Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am gynllun gofal iechyd meddwl clir wedi Covid-19
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae angen i Lywodraeth Cymru osod cynllun clir ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn dilyn y cyfnod clo, yn 么l yr elusen Hafal.
Dywedodd Llywydd oes yr elusen, Dr Elin Jones, bod angen cynllun cenedlaethol i sicrhau gwasanaeth da i gleifion iechyd meddwl, yn hytrach na gadael i fyrddau lleol lunio eu cynlluniau eu hunain.
Yn 么l yr elusen mae rhai materion eisoes wedi'u datrys - er enghraifft pan gafodd cleifion iechyd meddwl eu rhyddhau o'u triniaeth yng ngogledd Cymru - ond mae angen mwy o arweiniad wrth i'r rheolau yngl欧n 芒'r cyfnod clo gael eu llacio.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi darparu "gwybodaeth glir" ar gynnal gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig.
Ar raglen y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru dywedodd Dr Elin Jones nad yw cleifion iechyd meddwl a'u teuluoedd yn cael y gofal a'r sylw y dylen nhw.
"Y'n ni'n teimlo'n gryf er gwaethaf beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud bod angen cynllun cenedlaethol arnon ni, yn lle bod gwahoddiad i bob bwrdd iechyd baratoi cynllun eu hunain," meddai.
"Mae hynny'n golygu bod 'na wahaniaethu rhwng y ddarpariaeth sydd ar gael i gleifion mewn gwahanol rannau o Gymru."
Ar anterth y pandemig, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ryddhau bron i 1,700 o gleifion o'u gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gamgymeriad.
Ymddiheurodd Prif Weithredwr dros dro'r bwrdd iechyd ar y pryd gan ddweud ei fod yn "gamgymeriad na ddylai fod wedi digwydd".
Mae'r elusen iechyd meddwl Hafal yn cefnogi pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol.
Mae staff y byrddau iechyd ledled Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn ystod y pandemig, meddai Prif Weithredwr Hafal, Alun Thomas.
"Yr hyn sy'n allweddol i ni yw bod y saith bwrdd iechyd angen arweiniad gan y llywodraeth," meddai.
"Gallai'r llywodraeth roi cyfarwyddiadau iddyn nhw fel bod y bwrdd iechyd wedyn yn gweithio yn 么l cynllun, yn hytrach na bod y bwrdd iechyd yn ceisio dyfeisio cynlluniau ac yna'n cael eu harchwilio gan Lywodraeth Cymru."
"Mae staff y bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn ystod y cyfnod hwn.
"Ond oni bai fod Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfres o flaenoriaethau - er enghraifft, pa mor gyflym y dylai rhywun gael ymateb yn ystod y cyfnod Covid - mae'n anodd iawn i'r byrddau iechyd hynny benderfynu sut orau i ddelio a'r sefyllfa."
Yn 么l Dr Elin Jones, mae ffigyrau arolwg Hafal o'u haelodau yn ystod y cyfnod clo yn dangos bod tri chwarter y bobl sydd wedi ymateb yn dweud bod eu hiechyd meddwl nhw wedi cael ei effeithio yn wael iawn gan y feirws.
Dywedodd hefyd bod 50 o bobl wedi methu cael gwybod beth sy'n digwydd gyda gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnyn nhw yn eu hardal nhw.
Roedd 65% heb lwyddo mynd at feddyg teulu yn ystod y pythefnos diwethaf pan oedden nhw eisiau help.
"Mae'n bwysig atgoffa pobl nad pobl y cysgodion sydd ag afiechyd meddwl," medd Dr Jones. "Maen nhw'n bobl sy'n byw yn ein plith ni, maen nhw'n bobl sydd eisiau help fel pobl sy'n dioddef o ganser.
"Ond rwy'n gwybod o brofiad y gwahaniaeth sydd rhwng y ffordd chi'n cael eich trin pan mae canser arnoch chi a'r ffordd ry'ch chi'n cael eich trin pan fo afiechyd meddwl arnoch chi."
'Gwybodaeth glir'
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn barod yn darparu "gwybodaeth glir" ar gynnal gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod cyfnod y coronafeirws.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r fframweithiau gweithredu chwarterol ar gyfer y GIG yn adlewyrchu'r angen parhaus i ymateb i Covid-19, i gynnal gwasanaethau hanfodol ac ailddechrau gwasanaethau rheolaidd dros amser.
"Rhaid i'r GIG fod yn barod hefyd ar gyfer ton arall o achosion posibl yn y dyfodol.
"Ar gyfer iechyd meddwl, mae'n adeiladu ar y fframwaith gwasanaethau hanfodol sy'n darparu gwybodaeth glir am ba wasanaethau iechyd meddwl y mae angen eu cynnal yn ystod y pandemig.
Mae'r llywodraeth yn gweithio gyda nifer o bartneriaid iechyd meddwl "i gryfhau'r cymorth fel rhan o'n cynlluniau adfer" meddai'r llefarydd.