大象传媒

Araith Llywydd y Dydd: Toda Ogunbanwo

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Toda Ogunbanwo, Llywydd dydd Gwener G诺yl AmGen

Toda Ogunbanwo yw llywydd dydd Gwener. Mae'n 20 oed ac yn dod o Benygroes yng Ngwynedd, ond mae bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain ac yn gobeithio bod yn hyfforddwr chwaraeon.

'...derbyn, deall ac addysgu fydd yn gyfrifol am newid.'

Cyn dechrau dwi eisiau dweud diolch am y cyfle i siarad. Dwi'n falch o gael siarad efo chi i gyd fel rhan o'r 糯yl AmGen.

Enw fi ydi Toda Ogunbanwo a dwi yn byw yn Penygroes, pentref bach yng ngogledd Cymru. Dwi wedi byw yn fan hyn ers bron i 13 o flynyddoedd ac wedi tyfu i fyny yn profi y diwylliant, y bobl, a'r system addysg yn yr ardal yma. Dwi wedi tyfu i garu'r wlad yma, ac mae'r bobl yn agos i fy nghalon.

Ond yn ddiweddar mae yna ddigwyddiadau wedi bod sydd angen i ni eu trafod. Mae hiliaeth yn bodoli ac mae'n effeithio ar bobl ddu ar draws Cymru. Bysa hi'n anghyfrifiol i mi beidio siarad am yr amseroedd hyn ar blatfform mor fawr 芒'r 诺yl hon.

Cefais fy ngeni yn Harlow yn Essex ac mi nes i fyw yna tan o'n i'n saith oed. Yn 2007, mi symudais efo fy nheulu i Gymru. Oedd o'n newid mawr sydd wedi siapio fy mywyd mewn gymaint o wahanol ffyrdd.

Y gwir trist ydi bo' fi wedi cael gormod o brofiadau o hiliaeth yn yr ysgol ac mewn grwpiau o "ffrindiau". Y rheswm am y camdriniaeth yma oedd lliw fy nghroen.

Pethau mor fach 芒 neb yn gadael fi chwara' gemau football efo nhw, a pethau mor fawr 芒 chael fy ngalw yn N gan fyfyriwr chwe mlynedd yn h欧n na fi. Dwi wedi cael plant yn poeri yn fy n诺r heb i mi wybod, dwi wedi cael plant yn llechio yogurt arna fi - a hynny heb fawr o ymateb gan yr athrawon.

Ma' cwffio a sefyll i fyny dros dy hun yn mynd yn anoddach pan wyt ti yn un person gwahanol mewn 500. Ma'n hawdd dweud bod y petha' yma ddim yn bodloi yng Nghymru. Ond y rheswm am hynny yw dydi dioddefwyr hiliaeth ddim yn siarad allan ddigon.

Dwi'n si诺r dydi lot o'r bobl sydd wedi gwneud neu ddweud rhywbeth hiliol fel hyn unai ddim yn cofio, neu heb sylwi eu bod nhw'n bihafio mewn ffordd hiliol.

'Ni ydi'r unig deulu du yn hanes Penygroes, a ni ydi'r unig deulu efo swastika ar ein garej ni...'

Dwi'n si诺r bod rhai ohonoch chi wedi clywed am be' ddigwyddod i fy nh欧 rhyw fis yn 么l. Gwnaeth rhywun o'r pentref dwi wedi byw ynddo, dysgu ynddo, a'i alw'n adra am bron iawn i dair blynedd ar ddeg, ddewis peintio swastika ar ddrws garej ein t欧 ni. Wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen wnes i gychwyn sylweddoli be' yn union oedd wedi digwydd.

Ma' swastika yn symbol casineb ar draws y byd, ac yn anghyfreithlon yn ngwledydd fel yr Almaen, Ffrainc a Gwlad Pwyl. 'Dan ni gyd yn deall beth mae o'n cynrychioli.

