大象传媒

Sut mae'r Eisteddfod wedi newid ers 1861?

  • Cyhoeddwyd
llunFfynhonnell y llun, Casgliad y werin/大象传媒

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi newid yn aruthrol ers ei ddyddiau cynnar, ac fe fydd wythnos AmGen eleni yn go wahanol i'r drefn arferol.

Gwenll茂an Carr yw Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod, ac yma mae hi'n trafod y prif newidiadau i'r 诺yl dros y degawdau.

Yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n rhan annatod o fywyd Cymru, ac o fywydau llawer iawn ohonom ni. Y gwyliau teuluol pan yn fach, rhyddid Maes B, rhywle bywiog i fynd 芒'r plant, a rhywle i fynd i gystadlu a chymryd rhan mewn dros 1,000 o weithgareddau o bob lliw a llun.

Ond, mae eleni'n wahanol, a thawel fydd y caeau gleision ar gyrion Tregaron wythnos gyntaf Awst, ond fe fydd Eisteddfod yn cael ei chynnal - yr Eisteddfod AmGen.

Ac wrth gwrs, mae ambell beth yn 'go wahanol' am yr Eisteddfod Genedlaethol.

I ni'r Cymry, does dim gwell 'na dod ynghyd i gymdeithasu a mwynhau am wyth diwrnod. Cyfle i weld hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd, a'r cyfan oll yn frith o draddodiad, yn llawn hanes ac yn rhan o'n hunaniaeth ni fel cenedl. Mae'n teimlo fel ein bod ni'n dilyn 么l troed canrifoedd o gyndeidiau ar ddechrau Awst bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Ruthun yn gastell Rhuthun, Eisteddfod 1868

Yr Eisteddfod fodern

Ond a wyddoch chi mai Eisteddfod 1861 yn Aberd芒r sy'n cael ei hystyried fel yr Eisteddfod fodern gyntaf? A dyna ddechrau ar draddodiad sydd wedi'i weld mewn nifer fawr o'r gwyliau ers hynny - tywydd drwg. Mor ddrwg fel bod to'r Pafiliwn drudfawr wedi'i chwythu i ffwrdd a'r Eisteddfod wedi cael ei symud i neuadd yng nghanol y dref. Ond, 'doedd tamaid o wynt a glaw ddim am guro'r Brifwyl bryd hynny'n fwy na heddiw!

Felly, corff cymharol ifanc yw'r Eisteddfod mewn gwirionedd. Cafodd y Cyngor ei sefydlu yn 1880, ac mae'r traddodiad o gynnal a mynychu'r Eisteddfod wrth iddi deithio o amgylch Cymru wedi gwreiddio'n ddwfn ynom fel cenedl ers hynny.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gynulleidfa yn y Pafiliwn, Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1902

Ers cychwyn yr Eisteddfod fodern, mae'r beirdd a'r llenorion wedi anfon eu gwaith gan ddefnyddio ffugenw, gyda'u manylion mewn amlen dan s锚l. Ac mae canrif a hanner o amlenni wedi'u storio'n ofalus yn archif yr Eisteddfod yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Dim ond yr amlen sy'n cynnwys enw'r enillydd sy'n cael ei agor, a hynny ar 么l i'r beirniaid ddod i benderfyniad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cylch yr Orsedd yn ei holl fawredd ar faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau, 2015

Felly, mae'r gweddill yn cael eu cludo'n ofalus i Aberystwyth heb eu cyffwrdd, a does yr un o staff yr Eisteddfod yn gwybod pwy ysgrifennodd beth a phwy gyrhaeddodd y dosbarth cyntaf a phwy fethodd i blesio'r beirniaid yng ngwaelodion y gystadleuaeth. Penderfyniad y beirdd eu hunain yw cyhoeddi'u henwau, ac mae hynny'n digwydd ambell flwyddyn wrth gwrs.

