大象传媒

Dim gemau yn y Stadiwm Principality yn 2020 wrth i ysbyty barhau

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips wedi cadarnhau na fydd gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality eto eleni.

Cafodd yr ysbyty maes, Ysbyty Calon y Ddraig, ei sefydlu yn y Stadiwm ym mis Ebrill mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Mae'r Undeb yn disgwyl arwyddo cytundeb newydd er mwyn i'r Stadiwm barhau fel ysbyty maes rhag ofn y bydd ail don o'r pandemig.

"Ni fyddwn ni'n chwarae unrhyw gemau cartref yn Stadiwm Principality," meddai Phillips.

Mae URC yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gadw'r ysbyty mewn lle tan yr hydref.

Mae disgwyl y byddai'r stadiwm yn barod i gynnal rygbi unwaith eto erbyn y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf.

"Da ni eto i gwblhau cytundeb ar yr estyniad, oherwydd y tro hwn mae pethau yn fwy cymhleth ac mae na nifer o amgylchiadau sydd angen eu hystyried," ychwanegodd Phillips.

"Ry' ni'n gobeithio arwyddo'r cytundeb yn fuan."

Amlinellodd Phillips am y trafodaethau ynglyn 芒 ble y bydd gemau'r hydref yn cael eu cynnal gyda meysydd yn Llundain yn ogystal a meysydd rhanbarthol dan ystyriaeth.

Mae union leoliad y gemau yn ddibynnol ar os bydd torfeydd yn cael mynychu gemau neu beidio.

"Os gall gemau cael eu cynnal gyda thorfeydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yna mae'n debyg y byddan nhw yn Llundain, ac eto ry' ni'n ysytyried nifer o opsiynau," meddai.

Bydd Cymru yn wynebu'r Alban yn y Chwe Gwlad ar 31 Hydref wedi i'r g锚m wreiddiol ym mis Mawrth gael ei gohirio oherwydd yr argyfwng.

Mae disgwyl y bydd y g锚m honno yn mynd yn ei blaen ond bydd gemau yn erbyn De Affrica, Seland Newydd, Fiji ac Awstralia ddim yn cael eu cynnal.

Yn hytrach mae'n debyg y bydd twrnament wyth t卯m, yn cynnwys gwledydd y Chwe Gwlad a dau dim o blith Fiji, Siapan neu Georgia.