Jamie Roberts yn dychwelyd i Gymru gyda'r Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Mae canolwr Cymru, Jamie Roberts, wedi dychwelyd i chwarae rygbi yng Nghymru drwy arwyddo cytundeb gyda'r Dreigiau.
Wedi cyfnod o saith mlynedd y tu allan i Gymru, mae Roberts eisoes wedi dechrau hyfforddi gyda'r rhanbarth.
Fe wnaeth cyfnod Roberts, sydd wedi ennill 94 o gapiau rhyngwladol, gyda'r Stormers yn Ne Affrica ddod i ben ym mis Mawrth yn sgil pandemig Covid-19.
Y gred yw bod y canolwr 33 oed wedi arwyddo cytundeb blwyddyn o hyd.
Ers gadael y Gleision yn 2013, mae Roberts wedi chwarae dros Racing 92 yn Ffrainc ac Harlequins a Chaerfaddon yn Lloegr cyn ei gyfnod yn Ne Affrica.
Dywedodd Roberts ei fod wedi addo i'w hun y byddai'n dychwelyd i Gymru i chwarae pan adawodd ei famwlad.
Enillodd y canolwr ei gap diwethaf gyda Chymru yn Nhachwedd 2017, ond mae'n dal yn gymwys i chwarae'n rhyngwladol.
Dywedodd ei fod yn gweld "potensial enfawr" ymysg carfan y Dreigiau.
"Dwi'n falch ac yn ddiolchgar i fod wedi gallu cwblhau llawer o fy uchelgeisiau yn y g锚m a dyma'r amser perffaith i helpu'r Dreigiau ifanc yma i gyflawni eu rhai nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020