Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwarantin i deithwyr o Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg
Bydd yn rhaid i bobl sy'n teithio o Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg hunan-ynysu am 14 diwrnod ar 么l cyrraedd Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething y bydd y mesurau'n dod i rym o hanner nos heno.
Cafodd mesurau tebyg eu rhoi ar Lwcsembwrg, Sbaen a Serbia y mis diwethaf hefyd.
Mewn newidiadau eraill, ni fydd angen i deithwyr sy'n cyrraedd o Brunei a Malaysia fynd i gwarantin.
Dywedodd Mr Gething fod y penderfyniad wedi'i wneud ar 么l iddo "ystyried y dystiolaeth ar gyfer y risg i iechyd y cyhoedd" wrth i deithwyr ddychwelyd i'r DU o'r lleoedd hyn.