大象传媒

Ailddechrau ffilmio Rownd a Rownd ar 么l toriad

  • Cyhoeddwyd

Yn gynharach eleni bu'n rhaid i waith cynhyrchu Rownd a Rownd ddod i derfyn disymwth oherwydd y coronafeirws. Ond, nawr, gyda rhai o reolau'r cyfnod clo wedi'u llacio mae'r cast a'r criw yn cael dychwelyd i bentref Glanyrafon i barhau 芒'r gwaith ffilmio.

Y tro hwn, fodd bynnag, mae bywyd ar y set yn dra gwahanol.

Ffynhonnell y llun, Rondo

"Ar 么l y canllawiau newydd dan ni'n 么l yn ffilmio Rownd a Rownd, diolch i'r drefn." meddai Carys Haf Gaffey, Rheolwr Lleoliadau'r gyfres deledu.

"Ond mae wedi cymhlethu pethau rhywfaint. Y ffaith bod ni methu mynd mewn i leoliadau sydd ddim yn rhan o'n sefydliad ni. Methu mynd i dai bobl ac oherwydd hynny wedi gorfod codi sawl set sydd wedi bod yn andros o waith i'r adran gelf."

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r setiau fu'n rhaid ei adeiladu o'r newydd oedd t欧 Sian a John

Nid ar y setiau'n unig yr oedd rhaid ail-edrych ond bu'n rhaid addasu'r sgriptiau hefyd, meddai Cliff Jones, cynhyrchydd Rownd a Rownd.

"Mi fuodd rhaid i ni yrru'r sgriptiau i gyd yn 么l a wedyn eu haddasu nhw - dim ond cadw'r cymeriadau oedd yn hanfodol i'r stori yn y golygfeydd."

Bu'n rhaid i'r t卯m cynhyrchu wneud penderfyniadau anodd eraill hefyd, fel mae Cliff Jones yn ei egluro ymhellach: "'Dan ni wedi dweud hefyd ein bod ni yn y cyfnod cynnar yma ddim am ddefnyddio extras o gwbl."

Er mwyn gallu cadw'r cynhyrchu i barhau yn ddiogel mae'r t卯m cynhyrchu wedi gorfod dod o hyd i leoliad ffilmio newydd. Bellach mae hanner y criw yn gweithio o Langefni a'r hanner arall o Gil Bedlam ym Mhorthaethwy - cartref arferol Rownd a Rownd.

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar leoliad yn Ysgol Gyfun Llangefni

A yw hi'n her anodd ar y set pan mae'r camer芒u'n recordio?

"Fyswn i'm yn dweud ei fod yn anodd, ond mae'n sialens. Ac mae'n cymryd llawer iawn mwy o amser. Mae rhywbeth 'dach chi'n ei gymryd yn ganiataol fel golchi llestri a gosod y bwrdd neu fwyta cinio nawr wedi mynd yn broses dwy awr, dair i'w baratoi ac i'w ffilmio," meddai Rhian Mair, cyfarwyddwr Rownd a Rownd.

Ond mae'r cast yn addasu'n gyflym yn 么l yr actor Huw Garmon sy'n portreadu John yn y gyfres: "Mae'n mynd yn iawn. Mae'n wahanol iawn, wrth gwrs, ond mae jest yn gofyn am bach fwy o fynadd gan bawb."

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Catherine Hughes o'r Adran Golur sy'n gweithio mewn PPE llawn

Un o'r pethau mae'r cast wedi gorfod dechrau ei wneud yw ei colur eu hunain. Mae Catherine Hughes sy'n gweithio yn yr adran golur yn egluro: "Mae'r cast yn cael bag bach [o golur] i fynd adra efo nhw, ac ar gyfer recordio maen nhw'n gwneud eu colur adra. Wedyn 'dan ni'n cael checks bach sydyn yn fa'ma, o bell, ac yn gwisgo'r PPE i gyd."

Ffynhonnell y llun, Rondo

Un o aelodau cynta'r cast i wneud hyn yw Leisa Gwenllian, sy'n fwy adnabyddus ar y sgrin fel Kylie: "Mae gwneud fy ngholur fy hun yn rili rhyfedd. Dw i'n gorfod codi lot cynt. So, mae hynna'n rili annoying! Ond, na, dw i'n joio fo. Dw i'n cael experimentio ac wedi cael products bach fy hun a ballu."

Ond ar y cyfan, mae pawb yn falch o fod yn 么l.

Meddai Mari Wyn, sy'n actio Si芒n: "Mae popeth wedi cael ei egluro i ni ymlaen llaw, felly dw i jest yn edrych 'mlaen i weld pawb a chael yn 么l i'r swing o bethau."

Dywedodd Idris Morris Jones, sef Ken yn y gyfres, "Dw i'n byw allan yn y wlad. Yr unig le dw i wedi bod mewn gwirionedd ydy i siopa bwyd felly dw i'm wedi gweld fawr neb! Mae'n lyfli gweld wynebau cyfarwydd ond wedyn oedd rhywun 'chydig bach yn bryderus bod efo pobl mewn llefydd caeedig. Ond mae'r paratoadau yma'n gr锚t ac mae pawb yn ymwybodol o'r sefyllfa. Mi ddown ni i ben dw i'n meddwl."

Ffynhonnell y llun, Rondo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Idris Morris Jones wedi actio rhan Ken Walsh yn Rownd a Rownd am ugain mlynedd.

Dywedodd Meilir Rhys Williams sy'n actio Rhys: "Dros lockdown dw i wedi bod yn garddio, tyfu llysiau, torri coed. Dw i 'di bod yn 'sgota a gwneud bach o DIY a thorri gwalltiau fy nheulu hefyd, felly dw i'n handyman ar y diawl r诺an! Os 'dach chi isio rhywbeth wedi'i wneud - fi ydy'r dyn i chi!"

Er hynny, mae'n prysur ddweud "Mae hi'n neis cael strwythur achos do'n i'm yn gwybod pa ddiwrnod oedd hi! Mae pawb yn ofalus, mae pawb yn bwyllog ac mae'n braf ein bod ni'n cael ail-ddechre ffilmio i'w chael hi'n 么l ar y teledu ym mis Medi."

Disgrifiad,

Mae'r criw yn 么l wedi toriad hir yn ystod cyfnod y coronafeirws

Hefyd o ddiddordeb