Gobaith ailagor rheilffordd ar draws Ynys M么n

Dros hanner canrif ers cau'r cledrau i deithwyr rhwng Amlwch a Gaerwen, mae 'na obaith newydd y gallai'r rheilffordd ailagor fel gwasanaeth cymunedol ac atyniad i dwristiaid.

Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais am fuddsoddiad i ailgyflwyno trenau ar y cledrau rhwng y ddwy dref.

Os yn llwyddiannus fe allai'r rheilffordd gludo teithwyr o ben Ynys M么n yn Amlwch, i Fangor ac ar hyd glannau'r gogledd i Landudno.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys llwybr i gerddwyr a beicwyr i fwynhau'r daith o 17.5 milltir.

Profiad unigryw

Fe gaeodd y trac rhwng y ddwy dref yn 1963/64 yn dilyn adroddiad Richard Beeching ar ddyfodol y rheilffyrdd ym Mhrydain.

I'r rheini oedd yn eu defnyddio yn aml, ac i'r miloedd oedd yn cael eu cyflogi, mi oedd y penderfyniad yn un dadleuol ac yn ergyd i econom茂au lleol.

56 mlynedd yn ddiweddarach mae 'na obaith y bydd trenau yn cael dychwelyd a chynnig profiad unigryw i bobl o bell a chyswllt angenrheidiol i bobl leol.

Disgrifiad o'r llun, Cadeirydd Cwmni Rheilffordd Ganolog M么n - Walter Glyn Davies

Roedd Walter Glyn Davies ar y tr锚n olaf yn 1964. Mae o'n gobeithio cyflawni breuddwyd oes a bod yn un o'r cyntaf i deithio rhwng y ddwy dref os caiff y cynllun s锚l bendith.

"Mae hwn yn galondid mawr i ni", meddai Cadeirydd Cwmni Rheilffordd Ganolog M么n

"Mae ein Senedd ni wedi bod yn gefnogol ers blynyddoedd ac mae'r ffaith bod nhw r诺an yn gyhoeddus efo'r posibilrwydd y daw arian - mae o'n d卯m reit gryf r诺an."

Y gobaith ydi agor y rheilffordd rhwng Gaerwen ac Amlwch sy'n ymestyn am dros 17 milltir a chynnig trenau cymunedol i bobl leol a threnau st锚m i ddenu twristiaid.

"Mae'n debyg bod o'n hatgoffa pobl am yr hyn sy'n cael ei gyfeirio fel Oes Aur Cymru.

"Ma na ryw ramant i injan st锚m", meddai Walter Glyn Davies.

Disgrifiad o'r llun, Protestio yn erbyn cau'r cledrau cyn i fwyell Dr Beeching ddisgyn yn y 60au

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys agor safle i gerddwyr a beicwyr dan faner 'Y L么n Las'- llwybr amlddefnydd gwyrdd a fyddai'n rhedeg ochr yn ochr 芒'r cledrau.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r cynllun sydd wedi ei gyflwyno yn dangos eu bod yn "uchelgeisiol" wrth roi hwb i reilffyrdd Cymru ac wrth arddangos treftadaeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod ehangu rheilffyrdd Cymru yn 'flaenoriaeth' a'u bod yn gweithio gyda llywodraeth Prydain i wireddu'r cynllun.