Mwy o frechiadau ffliw am ddim i bobl Cymru?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r brechiad ffliw yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y gaeaf

Gall mwy o bobl gael brechiad ffliw am ddim y gaeaf hwn, yn 么l y gweinidog iechyd Vaughan Gething.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad tebyg yn Lloegr, rhag ofn y bydd cynydd eto mewn achosion coronafeirws.

Ond dywedodd Mr Gething nad oedd yn gallu sicrhau y byddai'n yn digwydd yma, gan nad oedd wedi cael unrhyw gadarnhad o gynlluniau Llywodraeth y DU.

Dywedodd ei bod yn "siomedig" nad oedd gwledydd y DU wedi dod i gytundeb yngl欧n ag ehangu'r rhaglen frechu yn erbyn ffliw.

Brechu pobl dros 50

"Mae 'na system ar draws y DU ar gyfer cyflenwi'r brechlyn ffliw," meddai Mr Gething wrth 大象传媒 Radio Wales.

"Llywodraeth y DU sy'n prynu'r brechlyn ar gyfer y pedair gwlad, felly fe ddylai bod digon o frechlyn ffliw ar gael yng Nghymru i gyd-fynd 芒'r ffordd y mae gwledydd eraill y DU yn mynd o'i chwmpas hi."

Dywedodd nad oedd yn gwybod ymlaen llaw fod y cyhoeddiad yngl欧n 芒 Lloegr am gael ei wneud.

Mae defnydd o'r brechiad yn cael ei ehangu yno rhag ofn y bydd cynnydd coronafeirws yn digwydd yr un pryd 芒'r ffliw tymhorol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Vaughan Gething nad oedd yn ymwybodol fod Lloegr am wneud cyhoeddiad yngl欧n 芒'r brechiad ffliw

"Byddwn i'n disgwyl cysondeb rhwng cyngor y pedwar prif swyddog meddygol," meddai Mr Gething.

"Os oes digon o frechlyn ffliw ar gael dwi wir ddim yn gweld unrhyw reswm dros fod yn anghyson."

Yn ddiweddarach cyhoeddwyd datganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau.

Yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd cyflenwad ychwanegol o'r brechlyn ar gael, bydd y canlynol yn cael eu cynnwys yn y rhaglen frechu ffliw hefyd:

  • Pobl sy'n rhannu cartref gydag unigolion yn y gr诺p gwarchod
  • Unigolion dros 50 oed

Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cysylltu 芒'r unigolion hynny sy'n gymwys.

Bydd cyflenwadau ychwanegol o'r brechlyn ar ffurf chwistrell trwyn, sy'n cael ei gynnig i blant, yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen frechu.

Ychwanegodd Vaughan Gething: "Drwy gynnig y brechlyn rhag y ffliw i fwy o bobl nag erioed o'r blaen, gallwn helpu i atal pobl rhag mynd yn s芒l a lleihau'r pwysau ar y GIG y gaeaf hwn.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael y brechlyn i'w gael."