Twm Morys: Hiraeth am y Maes
- Cyhoeddwyd
Mae 'na Steddfod AmGen dros y we eleni ond does na ddim Maes - dim cae mwdlyd i'r Cymry gasglu ynddo, dim Pafiliwn na pheint yn yr haul a dim angen welingtons i grwydro i glywed yr holl sgyrsiau a darlithoedd difyr sydd ar gael ar y we.
Y Prifardd Twm Morys, un o wersyllwyr brwd yr Eisteddfod, sy'n hiraethu am yr hyn sydd ar goll er gwaetha'r holl dechnoleg - ac yn egluro pam na fydd yn cymryd rhan yn y 'Zoomryson'.
Cyfarch y llwythau
Dw i'n meddwl am yr Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd fel Brwydr y Corn Mawr Bach, pan ddaeth ynghyd gynghrair o lwythau'r Lakota, y Cheyenne a'r Arapaho, fyddai yng ngyddfau'i gilydd gan amla', i ymladd yn erbyn byddin yr Unol Daleithiau a chario'r dydd.
Bydd rhai ohonom yn cyrraedd y noson cyn i'r Å´yl gychwyn i osod ein gwersyll, neu a dweud yn iawn, gadael i'r Prif Garafaniwr Ifan Prys ei godi o.
A difyrrwch mawr drannoeth fydd eistedd yn yr adwy i wylio'r brodorion yn cyrraedd, a'u cyfarch nhw fesul un a dau neu fesul teulu, a gwybod ar eu hacen yn ateb, i ba lwyth maen nhw'n perthyn: pobl Gwlad y Mwynder, pobl Gwlad yr Hud, Lloeau LlÅ·n.
Gwaith y p'nawn cyntaf wedyn ers talwm oedd dwyn cyrch, y fi ac Elis Gwyn, i gael hyd i bencadlys yn y cyffiniau.
Os byddai'r Brifwyl mewn ardal lle na ddaeth y wennol yn ôl i'w nyth, fel petai, wel dyna fwydro pen y tafarnwr a selogion y lle er mwyn sicrhau y byddai croeso inni yn ystod yr wythnos, a chyfeddach a chenhadu!
Dydi'r cyrch hwnnw ddim yn digwydd ers pan mae bar mawr ym mhob pen i'r Maes, a Syched yn y canol, a thai tafarnau'r pentrefi oddi amgylch yn ddistaw er gwaetha'r bynting i gyd.
Mae llun yn rhywle o'r Priflenor Robin Llywelyn, y Prifardd Mei Mac a minnau yn ein gwisgoedd gwynion yn yfed peint o Ginus du yn Eisteddfod Casnewydd, 2004, y llun cyntaf o'i fath erioed.
A pheth rhyfedd i mi o bawb ei ddweud ar goedd fel hyn rŵan ydi mai'r peth mwya' andwyol ddigwyddodd erioed yn hanes yr Eisteddfod fel cenhadwraig genedlaethol oedd caniatáu gwerthu alcohol ar y Maes.
Un waith cyn hyn y penderfynwyd gohirio'r Brifwyl yn gyfan-gwbwl. Ym 1914 roedd hynny, pan oedd hi i fod ym Mangor; yn ystod wythnos gyntaf Awst y cyhoeddodd Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen. Aros o dan sêl am flwyddyn gyfan wnaeth y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau i gyd.
Penderfynwyd peidio â'i chynnal eto ym 1940, pan oedd hi i fod ym Mhen-y-Bont-ar-Ogwr. Roedd yno horwth o ffatri arfau anferth - y fwya' yn y byd, meddan nhw - a'r ofn oedd efallai na fyddai'r Luftwaffe yn cadw draw hyd yn oed petai'r Archdderwydd Crwys yn sefyll ar y Maen Llog ac yn gwgu arnyn nhw.
Ond y flwyddyn honno, cynhaliwyd math o rith-eisteddfod, y peth agosa' i'r Eisteddfod AmGen eleni y gellid ei greu â thechnoleg yr oes honno. Darlledwyd y cwbl ar y radio o stiwdio'r ´óÏó´«Ã½ ym Mangor.
Y gwahaniaeth oedd bod y prif gystadlaethau wedi mynd yn eu blaen. Rhoddwyd y gadair i T. Rowland Hughes am ei awdl 'Pererinion'. Roedd hon, meddai Alan Llwyd, yn awdl 'finiog o gyfoes', yn 'mynegi pryder am ddyfodol y wlad o ganol y Rhyfel…'
'O ganol y Pla'
Piti garw iawn yn fy marn i, un o feirniaid Cadair Tregaron, ydi na fyddai Pwyllgor yr Eisteddfod wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau am flwyddyn.
Annheg, meddech chi, i'r rheini sydd wedi gwneud y gwaith yn brydlon ac wedi ei anfon. Carreg a thwll, meddaf innau. Byddai'r rheini wedi cael blwyddyn arall i fireinio'u gwaith, neu i roi ail gynnig, a bydden ni wedi clywed rhai o feirdd a sgwenwyr Cymru yn mynegi pryder - a gobaith a hiwmor - am ddyfodol y wlad o ganol y Pla.
Bydd yn rhaid aros tan Eisteddfod Eifionydd a LlÅ·n, ac efallai erbyn hynny y bydd pethau mawr eraill i ganu amdanyn nhw.
Mi fydd yr Ymryson - y Zoomryson, chwedl nwythau - yn mynd yn ei flaen eleni mewn rhith o Babell Lên. Ond fydda' i ddim yn cymryd rhan.
Rhaid i mi wrth gynulleidfa fyw yn hytrach na llond sgrîn yn mynd a dod o gydymrysonwyr tebyg i bobl wedi eu codi o waelod llyn, fel mae'n rhaid wrth y cyfarchion yn adwy'r gwersyll wrth i'r llwythau gyrraedd, iddi fod yn Eisteddfod!
Nid drwg o beth, cofiwch, ydi cael blwyddyn arall i baratoi at Frwydr y Corn Mawr Bach eto. Ac nid drwg o beth ydi i Ifan Prys gael llonydd am unwaith:
Adeg yr Å´yl, clywaist gri - adlennwrs
Di-lun mewn trybini:
'Tyrd, Ifan! Mae d'angan di!'
Cei lonydd acw 'leni.