Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am incwm sylfaenol i artistiaid Cymreig
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 大象传媒 Cymru
Dylai artistiaid Cymreig gael incwm sylfaenol gan y wladwriaeth i'w hachub rhag effeithiau'r pandemig, yn 么l Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywedodd Sophie Howe y byddai system o'r fath hefyd yn helpu'r wlad yn ehangach trwy glymu taliadau i ymrwymiad i ddarparu gwaith er budd y cyhoedd.
Mae llawer o berfformwyr llawrydd a chriwiau technegol wedi colli gwaith tra bod cyflogwyr, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, wedi diswyddo staff oherwydd y pandemig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ei chyllid brys o 拢53m ar gyfer y sector yn cynnwys "contract diwylliannol" sy'n mynnu cyflog teg i weithwyr yn y celfyddydau.
Mae'r pandemig wedi effeithio'n arbennig o wael ar bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau celfyddydol a chreadigol, gyda setiau ffilm wedi'u cau a llawer o theatrau'n annhebygol o ailagor tan 2021.
Mae disgwyl i Ganolfan Mileniwm Cymru golli 拢20m o incwm masnachol tra bydd ei drysau ar gau, ac maen nhw eisoes wedi diswyddo staff fel rhan o'i ymdrechion i osgoi mynd i'r wal cyn ailagor flwyddyn nesaf.
Mae Sophie Howe wedi hyrwyddo'r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol o'r blaen.
Dywedodd y gallai canolbwyntio ar y sector celfyddydau a chreadigol fod yn beilot defnyddiol i'r cynllun.
Croesawodd Ms Howe y 拢53m i gefnogi adfer y celfyddydau, ond dywedodd y gallai gael ei ddefnyddio i ariannu incwm sylfaenol i bobl sy'n gweithio yn y maes.
Byddai hyn, meddai, yn darparu diogelwch tymor hir ac yn cefnogi adferiad ehangach Cymru.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru Fyw: "Pam nad ydyn ni'n cael pobl greadigol i helpu awdurdodau lleol i ailddylunio canol eu trefi a'u dinasoedd mewn ffordd sy'n mynd i ddod 芒 phobl yn 么l i mewn? Pam nad ydy rhai o'n prosiectau adeiladu mawr yn cael mewnbwn gan bobl greadigol, o'r cychwyn cyntaf?
"Mi allwn ni adeiladu ar rai o'r pethau gwych sydd eisoes wedi digwydd, lle mae gweithwyr proffesiynol creadigol wedi gweithio gyda phobl sy'n unig ac yn ynysig, fel y rhai sydd wedi perfformio yng ngerddi cartrefi gofal ac ati.
"Ac rwy'n credu bod yna nifer fawr o gyfleoedd i ddefnyddio'r sgiliau hynny er budd y cyhoedd."
'80% o fy incwm wedi mynd yn llwyr'
Mae Ify Iwobi yn 26 oed ac yn byw yn Abertawe lle mae hi'n gwneud bywoliaeth fel pianydd a chyfansoddwraig proffesiynol.
Pan darodd y pandemig, cafodd ei chalendr o gyngherddau a digwyddiadau ei ddileu yn gyflym.
"O'n i fod i berfformio ym mhobman gyda fy mand i, mewn llefydd fel Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, ond mae pawb wedi canslo," meddai.
Mae hi'n croesawu'r syniad o incwm sylfaenol i weithwyr proffesiynol creadigol, ar 么l gweld y rhan fwyaf o'i hincwm ei hun yn cael ei ddileu gan y pandemig.
Er bod rhai o'r myfyrwyr y mae hi'n rhoi gwersi piano iddyn nhw dal i'w derbyn dros alwadau fideo, mae'r mwyafrif wedi canslo ac mae taith oedd wedi'i chynllunio i India hefyd wedi'i gohirio.
"Mae 80% o fy incwm wedi mynd yn llwyr. Mae mor anodd pan rydych chi'n dibynnu ar berfformiadau i'ch ariannu, ac mae wedi diflannu'n gyfan gwbl."
Pan ofynnwyd iddi am y syniad incwm sylfaenol gwarantedig, dywedodd: "O gosh, byddai hynny mor ddefnyddiol. Fydda fe yn ffynhonnell arall i helpu i ariannu fy ngyrfa.
"Dyma yw ein bywydau ni, ein bywoliaeth, ein llawenydd ni, mae'n golygu popeth i ni.
"Pe bai rhyw ffordd y gallai'r llywodraeth wneud rhywbeth i'n helpu a'n cynorthwyo, fyddai hi'n golygu'r byd i ni a fyddwn ni mor ddiolchgar."
'Dangos gwerth artistiaid'
Tynnodd Sophie Howe sylw at y gefnogaeth mae artistiaid yn ei derbyn mewn rhai gwledydd eraill, a dywedodd na fyddai incwm sylfaenol yn gyfateb i grant.
Dywedodd: "Meddyliwch am yr arian fel 'rhywbeth am rywbeth'. Os ydych chi'n cael arian gan y wladwriaeth i helpu i gynnal eich incwm, beth ydych chi'n mynd i'w roi yn 么l er budd y cyhoedd?
"Ac rwy'n gwybod bod yna filoedd o weithwyr proffesiynol creadigol allan yna a fyddai mor awyddus i wneud hynny, a channoedd o wasanaethau cyhoeddus a all elwa hefyd."
Mae'r syniad wedi'i gefnogi gan Graeme Farrow, cyfarwyddwr artistig Canolfan Mileniwm Cymru.
Mae Mr Farrow wedi bod yn cynnal trafodaethau diswyddo gyda'i gydweithwyr ers i'r ganolfan gyhoeddi ym mis Mehefin y byddai'n cau tan 2021 ac yn peryglu 250 o swyddi.
"Po fwyaf y meddwl a'r gweithredu creadigol sy'n rhan o'r adferiad yng Nghymru, gorau oll a'r mwyaf cydnerth fydd hi," meddai.
"Mae artistiaid yng Nghymru wedi dangos pa mor werthfawr yw eu gwaith mewn iechyd, addysg a meysydd eraill ar draws yr economi.
"Mae yna gyfle gwirioneddol yma i fuddsoddi yn ein hartistiaid yn ogystal 芒'n dyfodol law yn llaw, nid yn unig drwy gynnig sy'n lleddfu pwysau yn y tymor byr.
"Mae math o incwm sylfaenol sy'n caniat谩u i ymarferwyr creadigol weithio dros amser mewn cymunedau, mewn gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yn ddull blaengar o fanteisio ar y cyfle hwn ac rwy'n cefnogi gweledigaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn hyn o beth."
Mewn datganiad dywedodd llywodraeth Cymru: "Bydd ein Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol nid yn unig yn helpu i gefnogi llawer yn y sector i ymateb i'r heriau y mae coronafeirws wedi'u gosod arnynt, ond mae hefyd yn cyflwyno cyfle unigryw i gyflawni newid sylweddol gyda chyflwyniad contract diwylliannol sydd 芒 gwaith teg, t芒l a chynaliadwyedd wrth ei wraidd."