datblygiadau yma atgyfnerthu'r ddibyniaeth ar gerbydau yn hytrach nag annog newid i drafnidiaeth gyhoeddus neu gynlluniau teithio llesol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna rhai yn gwrthwynebu'r ffordd liniaru newydd, sydd erbyn hyn wedi ei gwrthod

Daeth y panel i'r casgliad fod yna wasanaeth reilffordd dda rhwng canol Caerdydd, Casnewydd a Bryste, ond fod mwyafrif y tripiau'n golygu teithio i lefydd heblaw am ganol y dinasoedd.

Golyga hynny fod yna "ddarpariaeth reilffordd annigonol i gynnig dewis gwirioneddol i'r draffordd".

Ychwanegodd fod rhwydweithiau bws hefyd ddim yn ymateb yn ddigonol i batrymau teithio, a heb eu cydlynu 芒 gwasanaethau tr锚n yn y mwyafrif o achosion.

Mae'r adroddiad yn awgrymu "tocynnau integredig" ac amserlen wedi'i chydlynu.

Opsiynau i gerdded neu seiclo?

Dywed yr adroddiad fod teithio llesol - cerdded neu seiclo - heb ei gynnwys yn ddigonol o fewn y rhwydwaith drafnidiaeth ehangach.

Does dim llwybr teithio llesol rhwng gorsaf reilffordd Casnewydd a phrif safleoedd cyflogaeth y ddinas, a dim llwybr seiclo i gymudwyr rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Mae'n dweud fod yr awdurdodau lleol, mae'n ymddangos, wedi canolbwyntio ar wella llwybrau maestrefol i ganol y dinasoedd, yn hytrach na llwybrau di-draffig rhwng y siroedd.

Effaith Covid-19

Cyn y pandemig, dywedodd y panel fod disgwyl twf yn lefelau traffig yn y tymor canolig, ond mae yna "ansicrwydd sylweddol" erbyn hyn ynghylch yr effaith yn y tymor canol a'r tymor hir.

Dywed y panel fod yna eisoes ragweld fod newidiadau sylfaenol i batrymau gwaith yn angenrheidiol, gan olygu llai o weithio'r oriau swyddfa arferol rhwng 09:00 a 17:00.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen gwella y llwybrau seiclo medd yr adroddiad

Wedi gostyngiad sylweddol ddiwedd Mawrth, mae lefelau traffig unwaith eto'n codi'n araf ac yn gyson wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, ac mae'r arbenigwyr yn disgwyl i hynny barhau.

Dywed y bydd traffig yn cynyddu "hyd yn oed os fydd pawb sy'n gallu gweithio o adref yn parhau i wneud hynny".

Pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae pellter cymdeithasol yn golygu fod llai o bobl yn gallu teithio ar drenau a bysiau, gyda'r gostyngiad rhwng 70% a 90%.

Fe allai rhannu car hefyd fod yn fwy anodd os fydd yna ganllaw iechyd cyhoeddus i osgoi hynny.

Mae'r adroddiad felly'n darogan cynnydd yn nifer y bobl sy'n teithio mewn cerbydau ar ben eu hunain, ac mae'n anodd rhagweld pa arferion fydd yn dychwelyd i'r drefn arferol wedi'r pandemig.

Bydd rhaid ystyried:

  • Effaith tymor hir gweithio o adref unwaith fydd yna ddim mesurau pellter cymdeithasol.

  • Parodrwydd pobl i ddefnyddio gwasanaethau gorlawn yn y dyfodol.

  • Awydd pobl i gerdded neu seiclo i'r gwaith fwy na chyn y pandemig.

  • Sefyllfa ariannol y sector trafnidiaeth gyhoeddus unwaith y bydd yr argyfwng drosodd a chamau lliniaru hefyd ar ben.

Serch unrhyw dueddiadau gwahanol yn y dyfodol, mae'r panel yn dal yn rhagweld angen mwy o ddewisiadau teithio yn y tymor hir, ac yn awgrymu defnyddio cyfnod y pandemig i gynllunio dewisiadau amgen i ddefnyddio'r draffordd.

Talu i ddefnyddio'r M4?

Daw'r adroddiad i'r casgliad fod "rhyw fath o fecanwaith codi t芒l yn angenrheidiol" i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, seiclo neu gerdded.

Dywed hefyd y gallai'r arian fynd at wasanaethau trafnidiaeth, ond mae'n dweud y byddai'n anodd codi t芒l cyn sicrhau mesurau trafnidiaeth eraill.

Mae disgwyl adroddiad terfynol y panel cyn diwedd y flwyddyn, a fydd yn rhestru argymhellion penodol i Lywodraeth Cymru.