Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwyddonwyr Cymru'n arwain ar ddehongli cod genetig Covid-19
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru
Mae gwyddonwyr yng Nghymru yn arwain ymdrechion byd-eang i ddehongli ac olrhain newidiadau i god genetig coronafeirws.
Gallai ychydig o amrywiadau yn y cod gael effaith fawr ar y tebygolrwydd bod y feirws yn mynd yn fwy neu'n llai heintus, ac fe allai gael effaith ar ba mor effeithiol fyddai unrhyw frechlyn yn y dyfodol.
Mae samplau 6,000 o bobl - dros draean o'r rhai sydd wedi profi'n bositif yng Nghymru - wedi cael eu trefnu.
Mae'r wyddoniaeth hefyd yn helpu i ddelio ag achosion pan mae nifer o bobl yn cael eu heintio mewn ardaloedd penodol.
Mae uned genomeg pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru (PenGu) yn rhan o gonsortiwm 拢20m y DU.
Yr Unol Daleithiau a Lloegr yw'r unig wledydd sydd wedi casglu mwy o ddata na Chymru, ac mae gwyddonwyr o Gaergrawnt, Nottingham, Caerl欧r, Lerpwl a Sheffield ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan.
Dywedir bod t卯m Cymru - sydd eisoes yn arbenigwyr mewn olrhain ffliw - yn "gwneud yn well na'r disgwyl" wrth ddeall pandemig modern mwyaf y byd.
Beth mae'r wyddoniaeth yn ei wneud?
Mae cod genetig Covid-19 yn cynnwys tua 30,000 sylfaen neu lythyren - cyfuniad sy'n ffurfio DNA.
Wrth i'r feirysau gop茂o eu hunain o fewn celloedd, a mynd ymlaen i heintio eraill, gall gwallau bach ddigwydd yn y cod.
Drwy chwilio am y gwallau hyn, mae'r gwyddonwyr yn cynnig darlun gwerthfawr o sut mae'r feirws yn gweithio, yn newid ac yn lledaenu.
Mae canlyniadau miloedd o brofion positif yng Nghymru yn cael eu bwydo i gonsortiwm genetig Covid-19 y DU a chronfeydd data rhyngwladol.
Beth sydd wedi'i ddatgelu am y pandemig yng Nghymru?
Yn 么l Joanne Watkins, prif wyddonydd biofeddygol uned genomeg pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd "wrth ei bodd" pan weithiodd y broses am y tro cyntaf a phan lwyddon nhw i ddadansoddi'r achos positif cyntaf, oedd yn deillio o ogledd Yr Eidal.
"Roedden ni'n gwybod ei fod o bosib yn rhywun oedd wedi dychwelyd o'i wyliau - mi oedd hi'n dda gwybod ac roedd yn dilyn beth oedden ni hefyd yn ei weld yng ngweddill y DU," meddai.
"Gallwch weld sut mae'n symud ar draws y wlad ac ar draws y byd a sut mae'n newid yn dawel bach, ac o'r newidiadau hynny gallwch weld efallai os yw'r feirws yn mynd yn fwy ffyrnig neu os yw'n stopio'r feirws rhag bod mor llwyddiannus."
Drwy olrhain newidiadau yn y feirws, dywedodd bod modd helpu i ddatblygu brechlynnau hefyd.
Dywedodd yr Athro Tom Connor, arweinydd biogwybodeg yn PenGu, fod y llwyddiant yng Nghymru yn聽"syfrdanol", ond roedd hefyd yn tynnu sylw at yr her i weddill y byd gadw ar yr un lefel.
Ychwanegodd nad faint o ddata sy'n cael ei gasglu yng Nghymru yn unig oedd yn arbennig, ond y cydweithio agos gyda'r rhai yn y gwasanaeth iechyd sy'n ymladd yr achosion.
"Ni'n gallu integreiddio data'r genom i mewn i achosion lleol, ysbytai a'r system oruchwylio genedlaethol," meddai.
