Llwyfan Encore: Dydd Gwener 7 Awst

Yn ystod yr wythnos AmGen, Cymru Fyw yw cartref Llwyfan Encore yr Eisteddfod. Dewch yn ôl pob dydd i ddarganfod sesiynau amrywiol wedi eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gweithdy Canu 2: Sgiliau Perfformio

Disgrifiad o'r fideo, Gweithdy Canu 2: Sgiliau Perfformio

Dewch i ddysgu a rhannu profiadau gyda chantorion profiadol o'r byd clasurol proffesiynol, Sian Meinir, Fflur Wyn a Siôn Goronwy

Melodïau Merched Cymru

Disgrifiad o'r fideo, Melodiau Merched Cymru

Cyflwyniad gan Sioned Webb yn dathlu cyfansoddwyr benywaidd o Gymru ynghyd â pherfformiadau gan y soprano Iona Jones a Joy Aman ar y piano.

#UnawdEncore: Jasper Dommett: Record wedi ei Dorri

Disgrifiad o'r fideo, #UnawdEncore: Jasper Dommett: Record wedi ei Dorri

Perfformiad gan Ben Jones-Angove (bas dwbl), TÅ· Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ei waith ar gyfer y bas dwbl unigol, mae Jasper Dommett yn gofyn a ydym i gyd yn symud ymlaen trwy'r argyfwng hwn fel y nodwydd ar record sydd wedi torri, ac yn meddwl tybed sut fydd bywyd yn dilyn y pandemig hwn.

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle crëwyd pum comisiwn unigol byr ar gyfer pum offeryn unigol, wedi'u cyfansoddi a'u recordio wrth i'r cyfranwyr hunan ynysu.

Meirion Williams - Portreadau o Natur 4, Suo-Gân Natur

Disgrifiad o'r fideo, Meirion Williams – Portreadau o Natur 4, Suo-Gân Natur

Y bedwaredd mewn set o bedair cân a gyhoeddwyd gan Tŷ Cerdd, rhai oedd heb eu recordio hyd yma. Llais Osian Wyn Bowen, gyda Zoë Smith, piano. Tŷ Cerdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Y Delyn Clasurol yn y byd electroneg

Disgrifiad o'r fideo, Y Delyn Glasurol yn y byd electroneg

Cyflwyniad gwreiddiol gan yr amryddawn Catrin Finch sydd â blas gwahanol iddo o ganeuon traddodiadol a chlasurol, yn ogystal â cherddoriaeth newydd ar gyfer y delyn ac electronics.

Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 9. Llechi

Disgrifiad o'r fideo, Patrick Rimes a Pres A5: 'Y Gardigan Eto' - 9. Llechi

Yn ystod Mis Mawrth 2020, roedd Patrick ar daith efo Calan ar draws yr UDA. Wrth iddo fynd o Ddwyrain i Orllewin y wlad, a gweld effeithiau coronafeirws yn cropian tuag ato, fe ddaeth hi'n amlwg fod y daith yn mynd i orfod dod i ben.

Fel gymaint o weithiau o'r blaen, ffans anhygoel Calan wnaeth godi calon ac achub y sefyllfa. Erbyn iddynt gamu oddi ar yr awyren yn Heathrow, roedd y Crowdfunder, a sefydlwyd 10 awr ynghynt i'w helpu gyda chostau'r daith adref wedi codi swp o arian, gan addo bob mathau o bethau! Roedd yn rhaid i Patrick roi gwersi ffidil dros y we, werthu ei siaced liwgar, ac roedd deg alaw newydd wedi ei gomisiynu gan wahanol unigolion.

Mae'r alawon wedi dod yn gyfeillion i Patrick yn ystod cyfnod y clo. Heb gyfleoedd i berfformio'n fyw, roedd cyfansoddi a threfnu'r deunydd yma yn un o'r unig ffyrdd o gadw cysylltiad gyda'r byd creadigol, mewn amser a fyddai wedi gallu bod yn dywyll iawn fel arall.

Yn fwy diweddar, mae Patrick wedi cael pleser mawr yn ail-ddychmygu'r alawon (ar y cyd gyda Gwyn Owen a Pres A5) i mewn i gyfanwaith, a dyma nawfed gân y gyfres i'w mwynhau.