Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llifogydd wrth i law trwm a gwyntoedd cryfion daro Cymru
Mae llifogydd wedi taro rhai cymunedau ac mae trafnidiaeth wedi'i effeithio wrth i Storm Francis ddod 芒 glaw trwm a gwyntoedd o hyd at 70mya i Gymru.
Dywedodd diffoddwyr eu bod yn delio 芒 llifogydd yng Nghastell-nedd, Llanelli, Tonyrefail a Hendy-gwyn a nifer o fannau eraill.
Yn 么l y Cynghorydd Rob James mae "tua throedfedd o dd诺r" mewn rhai cartrefi yng Nghwm Gwendraeth, ac mae amodau gyrru yn "enwedig o anodd".
Daw wrth i'r Swyddfa Dywydd uwchraddio eu rhybudd am wyntoedd cryfion o felyn i oren.
Mae Heddlu'r Gogledd a Traffig Cymru wedi trydar i ddweud bod llifogydd ar yr A5 rhwng Bangor a Bethesda wedi cau'r l么n yno i'r ddau gyfeiriad, ac mae llawer o dd诺r ar yr A55 rhwng troadau Llanfairfechan a Dwygyfylchi yn golygu amodau gyrru anodd iawn yno.
Bu trafferthion hefyd ger Abergwyngregyn ar yr un lon. Mae'r heddlu'n apelio ar yrwyr i arafu yn yr ardal.
Dywed Traffig Cymru hefyd fod yr A5 o Nant Ffrancon i Capel Curig wedi cau oherwydd tirlithriad.
Cartrefi heb b诺er
Nos Fawrth fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi gofyn i bobl yn ardal Stryd y Castell yng Nghaerdydd i adael yr ardal am fod sawl adeilad yno wedi eu difrodi.
Yn y de a'r gorllewin mae cannoedd o gartrefi heb drydan meddai cwmni Western Power Distribution.
Yn y gogledd a'r canolbarth fe ddywed Scottish Power bod cyflenwadau trydan wedi eu colli i tua 3,000 o gwsmeriaid yn ardaloedd Caernarfon, Betws-y-Coed, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Y Trallwng, Machynlleth, Llanymynech, Drenewydd a Chaersws.
Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys achub gr诺p o naw o bobl a dau gi ar faes gwersylla yn Sancl锚r wedi i dd诺r eu gwahanu rhag gweddill y safle.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod lefel Afon Cynin yno dros ddau fetr yn uwch na'r lefel arferol.
Mae gan CNC mewn grym yn y de-orllewin ger afonydd Gwendraeth Fawr a'r Taf.
Roedd Parc Gwyliau Llwyngwair yn Nhrefdraeth, Sir Benfro yn un o'r rheiny gafodd eu heffeithio gan y tywydd garw fore Mawrth.
"O'n i'n ymwybodol o'r gwynt a'r glaw wrth ddeffro bore 'ma a gweld lefel y d诺r, ond o'dd e'n gyfnod pryderus iawn," meddai'r rheolwr Meleri Clare Ennis.
"O fewn amser byr iawn, fe gododd yr afon, felly o'dd hi'n amser bryd hynny i ddeffro'r ymwelwyr.
"Gobeithio bo' ni dros y gwaetha."
Ychwanegodd Patricia Lloyd Evans, sydd wedi bod yn aros yn y parc gwyliau: "O'dd pawb yn trial helpu'r rhai mewn trafferth ac o'dd angen adlenni lawr ar frys - y prif nod o'dd diogelwch pawb.
"O'dd y plant yn becso bo' ni'n mynd i orfod gadael, ond gan fod pethe 'di gwella ni'n mynd i aros."
Mae teithwyr wedi cael eu rhybuddio bod amodau gyrru yn anodd, ac y gallai trenau a ffer茂au gael eu heffeithio oherwydd y tywydd.
Mae'r M48 Pont Hafren ynghau oherwydd y gwyntoedd, a Phont Cleddau yn Sir Benfro ynghau i gerbydau sy'n dalach na 1.9m.
Mae un rheilffordd ger Castell-nedd wedi'i rhwystro gan dd诺r, ac mae nifer o drenau rhwng Abertawe a Chaerdydd yn wynebu oedi neu wedi'u canslo yn llwyr.
Mae cwrs rasio ceffylau Cas-gwent eisoes wedi canslo'r rasys oedd i fod i gael eu cynnal yno ddydd Mercher, gan ddweud eu bod eisoes wedi cael 25mm o law yno ac yn disgwyl rhagor.
Yng Nghaerdydd fe achoswyd difrod i fwyty Lake Spice yn ardal Y Rhath wedi i goeden ddisgyn ar yr adeilad oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Mae gan y Swyddfa Dywydd ddau rybudd am wynt ac un am law mewn grym nes fore Mercher.
Maen nhw wedi uwchraddio eu rhybudd i un oren, gyda disgwyl i'r gwyntoedd cryfaf daro Cymru rhwng 14:00 a 22:00 ddydd Mawrth.
Maen nhw'n rhybudd y gallai'r gwynt amharu ar gyflenwadau trydan, gyda'r perygl o goed yn disgyn mewn mannau.
Fe allai'r gwyntoedd hyrddio hyd at 70mya ar yr arfordir a'r bryniau, gyda gwyntoedd o 55-60mya yn gyffredinol.