Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Dim llacio'r rheolau cwrdd o dan do
Ni fydd rheolau ar gyfarfod pobl eraill dan do yn cael eu llacio'r penwythnos hwn fel oedd wedi cael ei awgrymu'n flaenorol, medd y Prif Weinidog.
Ond fe fydd pedair aelwyd yn hytrach na dwy yn medru ffurfio aelwyd estynedig o 22 Awst cyn belled ag y bydd amodau'n "parhau'n sefydlog".
Y disgwyl yw y bydd modd cynnal brecwast priodas i hyd at 30 o bobl o'r un dyddiad.
Mae mesurau gorfodi pellach hefyd yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio gyda rheolau diogelwch Covid-19.
Bythefnos yn 么l dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "hoffi medru cynnig mwy o gyfleoedd i bobl i gwrdd o dan do" o 15 Awst.
Ond ychwanegodd bryd hynny mai dyma'r "peth mwyaf risky y medrwch chi wneud".
Mae bellach wedi penderfynu peidio gwneud newidiadau i'r rheolau y penwythnos hwn.
Beth yw'r gwahaniaeth?
Cafodd Mr Drakeford ei holi ar Radio Wales fore Gwener, a gofynnwyd iddo pam fod pobl yn medru cwrdd mewn tafarnau, mannau chwarae a champfeydd ond eto ddim yn cael cwrdd gyda chyfeillion a theulu yn eu cartrefi?
Atebodd: "Pan mae pobl yn mynd i dafarn neu le chwarae maen nhw mewn lle cyhoeddus lle mae rheolau clir am sut y dylai pobl ymddwyn mewn lleoliadau o'r fath, ac mae pobl yna i sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn. Hefyd mae pobl yn mynd i leoliadau felly am gyfnodau cymharol fyr.
"Yn anffodus, beth ry'n ni wedi dysgu yw bod pobl yn ymddwyn yn wahanol yn eu cartrefi, hyd yn oed pobl sy'n frwd dros lynu at y rheolau fel arfer yn dueddol o fynd yn 么l i'r drefn arferol o ymddwyn yn ein cartrefi ein hunain.
"Yn Lloegr mae 70% o heintiadau newydd yn cael eu holrhain i heintio ar aelwydydd... pobl yn ymddwyn yn eu cartrefi mewn ffyrdd sy'n risg iddyn nhw ac i eraill."
Ychwanegodd: "Dyna pam y mae mor bwysig nad ydyn ni'n gwahodd pobl o'r tu fas i'n haelwydydd estynedig i mewn i'n cartrefi.
"Ry'n ni wedi gwneud cymaint o welliannau a rhaid i ni beidio peryglu hynny.
"Dydyn ni ddim mewn sefyllfa lle dylen ni fod yn ymweld gyda chartref unrhyw un ar unrhyw adeg."
Gall pobl Cymru ond gyfarfod o dan do os ydyn nhw'n rhan o aelwyd estynedig.
Ar hyn o bryd gall dwy aelwyd wahanol fod yn rhan o aelwyd estynedig, ond o'r penwythnos nesaf bydd hynny'n cynyddu i bedair.
Ni fydd modd hollti un aelwyd estynedig a ffurfio un newydd bryd hynny.
Mesurau gorfodi
Yn y cyfamser, mae'r prif weinidog hefyd wedi cyhoeddi y bydd pwerau newydd yn cael eu cyflwyno ddydd Llun sy'n gorfodi busnesau lletygarwch i gasglu manylion cysywllt bob cwsmer.
Mae hyn er mwyn i'r timau Profi, Olrhain a Gwarchod fedru "cysylltu'n gyflym gyda phobl sydd efallai wedi dod i gysylltiad gyda'r feirws," meddai Mr Drakeford.
Mae awdurdodau lleol eisoes yn medru cyflwyno rhybuddion gwelliant neu hyd yn oed gau busnesau sydd ddim yn cydymffurfio gyda rheolai diogelwch Covid-19.
Nawr mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd rhaid i unrhyw fusnes sydd wedi derbyn rhybudd o'r fath ddangos arwydd.
Ychwanegodd Mr Drakeford: "Dyw'r pandemig yma ymhell o fod ar ben, ac mae dyletswydd ar bob un ohonom ni i chwarae rhan wrth gadw Cymru'n ddiogel."
Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru, Cemlyn Davies
Mae e' bob tro'n rhybuddio bod unrhyw newidiadau'n amodol ar ledaeniad y feirws ar y pryd, ond roedd ei d么n yn arbennig o ofalus pan siaradodd bythefnos yn 么l am y posibilrwydd o ganiat谩u i fwy o bobl gwrdd dan do o'r 15fed o Awst ymlaen.
Honnodd mai dyna'r "peth mwyaf peryglus y gallwch ei wneud" ac y byddai'n astudio'r dystiolaeth yn ofalus.
Mae e bellach wedi penderfynu aros ychydig yn hirach cyn llacio'r cyfyngiadau'n rhannol - hynny mae'n debyg ar sail yr hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r DU ble mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o Covid-19.
Dywed fod y trafferthion yna o ganlyniad i bobl yn trosglwyddo'r feirws y tu mewn, a diffyg cydymffurfio gan rai busnesau.
Dyna pam mae gweinidogion yma hefyd yn cryfhau eu hagwedd tuag at gwmn茂au nad sy'n dilyn y rheolau'n ddigon agos.