大象传媒

Prifysgolion Cymru yn wynebu 'storm berffaith'

  • Cyhoeddwyd
myfyriwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae prifysgolion yng Nghymru yn wynebu "storm berffaith" a allai arwain at "broblemau go iawn" yn y dyfodol, yn 么l cyn is-Ganghellor prifysgol ac ymgynghorydd addysg uwch.

Mae'r Athro Syr Deian Hopkin wedi rhybuddio y gallai gostyngiad mewn myfyrwyr rhyngwladol oherwydd coronafeirws a Brexit, yn ogystal ag amharodrwydd posib myfyrwyr o Brydain i fynd i'r brifysgol yn ystod pandemig, fod 芒 goblygiadau ariannol difrifol.

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y gallai coronafeirws achosi gostyngiad o 50% yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n dod i Gymru - a fyddai'n arwain at golli tua 拢60m mewn ff茂oedd.

Mae'r corff Prifysgolion Cymru wedi cydnabod bod sefydliadau yn wynebu amseroedd heriol.

Ond mae'n mynnu fod prifysgolion wedi profi eu gallu i ddelio 芒'r amgylchiadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Athro Syr Deian Hopkin wedi rhybuddio bod "storm berffaith" ar y ffordd

Ffioedd dysgu yw dros hanner incwm prifysgolion Cymru, gyda ff茂oedd myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu'n sylweddol at y cyfanswm yna.

Yn 么l Syr Deian, fu'n is-ganghellor Prifysgol Southbank Llundain am wyth mlynedd, gallai gorddibyniaeth ar fyfyrwyr rhyngwladol gael effaith sylweddol, yn enwedig os oes gostyngiad mewn myfyrwyr domestig hefyd.

"Os ydy un myfyriwr tramor ddim yn troi lan, mae'n rhaid i chi gael dau o fyfyrwyr cartre' i lenwi eu lleoedd nhw 芒'r un ff茂oedd," meddai.

"Mae yna amryw o brifysgolion sydd mewn sefyllfa ariannol mwy bregus nag oeddyn nhw'n obeithio.

"Maen nhw wedi cynnal dyledion mawr ac mae'r incwm wedi bod yn gostwng. Mae eu hincwm ymchwil nhw wedi bod yn gostwng hefyd a nifer y myfyrwyr wedi mynd yn llai.

"Mae hynny'n golygu bod rhyw fath o storm berffaith yn dod.

"Fe ellir gofyn y cwestiwn, faint o brifysgolion fydd yn medru gorchfygu'r storm yma, mynd trwy'r tonnau ac ymddangos yn y diwedd yn iachach? Pwy a 诺yr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cyngor gan Lywydd NUS Cymru yw i siarad 芒 phrifysgolion gymaint 芒 phosib

Oherwydd y cymorth ariannol a ddarparwyd gan y Llywodraeth a ff茂oedd o'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, gallai'r argyfwng gwirioneddol daro prifysgolion y flwyddyn nesaf, yn 么l Syr Deian.

Mae'r undeb sy'n cynrychioli myfyrwyr wedi dweud bod pryder y bydd y sefyllfa bresennol yn golygu "na fyddan nhw'n cael yr un profiad" yn y brifysgol.

Ond dywedodd Becky Ricketts, Llywydd NUS Cymru fod yr argyfwng presennol yn rhoi cyfle i ddatblygu.

"Mae'n gyfle i addysg uwch edrych o ddifri ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn 2020 ac wrth symud ymlaen, i wneud yn si诺r bod myfyrwyr yn cael addysg mewn ffordd sy'n gweddu iddyn nhw ond hefyd mewn ffordd sy'n cefnogi ein sefydliadau."

Mae ymchwil gan yr IFS yn awgrymu y gallai prifysgolion Cymru golli tua 拢3,800 y myfyriwr oherwydd Covid-19. Mae hynny'n is nag yn Lloegr (拢4,700) a'r Alban (拢4,500).

Ond mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu nad ydyn nhw mewn sefyllfa mor gryf i ddelio 芒'r sgil effeithiau o gymharu 芒 gwledydd eraill y DU, gydag asedau net o 拢11,000 fesul myfyriwr.

Mae gan brifysgolion Yr Alban asedau net o 拢20,100 ar gyfartaledd, tra bod gan Loegr hefyd gyfartaledd uwch o 拢18,900.

'Llai o arian yn y cronfeydd'

Mae arolygon gan London Economics a QS yn awgrymu y gallai nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n cymryd lleoedd mewn prifysgolion yn y DU ostwng dros 50%.

Yn y cyfamser, mae arolwg diweddar gan Youthsight a UCAS yn awgrymu y gallai nifer y myfyrwyr domestig ddisgyn 15%.

Ond fis diwethaf fe wnaeth data gan UCAS awgrymu bod y nifer uchaf erioed o bobl 18 oed yn y DU wneud cais i astudio ym mhrifysgolion y DU.

Beth sydd ddim yn glir yw a fydd myfyrwyr yn gohirio eu ceisiadau, yn enwedig os oes ail don yn y pandemig fel y rhybuddiodd y Prif Swyddog Meddygol yr wythnos hon.

Gall sefyllfa ariannol gymharol wannach prifysgolion Cymru eu rhoi mewn sefyllfa fwy anodd, yn 么l ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Mae un mesur allweddol gan yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch yn edrych ar fewnlif arian net o weithgareddau gweithredu fel cyfran o gyfanswm eu hincwm.

Y gred yw y gallai prifysgol sydd 芒 mewnlif arian net o lai na 5% wynebu trafferthion difrifol o ganlyniad i'r hinsawdd bresennol.

Mae tri sefydliad yng Nghymru yn perthyn i'r categori hwn sef Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

"Mae prifysgolion Cymru yn fwy dibynnol ar ff茂oedd dysgu," meddai Cian Sion, awdur dadansoddiad y Canolfan Llywodraethiant Cymru.

"Ar gyfartaledd hefyd maen nhw efo llai o arian yn eu cronfeydd dros gefn o gymharu 芒 phrifysgolion Lloegr - sy'n rheswm arall efallai pam eu bod nhw am ei ffeindio hi'n anoddach i ymateb."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cian Sion: 'Mae prifysgolion Cymru yn fwy dibynnol ar ff茂oedd dysgu'

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r heriau" i brifysgolion a'u bod yn darparu 拢31m i gefnogi addysg uwch.

"Rydym yn gweithio gyda'n prifysgolion i'w hyrwyddo gartref a thramor ac ry'n ni wedi cyhoeddi canllawiau i helpu i ddychwelyd myfyrwyr yn ddiogel yn yr hydref," meddai llefarydd.

Dywedodd Prifysgolion Cymru fod cyhoeddiad y llywodraeth yngl欧n 芒'r arian newydd yn profi eu bod yn cydnabod y r么l bwysig y mae prifysgolion yn ei chwarae yn ein cymunedau.

"Heb os, mae hwn yn gyfnod heriol i Gymru a'r DU yn fwy cyffredinol," meddai'r Athro Julie Lydon, Cadeirydd y gr诺p.

"Fodd bynnag, drwy gydol y pandemig, mae ein prifysgolion wedi profi eu gallu i reoli set o amgylchiadau hynod gymhleth a heriol, gan ddangos ymatebolrwydd a hyblygrwydd sydd wedi gwasanaethu Cymru'n dda."