Penderfyniad Wylfa Newydd yn rhyddhad i ffermwyr gerllaw

Disgrifiad o'r llun, Mae teulu Richard a Gwenda Jones wedi bod yn ffermio'r tir ger Wylfa ers dros 300 mlynedd
  • Awdur, Alun Rhys
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Tra bo' llawer yn poeni am effaith economaidd y penderfyniad i beidio bwrw 'mlaen i godi ail orsaf niwclear Wylfa, mae'r newydd wedi ei groesawu gan deulu sy'n ffermio ger y safle arfaethedig.

Daeth cadarnhad yr wythos hon bod cwmni Hitachi yn tynnu'n 么l o gynllun atomfa Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Mae Richard a Gwenda Jones yn cadw gwartheg godro ar Fferm Caerdegog ger Cemaes, ac mae'r teulu wedi ffermio'r tir ers dros 300 mlynedd.

Wyth mlynedd yn 么l daeth cynrychiolydd o gwmni Horizon - is-gwmni Hitachi - i'r fferm i ddweud eu bod eisiau prynu 65 erw o'u tir, sef hanner y fferm yr oedden nhw'n berchen arni.

Penderfynodd y cwpl, sydd 芒 thri o blant, nad oedden nhw am werthu.

'Caerdegog ddim ar werth'

"Doedd yna ddim penderfyniad [i'w wneud]," meddai Richard.

"Doedd Caerdegog ddim ar werth am unrhyw bris i neb.

"Mae'r teulu wedi bod yma ers canrifoedd ac mae'r gwreiddiau yn ddwfn, ac nid bod gennym ni afael ar y tir ond mae'r tir hefo gafael arnom ni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Daeth cadarnhad yr wythos hon bod Hitachi yn tynnu'n 么l o gynllun Wylfa Newydd

Rhoddwyd cryn dipyn o bwysau arnyn nhw i werthu. Yn 么l Gwenda fe gawson nhw eu bygwth hefo pryniant gorfodol.

"Mi fu pryniant gorfodol yn cael ei wyntyllu ganddyn nhw ac yn cael ei fygwth ganddyn nhw, ond doedden ni yn dal ddim yn fodlon, achos mae o yn gartre' i ni, ac i ni Caerdegog ydy'n gwinllan ni ac mae hi yma i ni ei gwarchod i'n plant ac i blant ein plant," meddai.

"Doedd yna ddim penderfyniad i'w wneud os oedden ni am werthu. Doedd Caerdegog ddim ar werth. Doedd yna ddim pris arni."

Disgrifiad o'r fideo, Dim Wylfa: 'Ergyd arall' neu gyfle am ddyfodol gwahanol?

Yn ddiweddarach penderfynodd Horizon na fyddan nhw'n gorfodi'r teulu i werthu, ac roedd hynny yn rhyddhad, meddai Richard.

"Ond ddim yn rhyddhad llwyr, achos os oedden nhw yn mynd ymlaen hefo'u cais cynllunio, roedd hynny yn rhoi y pwerau iddyn nhw wedyn i roi pwysau gorfodol arnon ni, wedyn doedd o erioed yn rhyddhad llwyr - roedd o bob amser uwch ein pennau ni."

'Mae'r safle'n rhydd i unrhyw ddatblygwr'

Felly ydy'r penderfyniad diweddaraf i beidio bwrw ymlaen i godi'r orsaf o gwbl yn rhyddhad llwyr?

"Yndi ar y funud," meddai Gwenda, "ond rydych chi bob amser yn meddwl be' sy'n mynd ymlaen yn y dirgel - pa gynlluniau sydd yna?

"Mae'r safle yn dal i fod, ac yn rhydd i unrhyw ddatblygwr, wedyn fedrwch chi ddim meddwl 'dyna ni mae o i gyd drosodd', achos ella nad ydy o.

"Fel ddywedodd Cefin Roberts yn nheitl ei nofel, 'Os na dd么n nhw...', pwy a 诺yr."