Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gleision i chwarae yng Nghasnewydd am weddill y tymor
Bydd Gleision Caerdydd yn chwarae gemau cartref yn Rodney Parade yng Nghasnewydd wrth i gystadleuaeth rygbi'r Pro14 ailddechrau ym mis Awst.
Mae Parc yr Arfau yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Ysbyty Calon y Ddraig, sefydlwyd yn Stadiwm Principality yn sgil argyfwng coronafeirws.
Cafodd y Pro14 ei ohirio ym mis Mawrth oherwydd y pandemig ond fe fydd yn ail ddechrau wedi pum mis o seibiant.
Fe fydd y tymor yn cael ei gwblhau dros gyfnod o bedair wythnos, gyda'r rownd derfynol ar 12 Medi.
Bydd gemau darbi yn cael eu cynnal ar ddau benwythnos olaf mis Awst yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon a'r Eidal ond nid yw dyddiadau gemau De Affrica wedi eu cadarnhau hyd yn hyn.
Fe fydd Scarlets yn wynebu'r Gleision a'r Gweilch yn croesawu'r Dreigiau ar y penwythnos agoriadol, 22/23 Awst.
Ar yr ail benwythnos bydd y Dreigiau gartref yn erbyn y Scarlets ar ddydd Sadwrn, 29 Awst gyda'r maes yn llwyfannu'r g锚m rhwng y Gleision a'r Gweilch y diwrnod canlynol.
Fe fydd y gemau yn cael eu cynnal y tu 么l i ddrysau caedig onibai bod newidiadau i gyngor gan y Llywodraethau unigol.