Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgoloriaeth Llyndy Isaf yn dod i ben
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi ei bod yn dod ag Ysgoloriaeth Llyndy Isaf i ben.
Bwriad yr Ysgoloriaeth oedd rhoi cyfle i aelodau'r Mudiad Ffermwyr Ifanc rhwng 18 a 26 oed聽ar y cyd 芒'r Ymddiriedolaeth i gael rheoli fferm Llyndy Isaf ar Eryri am gyfnod.聽聽
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth eu bod wedi gorfod dod a'r ysgoloriaeth i ben er mwyn "achub cronfeydd elusennol".
Bydd y gwaith o gynnal a chadw'r fferm nawr yn cael ei drosglwyddo i ofal rheolwyr Llyndy Isaf o fis Medi ymlaen.
Mewn datganiad dywedodd yr Ymddiriedolaeth: "Rydym yn falch ein bod wedi cefnogi ffermwyr ifanc trwy'r ysgoloriaeth dros y saith mlynedd diwethaf ac rydym yn falch iawn bod Teleri Fielden, ein hysgolhaig olaf, yn dilyn heriau newydd yn ei gyrfa ysbrydoledig."
Yn 2011 cyfrannodd dros 20,000 o bobl tuag ap锚l 拢1 miliwn dan arweiniad yr actor Matthew Rhys.
O ganlyniad i'r ap锚l, dywedodd yr Ymddiriedolaeth bod dyfodol y fferm a'i fywyd gwyllt cyfoethog wedi cael ei ddiogelu ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.
Cyfle am newid
Y cyntaf i dderbyn yr ysgoloriaeth n么l yn 2013 oedd Caryl Hughes o ardal Llanarmon ger Croesoswallt.
Dywedodd hi wrth raglen Post Cyntaf fore Mawrth ei bod hi'n siomedig bod y cyfle yn dod i ben, ond mai bwriad y cynllun ar y dechrau oedd i redeg am bum mlynedd yn unig.
"W'rach ei bod hi yn gyfle nawr i stepio n么l ac i edrych ar beth sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf a manteisio ar y pump sydd wedi bod a dyfeisio plan ar gyfer y dyfodol.
"Mae ganddyn nhw lot o ffermydd yn yr ardal sydd rwan yn dod i fyny efo'i tenantiaeth, yn 么l y s么n, ac ella bod hi'n amser iddyn nhw edrych ar ffarm wahanol, steil gwahanol, i roi mwy o cyfleoedd w'rach i'r ffermwyr ifanc.
"Mi oedd Llyndy Isaf yn ffarm fawr, o'dd o'n dros 500 o erwau, ond beth oedd yn anfantais i'r fferm yna oedd bod o 'mond efo ychydig bach o dir isel yn y gwaelod, ac felly o'dd o'n reit gyfyngedig o ran beth oeddet ti'n gallu ffermio yno dros y flwyddyn."
Yn ystod cyfnod Caryl blwyddyn yn unig oedd deiliaid yr ysgoloriaeth yn ei gael ar y fferm. Yn 2018 yn 么l fe benderfynodd yr Ymddiriedolaeth a'r Mudiad i newid y cyfnod i un tair blynedd.
Teleri Fielden sydd wedi bod yn ffermio Llyndy Isaf dros y tair blynedd diwethaf ar 么l ennill yr ysgoloriaeth yn 2017.
"Mae'n amser da i edrych ar hyn i gyd nawr er mwyn cymharu profiadau pobl sydd wedi neud blwyddyn a'r drefn tair blynedd," meddai Caryl, "achos efallai fyddan nhw'n penderfynu bod tair blynedd yn gormod o amser, w'rach, i beidio symud ymlaen neu ydy blwyddyn yn rhy fyr."
"Mae'r person sy'n derbyn yr ysgoloriaeth yn cael t芒l, yn cael byw yn y t欧 ac yn cael truck hefyd, a w'rach bod na fodd i'r un sy'n ennill yr ysgoloriaeth yn gallu rhoi rhywbeth i mewn eu hunain (yn ariannol) fel bod o'n fwy realistig i sut mae ffermio yn digwydd.
"Does yna neb yn gallu mynd i mewn i ffarmio heb bres o gwbl, a 'dy nhw ddim yn derbyn wage, felly w'rach bod angen i'r peth bod yn fwy realistic, bod ganddyn nhw eu stoc eu hunain, a bod yr ysgoloriaeth yn helpu i symud pethau ymlaen."