Covid-19: Cais i deithwyr o Zante hunan-ynysu yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pobl sy'n teithio o ynys Zante yng Ngwlad Groeg i Gymru yn cael cais i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar 么l dychwelyd i Gymru, meddai'r Gweinidog Iechyd.

Cyhoeddodd Vaughan Gething bod pryderon am nifer yr achosion o'r coronafeirws ar yr ynys, a'r posibilrwydd o ledaenu'r feirws yn 么l yng Nghymru.

Mae taith uniongyrchol yn rhedeg rhwng Zante a Chaerdydd, a bydd pob teithiwr ar yr hediad yn cael cynnig prawf o fewn 48 awr, ac eto ymhen wyth diwrnod.

Mae cwmni TUI, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth o Faes Awyr Caerdydd i Zante, hefyd wedi cyhoeddi na fyddant yn parhau i gynnig gwyliau yn ardal Laganas o ddydd Iau, 3 Medi.

Dywedodd llefarydd mai eu blaenoriaeth oedd "iechyd a diogelwch ein cydweithwyr a chwsmeriaid a bod achosion diweddar wedi dangos nad yw rhai pobl yn dilyn mesurau diogelwch priodol".

Dros 30 achos

Mae Gwlad Groeg yn un o'r gwledydd sydd wedi eu heithrio o reolau hunan-ynysu i deithwyr.

Ond daw'r cyhoeddiad ar 么l i o leiaf 16 o bobl brofi'n bositif ar gyfer Covid-19 wrth ddychwelyd o Zante i Gaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Mae bron i 200 o bobl oedd ar yr awyren wedi cael gorchymyn i hunan-ynysu.

Gofynnodd y gweinidog hefyd i unrhyw un sy'n teithio o Zante i Gymru drwy faes awyr y tu allan i'r wlad i ddilyn yr un canllawiau, gan hunan-ynysu a gwneud cais am y ddau brawf.

'Heb glywed llawer am y sefyllfa'

Disgrifiad o'r llun, Mae Ellis a Jennifer Roberts ar eu gwyliau ar ynys Zante

Fe fydd hynny'n effeithio ar Ellis Roberts a'i wraig Jennifer o Lanfairpwll sydd ar wyliau ar yr ynys ar 么l hedfan yno o faes awyr Lerpwl.

"'Da n'n fflio 'n么l bore fory neu amser cinio fory, 'da ni heb glywed llawer am y sefyllfa a dweud y gwir m'ond be da ni wedi gweld ar y we. Dim byd swyddogol o gwbl," meddai Mr Roberts.

"Mae Mr Gething yn son am flights sydd wedi mynd allan neithiwr a heddiw yn unig a dim byd am beth sydd yn mynd ar 么l heddiw, felly dwi ddim yn si诺r sut mae dallt hi."

Ychwanegodd: "Dwi wedi bod adre yn gweithio ers mis Mawrth, a rhyfedd ges i alwad ff么n wythnos diwethaf yn dweud bo' fi yn mynd 'n么l i gwaith ddydd Llun y seithfed.

"Ond dwi ddim yn meddwl bydd hynny yn digwydd rwan bydd rhaid fi siarad gyda fy mos i weld os ga'i gario 'mlaen gweithio adre am bythefnos.

"Mae Jennifer yn gweithio yn y coleg so mae hi yn gweithio adre tan o leia mis Ionawr - 'di o ddim yn effeithio arnom ni.

"Mae ganddon ni ddwy o genod adre sydd yn 18 a 21, ond dwi ddim yn gwybod be' yn union sy'n mynd i ddigwydd hefo nhw - bydd rhaid ni ddarllen fyny am y peth."

'Cyflwyno heintiadau o'r newydd'

Mae sawl clwstwr o achosion sy'n gysylltiedig ag ynys Zante yn 么l Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Gething bod chwe chlwstwr a chyfanswm o dros 30 o achosion yn deillio o bedwar hediad - gan gynnwys dau hediad i Loegr.

Ychwanegodd bod sawl enghraifft o bobl sydd heb ynysu, a bod hynny'n "bryder gwirioneddol i ni gyd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad, dywedodd Mr Gething bod "Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynegi pryderon uniongyrchol ynghylch y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil teithwyr a fydd yn dychwelyd i Gaerdydd heno o Zante".

Ychwanegodd ei fod yn "rhannu'r pryder hwnnw".

"Mae hi bron yn sicr y bydd teithwyr sy'n dychwelyd o leoedd sydd 芒 mwy achosion o Covid-19 yn arwain at gyflwyno heintiadau o'r newydd yng Nghymru."

Yn siarad 芒'r 大象传媒 fore Mercher, dywedodd Mr Gething ei fod yn derbyn bod newid y rheolau'n "anodd i bobl sydd ar wyliau", ond y byddai gwneud dim yn "achosi niwed llawer mwy i ni gyd".

'Gwybodaeth camarweiniol'

Dywedodd Mr Gething hefyd bod y system olrhain cysylltiadau yn cyrraedd tua 90% o bobl.

"Y rheswm dydyn ni ddim am gael system olrhain 100% ar gyfer y gwasanaeth cyfan yw bod rhai pobl ddim eisiau i neb i gysylltu ac maent wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol yn fwriadol i'r gwasanaeth," meddai.

"Mae'r system olrhain cysylltiadau yn dibynnu ar bobl i fod yn gyfrifol ac i roi gwybodaeth onest.

"Os nad ydyn nhw yn gwneud hyn mae'r bobl yma yn rhoi eu hiechyd eu hunain a rhai o'u cwmpas yn y gymuned mewn perygl."

Ystyried profi yn y maes awyr

Ychwanegodd bod angen i bobl "wneud y peth iawn os ydyn ni am osgoi ton fawr arall fel y gwelon ni yn y gwanwyn".

Mae maes awyr Caerdydd wedi gofyn i Lywodraeth y DU am eglurder yngl欧n 芒 phrofi mewn meysydd awyr ac yn cefnogi galwadau i gael "system brofi gadarn".

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried profi'r holl deithwyr ym maes awyr Caerdydd.

Nos Fawrth, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai'n rhaid i bobl sy'n dychwelyd o Groeg hunan-ynysu am 14 diwrnod o ddydd Iau ymlaen.

Cyngor sir yn ymchwilio

Yn y cyfamser, mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau ar wefannau cymdeithasol fod pobl sydd wedi dychwelyd o Zante wedi bod i nifer o dafarndai yn ardal Maesteg.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd swyddogion yn cysylltu gyda gwahanol sefydliadau sydd wedi eu henwi yn yr honiadau gan gynnig "cefnogaeth a chyngor."

"Rydym yn gweithio yn agos gyda'r bwrdd iechyd lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru," meddai'r llefarydd.

"Mae angen i unrhyw un sy'n credu iddynt ddod i gysywllt gydag unigolion sydd wedi dychwelyd o Zante fod yn ymwybodol o symptomau Covid-19."