大象传媒

Terwyn Tomos yw enillydd St么l Farddoniaeth G诺yl AmGen

  • Cyhoeddwyd
Terwyn Tomos

Terwyn Tomos yw enillydd cystadleuaeth y St么l Farddoniaeth yng Ng诺yl AmGen 2020.

Yr her oedd ysgrifennu darn o farddoniaeth gaeth neu rydd聽rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen.

Mae'r cywydd buddugol yn trafod milltir sgw芒r a chymuned y bardd yng Nghwm Degwel wrth iddo ddod i werthfawrogi yr hyn sydd o dan ei drwyn.

Dywedodd y beirniaid bod y gwaith buddugol yn " lleol a chenedlaethol yr un pryd ac yn deilwng o'r St么l Farddoniaeth".

Disgrifiad,

Ymlaen gan Terwyn Tomos yw enillydd cystadleuaeth St么l Farddoniaeth G诺yl AmGen

Mae Terwyn yn gyn-athro sy'n dod o ardal Clydau, Sir Benfro, ac sydd wedi ymgartrefu yn Llandudoch.

Mae'n fardd a ddechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau tua 15 mlynedd yn 么l, ac sydd wedi ennill 23 o gadeiriau, gan gynnwys G诺yl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.

Mae hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod y Wladfa yn 2016 a 2018.

Yn hytrach na chadair, coron neu fedal, mae G诺yl AmGen yn cynnig st么l am ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith.

Yr Archdderwydd a'r Prifardd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood - Priflenor a Phrifardd - oedd yn feirniaid.

Dywedodd Myrddin ap Dafydd: "Dyfnder y filltir sgw芒r yw gweledigaeth y gerdd fuddugol gan Pererin.

"Mae'n mynegi canfyddiad llawer mewn awdl fer.

"Mae rhyddid ar lwybrau'r cwm; mae heddiw'n ymestyniad o orffennol hardd; mae pobl yn gymuned.

"Mae'n lleol a chenedlaethol yr un pryd ac yn deilwng o'r St么l Farddoniaeth."

Dywedodd Mererid Hopwood bod "elfennau canmoladwy" ym mhob ymgais, ond bod y gwaith buddugol yn "crisialu" yr hyn sydd wedi dod yn amlwg i lawer yn ddiweddar, bod y "cwbl o dan ein trwynau ni, ond i ni edrych a gweld, gwrando a chlywed".

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Morgan Owen, gydag Elan Grug Muse a Ll欧r Gwyn Lewis yn gydradd drydydd.

Mae G诺yl AmGen yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a 大象传媒 Cymru, ac yn rhan o'r Eisteddfod AmGen, sy'n cael ei threfnu yn absenoldeb y Brifwyl, oedd fod i ddigwydd yn Nhregaron o 1-8 Awst.

Mae'r 诺yl yn cael ei chynnal trwy benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.