Dwi wedi dadsensiteiddio i bethau fel hyn, ac mae hynny'n drist. Ond mae'n anhygoel o drist bod rhywun yn 2020 yn teimlo ddigon cyfforddus i wneud hyn o gwbl. Anaml iawn dwi'n labelu pethau yn hiliol ond dydi o ddim yn gyd-digwyddiad 'na ni ydi'r unig deulu du yn hanes Penygroes, a ni ydi'r unig deulu efo swastika ar ein garej ni.

Mae pobl ddu wedi cyfrannu, siapio ac ychwanegu gwerth i'r wlad hon ac yn parhau i wneud hynny heddiw. Mae Cymru wedi chwarae rhan fawr yn y masnach gaethweision traws-Atlantig yn y gorffennol.

Mi wnaeth y teulu Pennant dalu am adeiladu Castell Penrhyn gyda gwaith caethweision yn Jamaica. Roedd cynnyrch y ffatri gopr yn Nhreffynnon yn cael eu defnyddio i brynu caethweision yn ngorllewin Affrica. Mi oedd ystad Pennant yn berchen ar bron 1000 o gaethweision ar draws pedair planhigfa erbyn 1805.

Dyma'r hanes dydan ni ddim yn ei ddysgu yn yr ysgol. Pe bai plant yn gwybod y cysylltiadau blaenorol rhwng eu gwlad nhw a gwledydd Affrica, rwy'n si诺r y byddent yn fwy meddylgar o ran defnyddio iaith hiliol.

Ffynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo

Mae Colin Jackson yn cael ei ystyried fel yr athletwr trac a maes gorau i ddod o Gymru. Roedd Abdulrahim Abby Farah yn ddyn Somal茂aidd a anwyd yng Nghymru a helpodd ryddhau Nelson Mandela. Nid yn unig hynny, ond roedd hefyd yn ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig rhwng 1979 a 1990. Mae 'na lawer o enghreifftiau o bobl ddu o Gymru y gallwn eu defnyddio ond rwy'n credu mai derbyn, deall ac addysgu fydd yn gyfrifol am newid.

'Dewis i ddangos cariad a thosturi tuag at ein gilydd'

Credaf fod y gorffennol yn rhoi cyd-destun i'r dyfodol ac wrth symud ymlaen gallwn ddewis i ddangos cariad a thosturi tuag at ein gilydd mewn ffordd doedd ein cyndediau methu.

Wrth feddwl am y dyfodol, dwi'n coelio bod y datrysiad yn gorfod cychwyn gydag addysg. Ma' pobl yn gorfod dysgu am a deall hanes ein gwlad, gan gynnwys y pethau negyddol. Mae canran fawr o boblogaeth Cymru a Phrydain yn teimlo bod nhw yn cael esgusodi eu hunain o'r hanes yma achos doedd yna ddim llawer o gaethweision ar dir Prydain yn gorfforol.

Mae ardaloedd fel gogledd Cymru yn hoffi meddwl nad ydi hilaeth yn bodoli yma, ond dwi'n drist i ddweud wrthych chi heddiw ei fod o. Mae'r arwydd casineb ar ein garej ni yn enghraifft gyhoeddus iawn o'r gwaith sydd angen i'w wneud yma.

Rwy'n credu os bydd pobl yn dysgu am ddiwylliannau a hanesion gwahanol i'w rhai eu hunain, fel y gwnes i am Gymru, mi fydd yn rhoi sylfaen llawer iachach i ni uno o'i amgylch. Nid er mwyn i ni gyd fod yr un peth, ond er mwyn gwybod am wahaniaethau pobl a derbyn a dathlu ein gilydd o'u herwydd nhw, gan ddechrau gyda rhywbeth mor fach 芒 gw锚n.

Hoffwn i weld y diwrnod lle geith unrhyw leiafrif symud i ogledd Cymru a theimlo y ca'n nhw groeso a chefnogaeth yma.

Diolch am wrando.