大象传媒

Pleidleisio o blaid ymgynghoriad i gau Ysgol Abersoch

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Google

Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio'n unfrydol o blaid bwrw 'mlaen gyda chyfnod o ymgynghori statudol fyddai'n arwain at gau Ysgol Gynradd Abersoch yn haf 2021.

Cyn y cyfarfod roedd llywodraethwyr yr ysgol wedi dadlau fod cynnal ymgynghoriad rhithiol dros y we ar ddyfodol yr ysgol yn ystod y cyfnod clo wedi eu rhoi mewn "sefyllfa amhosib".

Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng tair ac wyth oed, ac mae'r plant yn trosglwyddo i ysgol gyfagos ar 么l blwyddyn tri i gwblhau eu haddysg gynradd.

Mae gan yr ysgol le ar gyfer 42 o ddisgyblion rhwng blynyddoedd meithrin a blwyddyn tri, ond ym mis Medi roedd wyth disgybl llawn amser a dau ddisgybl meithrin ar y gofrestr.

Dywed Cyngor Gwynedd fod niferoedd disgyblion yr ysgol wedi gostwng yn gyson ers 2016 "ac yn fregus ers peth amser".

Mae'r gost o addysgu disgybl yn yr ysgol dros 拢10,000 y pen yn uwch nag ysgolion cyfagos, medd yr awdurdod.

'Cau'r ysgol yn arbed 拢96,000 y flwyddyn'

Dywedodd deilydd y portffolio addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams, nad oedd yn "mwynhau cyflwyno'r adroddiad" ar ddyfodol yr ysgol, "nid oedd wedi ei gwblhau ar chwarae bach."

Roedd yr adroddiad yn nodi'r pryder am niferoedd y disgyblion yn y dyfodol, gyda'r wyth disgybl llawn amser a dau ddisgybl meithrin yn costio 拢17,440 y pen i'w haddysgu, o gymharu gyda'r cyfartaledd o聽拢4,198 ar draws y sir.

Os bydd y penderfyniad yn cael ei wneud i gau'r ysgol ar ddiwedd y cyfnod o ymgynghori statudol, fe fydd y disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Sarn Bach am weddill eu haddysg gynradd.

Mae swyddogion addysg y cyngor o'r farn nad yw'r ysgol yn un gynaliadwy a hithau'n gweithredu ar 24% o'i chapasiti.

Gyda dim ond disgwyl cynnydd bychan yn niferoedd y disgyblion yn y dyfodol, y ddamcaniaeth yw y byddai cau'r ysgol yn creu arbediad ariannol blynyddol o 拢96,062, hyd yn oed wrth ystyried costau teithio ychwanegol.

Mae disgwyl canlyniad yr ymgynghoriad statudol yn y misoedd nesaf.