Ailddechrau ffilmio Pobol y Cwm ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Bydd ffilmio yn ailgychwyn ar y gyfres ddrama boblogaidd, Pobol y Cwm ddydd Llun, 10 Awst.
Bu'n rhaid i ffilmio ar y gyfres - sy'n dilyn hynt a helynt trigolion Cwmderi - ddod i ben dros dro o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws ym mis Mawrth.
Er y dylai'r gwaith ffilmio fod wedi ailddechrau yn gynnar ym mis Gorffennaf, bu oedi pellach oherwydd anghydfod am arian.
Dywedodd ffynonellau fod costau cynhyrchu'r rhaglen wrth gadw at reoliadau Covid-19 yn golygu bod modd creu llai o gynnwys am yr un faint o arian.
Mae Pobol y Cwm yn opera sebon ddyddiol sy'n cael ei chynhyrchu gan 大象传媒 Studios a'i chomisiynu gan 大象传媒 Cymru.
'Diogelwch yn flaenoriaeth'
Unwaith fydd y cynhyrchiad yn ailgychwyn ffilmio, mae disgwyl i'r gyfres ddychwelyd ar y sgrin yn yr hydref.
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys 大象传媒 Cymru, Si芒n Gwynedd: "Dyma newyddion gwych fod Pobol y Cwm am ddychwelyd i'r sgrin yn fuan iawn a dwi'n gwybod y bydd dilynwyr y gyfres wrth eu boddau.
"Yn y cyfnod sydd ohoni mae diogelwch ein cast a'r criw yn amlwg yn flaenoriaeth, ac wedi bod yn rhan o'r trafodaethau i ailgychwyn y cynhyrchiad."
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Ry'n ni'n falch iawn y bydd Pobol y Cwm yn dychwelyd i'r sgrin. Rwy'n si诺r bydd ein gwylwyr a ffans y gyfres am ddal fyny gyda helyntion trigolion Cwmderi cyn gynted 芒 phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020