'Fe ges i gerdyn Nadolig gan lofrudd'

Disgrifiad o'r llun, Roedd Peter Moore yn berchen ar nifer o sinem芒u ar draws y gogledd

"Fe wnes i o am hwyl, roedd yn hawdd."

Dyma'r geiriau a glywodd y cyfreithiwr a amddiffynodd "llofrudd gwaethaf Cymru" - pan gyfaddefodd Peter Moore i'w droseddau yn oriau m芒n Noswyl Nadolig 1995.

Roedd Moore - sydd wedi ei ddedfrydu i garchar am oes ag yng ngharchar Wakefield - yn gyfrifol am farwolaeth pedwar dyn yng ngogledd Cymru yn ystod hydref y flwyddyn honno.

Roedd ei ymosodiadau "gyda chymhelliant rhywiol".

Y gred hefyd yw ei fod yn gyfrifol am ymosod o leiaf 20 o weithiau gan ddefnyddio pastwn heddweision dros gyfnod o ugain mlynedd.

Rhwng cael ei arestio y mis Rhagfyr hwnnw yn 1995, hyd at ei achos llys yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Tachwedd 1996, cafodd ei gynrychioli gan gyn-gyfreithiwr o Abergele, Dylan Rhys Jones.

Mae Mr Jones yn credu mai Moore yw'r person mwyaf dichellgar y daeth ar ei draws erioed yn ystod ei yrfa, gan newid ei stori er mwyn chwarae gemau gyda'r heddlu, "fel cath 芒 llygoden".

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r cerdyn a dderbyniodd Dylan Rhys Jones gan Peter Moore

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae Mr Jones yn teimlo bod yr amser bellach yn iawn i fanylu ar yr ymchwiliad.

Dywedodd Mr Jones fod y pethau a welodd ac a glywodd dros y flwyddyn honno wedi arwain at orfod derbyn cwnsela yn y pen draw.

Bellach mae wedi ysgrifennu llyfr am y cyfnod: 'The Man in Black - Peter Moore: Wales' Worst Serial Killer.'

"Flynyddoedd ar 么l i Moore gael ei ddedfrydu, byddwn i'n cael breuddwydion a gweld delweddau o gerdded i lawr stryd gyda'r nos a chael fy nhrywanu, gan glywed yn fy mhen y ffordd y disgrifiodd Moore yn bwyllog yr hyn yr oedd wedi'i wneud.

"Penderfynais yn y pen draw ei fod yn rhywbeth (ysgrifennu'r llyfr) roedd yn rhaid i mi ei wneud.

"Nid yw'r hyn rydw i wedi bod drwyddo yn ddim o'i gymharu 芒 theuluoedd y dioddefwyr, ond fe achosodd i mi gael breakdown rhyw 10 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae ysgrifennu'r llyfr wedi bod o gymorth yn fy adferiad."

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y pedwar dyn gafodd eu llofruddio gan Moore eu trywanu i farwolaeth

Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 1995, llofruddiodd Moore ei ddioddefwyr, gan ddechrau gyda Henry Roberts, 56 oed, yn ei gartref ger Caergeiliog, ar Ynys M么n.

Hefyd fe lofruddiodd Edward Carthy, 28, yng nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun, Sir Ddinbych, a Keith Randles, 49 oed, oedd yn reolwr traffig o Gaer.

Cafodd ei ladd lle'r oedd yn byw ar y pryd, ar safle gwaith ffordd ger yr A5 yn Ynys M么n.

Ei ddioddefwr olaf - yr un a fyddai'n arwain at arestio Moore - oedd Anthony Davies, 40.

Fe gafodd ei drywanu a'i adael i farw ar Draeth Pensarn ger Abergele, man cyfarfod adnabyddus i ddynion hoyw.

'Y dyn mewn du'

Ganed Moore ym 1946, ac fe gafodd ei adnabod fel y "dyn mewn du" oherwydd ei ddillad tywyll unigryw.

Roedd yn berchen ar gadwyn o sinem芒u ledled gogledd Cymru.

Fe'i disgrifiwyd fel aelod tawel ac uchel ei barch - os nad ychydig yn ecsentrig - o'r gymuned.

Fe wnaeth archwiliad o'i d欧 ar 么l iddo gael ei arestio ddarganfod paraphernalia Nats茂aidd, ynghyd 芒 gwisg a phastwn sarjant o Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Moore y byddai'n gwisgo naill ai mewn gwisgoedd yr heddlu neu wisg Nats茂aidd wrth ymosod ar rywun, "dim ond i'w dychryn ychydig yn fwy".

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Keith Randles ei lofruddio ar ochr yr A5

Cafodd Peter Moore ei arestio ar 22 Rhagfyr 1995 ac fe wadodd bopeth i ddechrau, ond ar 么l i archwiliad o'i gartref ddatgelu rhai o eiddo'r dioddefwyr ym mhwll ei ardd, ynghyd 芒 chyllell mewn bag gydag olion gwaed y pedwar dyn, fe newidiodd ei stori yn oriau m芒n noswyl y Nadolig.

"Roeddwn i wedi cael rhywfaint o gyswllt 芒 Moore o'r blaen - mi wnes i drin yst芒d ei fam ar 么l ei marwolaeth - ond roeddwn i wedi fy synnu i gael galwad i ddod i'w gynrychioli yng ngorsaf heddlu Llandudno," meddai Mr Jones.

"Ar y dechrau dywedodd nad o oedd y dyn yr oedd yr heddlu yn chwilio amdano, ac fe aethom trwy ddau ddiwrnod o gyfweliadau, ond yn oriau m芒n Noswyl Nadolig cefais alwad i ddod yn 么l i'r orsaf oherwydd bod Moore eisiau dweud rhywbeth wrtha i.

"Pan ddechreuodd siarad yn yr ystafell gyfweld roedd fel gwylio madfall yn symud tuag at ei ysglyfaeth, yn araf, yn asesu pob symudiad, heb ddefnyddio'i egni yn ddiangen, dim ond disgrifio hanfodion craidd y weithred."

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones

Disgrifiad o'r llun, Dylan Rhys Jones

Ond erbyn y bore canlynol, tynnodd Moore ei gyfaddefiad yn 么l.

Honnodd ei fod yn cael ei ddefnyddio i amddiffyn "y llofrudd go iawn", sef ei gariad, a alwodd yn Jason.

Ni ddaeth yr heddlu o hyd i unrhyw arwydd o fodolaeth Jason, ond er hynny, glynodd Moore at ei stori a phlediodd yn ddieuog yn ei achos.

"Mae'n rhaid i chi gynrychioli'ch cleient ar sail yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthych chi, ond er hynny, hwn oedd yr achos anoddaf i mi gymryd rhan ynddo erioed," meddai Mr Jones.

"Pan gysylltais 芒 Moore i drafod y llyfr hwn, fe ddywedodd yn gyntaf y byddai'n cydweithredu, yna tynnodd ei hawliau ymweld yn 么l, ac yna dyma fy ngwraig yn agor cerdyn Nadolig ganddo.

"Mae'n ymddangos ei fod yn ceisio rheoli pobl ac amgylchiadau, hyd yn oed ar 么l 24 mlynedd yn y carchar."