Ll欧r Gwyn Lewis yw enillydd St么l Ryddiaith G诺yl AmGen 2020
- Cyhoeddwyd
Ll欧r Gwyn Lewis yw enillydd cystadleuaeth y St么l Ryddiaith yng Ng诺yl AmGen 2020.
Her y gystadleuaeth oedd ysgrifennu darn o ryddiaith hyd at 500 gair ar y testun Gobaith.
Gan ddefnyddio'r ffug enw Claf Abercuawg, mae gwaith buddugol Ll欧r yn stori fer sy'n s么n am gyfrif Twitter lle mae'r byd rhithiol yn plethu gyda'r byd go iawn.
Dywedodd y beirniaid bod ei waith yn "dal i'r dim deimlad anesmwyth cynifer ohonom fod y byd oddi ar ei echel".
Yn wreiddiol o Gaernarfon mae Ll欧r bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion, gan gynnwys聽Ysgrifau Beirniadol, Poetry聽Wales, Barddas聽ac O'r Pedwar Gwynt.
Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel, cyfrol ryddiaith gyntaf Ll欧r, wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2015, ac mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol arall sef casgliad o gerddi,聽Storm ar Wyneb yr Haul聽(2014) a chyfrol o straeon byrion,聽Fabula聽(2017).
Daeth yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth y St么l Farddoniaeth ddydd Gwener.
Yn hytrach na chadair, coron neu fedal, mae G诺yl AmGen yn cynnig st么l am ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith.
Dywedodd Manon Steffan Ros, oedd yn beirniadu gyda Guto Dafydd: "Mae Claf Abercuawg yn dal i'r dim deimlad anesmwyth cynifer ohonom fod y byd oddi ar ei echel, ac yn portreadu'n gelfydd y modd y mae pla a phoblyddiaeth wedi siglo'r gyfundrefn gysurus oedd ohoni."
Ychwanegodd bod y stori "mor gynnil a chryno, ond mae'r stori'n teimlo'n orffenedig".
Roedd 67 wedi ymgeisio - yn ail oedd Iwan Teifion Davies o Landudoch, ac yn drydydd oedd Elen Jones o Ddinbych.
Mae G诺yl AmGen yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a 大象传媒 Cymru, ac yn rhan o'r Eisteddfod AmGen, sy'n cael ei threfnu yn absenoldeb y Brifwyl, oedd fod i ddigwydd yn Nhregaron o 1-8 Awst.
Mae'r 诺yl yn cael ei chynnal trwy benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020