Datgelu gwobrau cystadlaethau G诺yl AmGen
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr wedi datgelu gwobrau cystadlaethau g诺yl AmGen, sydd wedi cael ei drefnu ar 么l i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 gael ei gohirio.
Yn hytrach na chadair, coron neu fedal, mae G诺yl AmGen yn cynnig st么l am ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith, ac i anrhydeddu dysgwr Cymraeg.
Mae G诺yl AmGen yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a 大象传媒 Cymru, ac yn rhan o'r Eisteddfod AmGen, sy'n cael ei threfnu yn absenoldeb y Brifwyl, oedd i fod i ddigwydd yn Nhregaron o 1-8 Awst.
Mae'r 诺yl yn cael ei chynnal trwy benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.
Cyhoeddwyd manylion y cystadlaethau llenyddol ddechrau Mehefin ac roedd angen cyflwyno ceisiadau cyn 6 Gorffennaf.
Roedd gofyn i'r ymgeiswyr ar gyfer y St么l Farddoniaeth greu darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen.
Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood yw'r beirniaid, ac roedd yna 34 o geisiadau.
Darn hyd at 500 gair ar y testun Gobaith oedd y dasg i roi cynnig am y St么l Ryddiaith, ac roedd yna 67 ymateb i'r her.
Roedd modd i'r darn fod yn ysgrif, stori fer, ll锚n micro neu unrhyw ffurf arall ar ryddiaith.
Dau sydd wedi cael llwyddiant ysgubol yn y Brifwyl yn ddiweddar, Manon Steffan Ros a Guto Dafydd, sy'n beirniadu.
Mae pum person ar rhestr fer gwobr Dysgwr yr 糯yl sef Mathias Maurer, Jazz Langdon, Si芒n Sexton, Elisabeth Haljas a Barry Lord.
Mae 大象传媒 Cymru a'r Eisteddfod yn cynnal y gystadleuaeth ar y cyd 芒'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Duolingo a Say Something in Welsh.
Fe fydd y pump yn cael eu cyfweld gan Sh芒n Cothi ar Radio Cymru cyn i'r panel beirniadu ddewis enillydd.
Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ar Radio Cymru am 16:30 ddydd Sadwrn, 1 Awst.
Cafodd y stolion eu creu gan Brif Dechnegydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Tony Thomas yn eu storfa yn Llanybydder.
"Mae Tony'n hen law ar ailgylchu ac wedi defnyddio beth bynnag oedd wrth law yn y storfa i greu'r stolion," meddai Robyn Tomos, Swyddog Celf Gweledol yr Eisteddfod.
"Mae'n ailgylchu bob cyfle - mae'n gas ganddo daflu unrhyw beth ac mae'n gallu gweld defnydd ym mhob peth y byddai eraill ei luchio.
"Mae'n dal i ddefnyddio rhannau o'r hen bafiliwn Celf a Chrefft godwyd yng Nghasnewydd yn 1988. Mae'n ddyfeisgar ac yn ddychmygus iawn."
Bydd enillwyr gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020 a seremoni Albwm Cymraeg y Flwyddyn hefyd yn cael eu darlledu fel rhan o'r 诺yl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020