Ac felly, fe gafodd Cymru gyfan wefr ar bnawn Gwener braf yn Awst 2001, wrth i'r gyfrinach fawr gael ei datgelu. Ar sain yr utgyrn - y corn gwlad - safodd Mererid Hopwood ar ei thraed - y ferch gyntaf i ennill y Gadair. A hynny bron i ganrif a hanner ers cychwyn yr Eisteddfod fodern. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae hi'n un o'r ychydig rai i ennill y Goron, y Gadair a'r Fedal Ryddiaith. Ond roedd hon yn stori fawr ar y pryd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mererid Hopwood, a enillodd y Gadair yn Eisteddod Dinbych 2001, a Christine James a oedd yn Archdderwydd o 2013 i 2016.

Lai nag ugain mlynedd yn ddiweddarach, rydym wedi gweld merch yn cael ei hurddo'n Archdderwydd a merched yn Drefnydd a Phrif Weithredwr y sefydliad ei hun - esblygiad go gyflym yn ystod y ganrif hon!

A do, mae'r 诺yl wedi datblygu ac esblygu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Ddegawd yn 么l, roedd y Maes yn f么r o adeiladau gwyn, ond erbyn heddiw, mae 'na yurt, teepee, pob math o strwythurau gwahanol a llond lle o arwyddion a baneri sy'n creu ymdeimlad o 诺yl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pafiliwn streipiog gwyrdd a melyn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989

Ac mae Llwyfan y Maes a'r Pentref Bwyd yn galon gymdeithasol i'r cyfan, gyda'r gerddoriaeth fyw - a'r bar, datblygiad arall diweddar.

Am flynyddoedd, roedd y cysyniad o gael alcohol ar y Maes yn gwbl wrthun i selogion y Brifwyl, er bod hysbysebion alcohol i'w gweld yn y rhaglen swyddogol am genedlaethau! A bu'n rhaid disgwyl tan ganrif ar 么l y Diwygiad Mawr cyn i far gael ei gyflwyno ar y Maes am y tro cyntaf yn 2004. Ac mae wedi bod yn ychwanegiad poblogaidd i'r Maes, er nad oes unrhyw hysbysebion alcohol wedi bod yn y Rhaglen am flynyddoedd lawer erbyn hyn!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwerthu alcohol ar y Maes bellach wedi'w normaleiddio - y llun yma o Eisteddfod Llanrwst y llynedd

Eleni yw'r eildro i'r Eisteddfod gael ei gohirio'n gyfan gwbl - ac wedi'i gohirio mae'r 诺yl ac nid ei chanslo. Y Rhyfel Mawr oedd y rheswm dros ei gohirio y tro diwethaf yn 1914, ac fe'i cynhaliwyd ym Mangor flwyddyn yn ddiweddarach yn 1915.

Yn ddiddorol, y ddwy ardal a effeithiwyd arnynt yn 1914-15 oedd Gwynedd a Cheredigion a'r un yw'r ardaloedd y tro hwn, ond mai Ceredigion sydd wedi'i gohirio a Ll欧n ac Eifionydd wedi gorfod symud i 2022.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pan oedd Bae Caerdydd yn gartref i'r Eisteddfod yn 2018, Canolfan y Mileniwm oedd y Pafiliwn, gyda chynulleidfa dda a chanu cryf yn y Gymanfa Ganu ar fore Sul

Ond mae technoleg wedi ein galluogi ni i gynnal bron i dri mis o weithgareddau a digwyddiadau ar draws pob platfform eleni, ac i gydweithio gyda phartneriaid megis 大象传媒 Cymru Fyw a Radio Cymru. Ac fe fydd popeth yn cyrraedd pinacl yn ystod 'wythnos yr Eisteddfod', gyda bron i bum cant o weithgareddau ar draws pob 'adeilad', wrth i Faes yr Eisteddfod ddod yn fyw ar-lein ar sgrin ar y cyfryngau cymdeithasol ac yng nghartrefi pawb.

Gwyliwch, gwrandewch a mwynhewch yr arlwy, a chawn i gyd ddod ynghyd 'go iawn' y tro nesaf ar gaeau gleision Tregaron pan fydd y croeso hyd yn oed yn fwy cynnes yn dilyn blwyddyn yr Eisteddfod AmGen.