Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr enwau mwyaf poblogaidd ar fabis Cymru
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o'r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2019.
Dyma restrau Cymru Fyw o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru'r llynedd:
Enwau merched (a'r nifer)
1. Mali (92)
2. Erin (78)
3. Ffion (70)
4. Alys (62)
5. Seren (57)
6. Eira (38)
7. Cadi (37)
8. Lowri (37)
9. Nia (39)
10. Lili (34)
, gyda 215 Olivia wedi ei geni, yna Amelia (165), Isla (149), ac Ava (140).
Yn cwblhau y rhestr o'r 10 enw merched mwya' poblogaidd yng Nghymru oedd Freya (134), Willow (134), Mia (131), Ella (130), Rosie (122) ac Elsie (118).
Enwau bechgyn (a'r nifer)
1. Arthur (168)
2. Osian (130)
3. Dylan (116)
4. Elis (113)
5. Harri (111)
6. Tomos (80)
7. Jac (69)
8. Macsen (62)
9. Evan (58)
10. Owen (46)
O'r holl enwau i fechgyn (267 ohonynt).
Yn ail ar y rhestr mae Noah (239), yna Charlie (211) a Jacob (211). Yn bumed ar y rhestr mae Theo (183), George (182), Leo (169), Arthur (168), Oscar (158) ac yn cwblhau y 10 uchaf mae Alfie (157).
Hefyd o ddiddordeb: