Oriel: Neuadd Pantycelyn dros y blynyddoedd

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Agorodd Neuadd Pantycelyn yn 1951 fel neuadd breswyl i fyfyrwyr gwrywaidd yn unig.

Wrth i'r Brifysgol groesawu myfyrwyr yn 么l i'r adeilad eiconig wedi gwaith adnewyddu, dyma olwg ar sut mae'r neuadd wedi newid dros y blynyddoedd, o'r dyddiau cynnar pan mai bechgyn yn unig oedd yn byw yno, hyd heddiw gyda cheginau modern ac ystafelloedd gwely mwy moethus.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Yr adeg yna roedd llyfrgell ar gyfer y myfyrwyr yn yr adeilad.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Mae cyfleusterau cymunedol y neuadd, fel y ffreutur, yn cael eu hystyried yn fannau pwysig i fyfyrwyr gymdeithasu.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Daeth Pantycelyn yn neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg yn 1974.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Bu Dr John Davies, hanesydd ac awdur y gyfrol Hanes Cymru, yn warden y neuadd am 18 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Ers ei sefydlu, bu Pantycelyn yn gartref i dros 3,500 o fyfyrwyr.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Yn Hydref 2013 bu protestiadau am gynlluniau Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr i fflatiau newydd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Neuadd Pantycelyn fynedfa newydd ar ochr ddwyreiniol yr adeilad, wrth i'r adeilad groesawu myfyrwyr unwaith eto ym Medi 2020
  • Mi fydd rhaglen am Neuadd Pantycelyn yn olrhain hanes, llwyddiannau a misdimanyrs yr adeilad eiconig ar 大象传媒 Radio Cymru, ddydd Sul Medi 20 am 14:00

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Lolfa Fawr wedi bod yn fan i'r myfyrwyr gymdeithasu dros y blynyddoedd
Disgrifiad o'r llun, Golwg ar un o'r ystafelloedd gwely moethus. Bellach mae ystafell ymolchi integredig yno hefyd

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Mae ceginau newydd modern wedi eu gosod yn y neuadd

Hefyd o ddiddordeb: