Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Problemau cyflenwi wedi cyfnod prysur i'r diwydiant tai
- Awdur, David Grundy
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae'r misoedd diwetha' wedi bod yn anodd i fusnesau o bob math.
Un sector sydd wedi aros yn brysur ac wedi gweld twf ydy busnesau sy'n dylunio, adeiladu a gwerthu tai.
Ond mae 'na rybuddion bod y twf presennol yn artiffisial, ac mae 'na ofnau na wnaiff hynny bara wrth i ni adael y cyfnod clo.
Yn Llambed, mae Andrew Morgan yn paratoi ar gyfer yr wythnos nesaf.
Am y tro cyntaf ers misoedd, mi fydd yn cael mynd 芒 chwsmeriaid i weld tai y maen nhw eisiau eu prynu.
Er gwaetha' cyfyngiadau'r tri mis diwetha' - mae hi wedi bod yn gyfnod prysur iawn.
"Ni 'di ffeindio'r farchnad yn anodd iawn dros y lockdown, achos ni 'di bod ar gau a ddim yn cael mynd o gwmpas tai," meddai.
"Ond mae'r farchnad yn gryf iawn ar hyn o bryd, gyda phobl ishe mynd i weld tai eto o'r wythnos nesa' 'mlaen, ond ydy e'n mynd i bara, 'na beth ni ddim yn si诺r ambwyti fe o hyd.
"Ni'n disgwyl gweld rhyw fath o counter-balancing a dipyn bach mwy o properties yn dod.
"Beth ni ddim yn gwybod ydy beth sy'n mynd i ddigwydd i'r economi sy'n dod."
'Gorfod gwrthod gwaith'
Chwilio mae pobl am dai sydd 芒 mwy o le - yn yr ardd, a'r tu mewn hefyd.
"Ni gyd wedi bod yn gweithio o gartre' - yn edrych ar bedair wal," meddai Mr Morgan.
"Gallen ni weithio o bob man - o dop mynydd Cwm Berwyn i lawr i draeth yn Sir Benfro."
Yn Y Bala, mae'r pensaer Rhys Llwyd Davies wedi bod yn brysur iawn hefyd.
"'Dan ni 'di cael bob math o ymholiadau. Mae 'na bobl sydd isio cael estyniadau neu addasiadau i'w cartrefi," meddai.
"'Dan ni wedi gorfod gwrthod gwaith.
"Mae hi yn hynod anodd gwrthod gwaith ond 'dan ni'n gorfod egluro nad ydyn ni'n yn mynd i allu cwblhau'r gwaith o fewn amserlen gall - 'dan ni ddim yn gallu darparu'r gwasanaeth 'dan ni isio'i 'neud."
"Ni 'di bod yn fishi iawn a gweud y gwir," meddai Geraint Llywelyn, un o berchnogion Lliw Building Supplies ym Mhontardawe.
"Mae'r silffoedd yn wag. Y drafferth yw cael stoc newydd. Ni ddim yn gallu cael pren o Latfia. Ni'n brin o cement. Ni'n dechre' poeni.
"Mae 'na fois sy'n dod aton ni, cwsmeriaid da, mi fydd y costau'n codi iddyn nhw, ac maen nhw yn dibynnu arnom ni am eu bywoliaeth a rhoi bwyd ar y ford."
Yn 么l arolwg gan ffederasiwn adeiladu FMB Cymru mae'r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod prysur i gwmn茂au adeiladu, ac mae cael gafael ar ddeunyddiau wedi bod yn broblem.
Roedd 59% o gwmn茂au adeiladu yng Nghymru gafodd eu holi gan y ffederasiwn yn disgwyl y byddan nhw'n cael cynnig rhagor o waith yn ystod y tri mis nesa'.
Ond gan fod y cyfyngiadau wedi atal gwaith y tu mewn i dai - mae 93% o'r diwydiant yn dweud bod coronafeirws wedi cael effaith ar eu busnes.
A gyda phrinder deunyddiau fel plastr, concrid a choed, mae 82% yn dweud eu bod yn disgwyl i gostau deunyddiau adeiladu godi yn ystod y tri mis nesa'.
Cam wrth gam, bricsen wrth fricsen - mae'r byd yn dod allan o'r cyfnod clo, ac mi fydd y sector yn gobeithio adeiladu ar brysurdeb y misoedd diwetha'.