Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trefn gosod graddau yw'r 'ateb gorau dan yr amgylchiadau'
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Y system ar gyfer dyfarnu cymwysterau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn yw'r drefn orau o dan yr amgylchiadau, yn 么l pennaeth bwrdd arholi mwyaf Cymru.
Dywedodd prif weithredwr CBAC fod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod graddau'n cael eu penderfynu mewn "ffordd gytbwys a theg", ar 么l i'r arholiadau gael eu canslo yn sgil coronafeirws.
Mae ysgolion a cholegau wedi cyflwyno'r graddau y bydden nhw wedi disgwyl i'r disgyblion gyrraedd, ac mae CBAC yn prosesu'r canlyniadau.
Bydd y graddau'n cael eu rhyddhau i ddisgyblion ym mis Awst.
Fydd ymgeiswyr ddim yn gallu apelio'n uniongyrchol at CBAC eleni, er y bydd ysgolion a cholegau yn gallu herio'r broses.
Roedd Mared, sydd ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd, i fod i sefyll arholiadau Safon Uwch.
"Mae'n eitha' anodd oherwydd does gen i ddim unrhyw reolaeth dros ba raddau dwi'n mynd i gael a dwi methu gweithio a gwthio fy hun i gael y graddau gorau posib," meddai.
"Ond mae hefyd 'di bod yn neis gyda dim stress gydag adolygu ar gyfer yr arholiadau."
Myfyriwr TGAU yw Morgan, sydd hefyd yn teimlo'n rhwystredig ond yn gweld bod y sefyllfa'n anodd.
"Dwi'n meddwl maen nhw'n gwneud e yn y ffordd mwyaf teg, oherwydd maen nhw'n cymryd mewn i ystyriaeth ein gwaith cwrs ac felly dwi'n meddwl maen nhw 'di gwneud y gorau allan nhw o'r sefyllfa maen nhw 'di derbyn," meddai.
Mae athrawon eisoes wedi anfon graddau at CBAC ar gyfer yr holl ymgeiswyr TGAU, Uwch Gyfrannol (AS), Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru, yn ogystal 芒 rhestri disgyblion mewn trefn o fewn graddau.
Yna, caiff y wybodaeth honno ei phrosesu gan y bwrdd arholi er mwyn sicrhau ei bod yn gyson 芒'r modd y mae'r disgybl a'r ysgol wedi perfformio mewn blynyddoedd blaenorol.
Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr CBAC, ei bod yn "broses weddol gymhleth".
"Mae llawer iawn o ddata yn cael ei ddefnyddio o ystod o wahanol ffynonellau," meddai.
'Cynnal hygrededd y cymwysterau'
Dywedodd eu bod yn chwilio am ganlyniadau "gweddol debyg" i flynyddoedd blaenorol.
"Yr hyn nad ydych chi eisiau yw bod y canlyniad yn gwyro gormod y naill ffordd, naill ai tuag i fyny neu i lawr," meddai.
"Ar ddiwedd y dydd rydyn ni'n trafod TGAU a Safon Uwch ac mae'n bwysig ein bod ni'n cynnal hygrededd y cymwysterau hynny - mae'n bwysig i'r dysgwyr o ran symud ymlaen.
"Rydyn ni mewn cyfnod hynod o anodd... ac rwy'n credu mai'r ateb rydyn ni wedi'i gynnig yw'r ateb gorau y gallwn ni ei gynnig o dan yr amgylchiadau.
"Does dim arholiadau felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i broses ac rydyn ni wedi ceisio gwneud hynny ar y cyd mewn ffordd gytbwys a theg."
Fel ysgol gymharol newydd, dosbarth Blwyddyn 13 eleni yw'r ail i wneud Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Dywedodd y prifathro, Iwan Pritchard fod fformiwla sy'n edrych ar berfformiad blaenorol yn fwy anodd i ysgol fel Bro Edern.
Mae'n dweud ei bod yn bwysig nad yw athrawon yn rhy hael, ond y dylai barn ysgolion gyfrif.
"Mae'n bwysig bod hygrededd y graddau i'r disgyblion yn parhau," meddai.
"Ond oherwydd na yw'r disgyblion yn cael sefyll arholiadau, dydyn ni ddim yn gwybod mewn gwirionedd sut y bydden nhw wedi gwneud yn arholiadau'r haf ac felly 'swn i'n dweud bod e'n bwysig ein bod ni yn derbyn y dystiolaeth sydd gan ysgolion."
Roedd yna ganllawiau i ysgolion a cholegau i'w helpu i gyrraedd gradd deg.
Dywedodd gr诺p cydraddoldeb hiliol fod rhieni o rai cymunedau wedi codi pryderon y gallai system sy'n seiliedig ar raddau wedi eu penderfynu gan athrawon roi eu plant dan anfantais oherwydd rhagfarn.
"Yn ystod y cyfnod clo, pan ddechreuon ni ymchwilio am effaith anghyfartal Covid-19 ar bobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig fe ddechreuon ni'r ymgynghoriadau eang iawn hyn," meddai Patience Bentu o Race Council Cymru.
"Drwy'r ymgynghoriadau hyn roedden ni'n cael adborth am y pryderon."
'Hyderus y bydd proses deg'
Mae'n fater y maen nhw wedi'i godi gyda'r Gweinidog Addysg, ac maen nhw'n fodlon gyda'r ymateb hyd yma.
"Rydyn ni'n hyderus iawn y bydd yn broses deg, ond dydy hynny ddim yn mynd i olygu ein bod ni'n mynd i anwybyddu'r pwnc," meddai Ms Bentu.
"Byddwn ni'n cadw llygad a gwylio beth sy'n digwydd."