大象传媒

'Gall pobl stopio gorfod cysgodi ganol Awst'

  • Cyhoeddwyd
cysgodiFfynhonnell y llun, Getty Images

Gall pobl sy'n dilyn cyngor i gysgodi ers mis Mawrth ailddechrau siopa a dychwelyd i'r gwaith neu'r ysgol o ganol Awst, medd Prif Swyddog Meddygol Cymru - os fydd achosion coronafeirws yn parhau i ostwng.

Bydd y cyfyngiadau'n codi yn achos 130,000 o bobl yng Nghymru, sydd wedi cael llythyrau'n eu cynghori i hunan-ynysu am fod amryw gyflyrau iechyd yn eu rhoi yn y categori mwyaf bregus.

Dywedodd Dr Frank Atherton fod yr unigolion yma wedi'u cynghori i ddilyn nifer o gamau i warchod eu hunain tan Awst 16.

Ond fe allai'r cyngor yna gael ei godi meddai "os yw'r feirws yn parhau i leihau".

"Mae hyn yn golygu, o Awst 16, gall pawb sy'n cysgodi fynd allan i siopa, dychwelyd i'r gwaith os yw'r gweithle'n ddiogel - os ddim, dylen nhw barhau i weithio o adref - a dychwelyd i'r ysgol," meddai.

Ond fe ychwanegodd fod hi'n hanfodol i bobl yn y categori dan sylw i barhau i lynu'n dynn i'r cyngor i gadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo'n drylwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl risg uchel wedi derbyn cyflenwadau bwyd ers cael y cyngor i hunan-ynysu

O ganlyniad i'r cyhoeddiad, bydd yna newid hefyd i'r gefnogaeth i'r bobl sydd wedi bod yn cysgodi ers mis Mawrth.

Bydd y cynllun bocs bwyd wythnosol yn dod i ben wedi 16 Awst ond fe fydd archfarchnadoedd yn parhau i flaenoriaethu archebion gan bobl fregus i gludo nwyddau i'w cartrefi.

Ychwanegodd Dr Atherton: "Bydd y gwasanaeth cludo presgripsiynau'n parhau tan 30 Medi ar gyfer pawb sydd ei angen."

Bydd llythyrau'n cael eu danfon i bawb sydd yn y gr诺p risg uchel.