"Does dim modd gwneud hyn yn y rhan fwyaf o weddill y byd, a 'dyn ni wedi cael cryn dipyn o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud pa mor genfigennus ydyn nhw.
"Mae gennym ni rhywbeth eithaf arbennig."
Sut maen nhw'n dehongli'r cod?
Mae samplau positif Covid-19 o 10 labordy yn cael eu danfon i'r uned yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae cyfres o beiriannau yn troi RNA y feirws i mewn i DNA, ac yna'n gwneud sawl copi ohono.
Mae peiriannau eraill wedyn yn darllen y cod ac yn ei ddadansoddi.
Sut mae'n helpu'r frwydr yn erbyn Covid-19?
Gall y system yma helpu i ddeall achosion lleol yn well - felly os oes cyfres o achosion mewn ffatri gig, gall ddadansoddi i weld a gafodd y math arbennig hwnnw ei gyflwyno gan un person neu o sawl ffynhonnell.
Os yw'r feirws wedi'i gyflwyno gan nifer o bobl, mae'n dangos ei fod yn gwasgaru yn y gymuned, ac y dylai'r ymateb ganolbwyntio ar yr ardal ehangach.
Gallai newidiadau bach yn y cod genetig arwain at wahanol fathau o'r feirws yn ymddwyn yn wahanol.
Er enghraifft, mae'r dadansoddiad ar gyfer Cymru wedi bwydo i mewn i ymchwil yn archwilio sut mae un mwtaniad yn newid protein ar y feirws, gan leihau ei effeithiolrwydd.
Beth am y gwaith o ddatblygu brechlyn?
Mae llawer o'r ymdrechion presennol i ddatblygu brechlyn yn seiliedig ar wybodaeth o'r dilyniant cyntaf o Covid-19 gan wyddonwyr o China ddechrau Ionawr.
Pan fo brechlynnau'n dechrau cael eu cyflwyno, gallai dadansoddiad genomig helpu i ddadansoddi ei effeithiolrwydd.
Mae gwyddonwyr yn gobeithio y gallan nhw sicrhau nad yw'r feirws yn gallu dianc neu osgoi'r brechlyn.
Rhagweld effeithiau ail don posib
Mae gwybod pa amrywiadau o Covid-19 sy'n cylchredeg ac edrych yn 么l ar sut daeth y feirws i Gymru a'r DU yn ystod y don gyntaf yn helpu arbenigwyr i ragweld tonnau'r dyfodol.
Gall hefyd gynhyrchu amcangyfrifon mwy cywir o'r Rhif R.
Mae dadansoddiad PenGu eisoes wedi bwydo i mewn i gr诺p cynghori gwyddoniaeth uchaf y DU, gan gynnwys cymharu trosglwyddo cymunedol yn erbyn trosglwyddo yn yr ysbyty a sut y daeth y feirws i'r DU.
Sut mae'r t卯m yn paratoi ar gyfer y gaeaf?
Mae'r t卯m eisoes yn arbenigwyr mewn olrhain amrywiadau mewn feirysau resbiradol arferol - fel y ffliw - sy'n cylchredeg yn y gaeaf.
Ond bydd y gaeaf Covid-19 cyntaf yn creu heriau newydd a sylweddol.
"Un pryder mawr yw y gallai pobl ddioddef gyda nifer o bethau ar yr un pryd, fel y ffliw a Covid, sy'n peri pryder gwirioneddol gan y gallai arwain at ganlyniadau mwy difrifol," meddai'r Athro Connor.
"Y cafeat yw; mae'r holl bethau 'dyn ni'n ei wneud i atal lledaeniad Covid hefyd yn atal lledaeniad pathogenau anadlol eraill.
"Felly mae'r hyn y byddwn ni'n ei wneud yng Nghymru fel rhan o'n strategaeth gwyliadwriaeth ar gyfer y gaeaf yn edrych nid yn unig am Covid ond yn parhau i olrhain y feirysau eraill."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod Cymru wedi adeiladu聽"system genomeg o'r radd flaenaf".