大象传媒

Cyfyngiadau Covid-19 lleol i ragor o siroedd y de

  • Cyhoeddwyd
Merthyr TydfilFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn siroedd Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym yn y siroedd o 18:00 ddydd Mawrth.

Fe fydd y cyfyngiadau lleol sydd mewn grym yn Sir Caerffili hefyd yn cael eu cryfhau i adlewyrchu'r cyfyngiadau sydd mewn grym yn barod yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Daw wrth i Brif Swyddogion Meddygol y DU gyhoeddi eu bod yn codi lefel y rhybudd am coronafeirws yn y DU, a bod hynny'n gydnabyddiad swyddogol bod achosion yn cynyddu yn y pedair gwlad.

Cyfarfod brys gyda'r awdurdodau lleol

Yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Llun dywedodd Mr Gething y bydd canran sylweddol o boblogaeth y de-ddwyrain, a chymoedd y de yn enwedig, yn destun cyfyngiadau coronafeirws.

Ychwanegodd y bydd yn cynnal cyfarfod brys ddydd Mawrth gyda'r awdurdodau lleol, byrddau iechyd a lluoedd heddu'r de, o Abertawe i'r ffin gyda Lloegr, i drafod y darlun rhanbarthol ehangach ac os oes angen gweithredu mesurau pellach.

Dywedodd Mr Gething fod cyfradd yr achosion yn uchel ym Merthyr Tudful, ond eu bod yn gysylltiedig gyda dau glwstwr penodol - un mewn tafarn a'r llall mewn cyflogwr mawr yn yr ardal. Roedd dau glwstwr llai hefyd wedi eu darganfod yn y sir.

Yn Rhondda Cynon Taf, lle cafwyd cyfyngiadau lleol ddydd Iau diwethaf, roedd nifer yr achosion wedi cynyddu gyda'r gyfradd bellach yr uchaf yng Nghymru.

Ychwanegodd fod nifer o glystyrau bychain wedi eu darganfod drwy'r sir a hynny o achos diffyg ymbellhau cymdeithasol, a bod 34 achos o gleifion coronafeirws yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg erbyn hyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Vaughan Gething y cyhoeddiad yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Llun

Beth yw'r cyfyngiadau lleol newydd?

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu i dderbyn addysg;

  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd 芒 phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig;

  • Bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 23:00;

  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do - fel yng ngweddill Cymru.

Dywedodd Mr Gething fod y sefyllfa ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn destun pryder i'r llywodraeth gan fod cynnydd sydyn wedi bod yn nifer yr achosion yn y sir mewn cyfnod byr.

Bellach roedd sawl clwstwr lleol wedi eu darganfod yno ond roedd gweinidogion yn pryderu fod y sir yn dilyn patrwm yr hyn sydd wedi digwydd yn Rhondda Cynon Taf.

Ym Mlaenau Gwent roedd nifer o achosion gyda chysylltiad i dafarndai a diffyg ymbellhau cymdeithasol, ond roedd achosion hefyd ymysg staff cartrefi gofal ag ysgolion uwchradd y sir.

Yng Nghasnewydd roedd cynnydd yn yr achosion yno wedi eu cysylltu gyda pharti mewn t欧 ar ddiwedd mis Awst, ac yna mewn tafarndai ond roedd ymlediad eang ar draws y ddinas erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caerffili oedd y sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn cyfyngiadau lleol newydd

Dros yr wythnos ddiwethaf mae nifer yr achosion wedi cynyddu ym mhob un o'r siroedd sydd dan sylw.

Ym Merthyr gwelwyd 94.5 o achosion positif ar gyfer pob 100,000 o'r boblogaeth - y gyfradd uchaf yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf.46.2 oedd y ffigwr ym Mhen-y-bont, 45.3 yng Nghasnewydd a 42.9 ym Mlaenau Gwent.

Yn Rhondda Cynon Taf mae rheolau llym ar fywydau'r 240,000 o bobl sydd yn byw o fewn ffiniau'r sir o ddydd i ddydd. Nid oes modd iddyn nhw adael y sir heb esboniad rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu ar gyfer eu haddysg.

Nid oes hawl i gyfarfod pobl o aelwydydd eraill dan do yn eu cartrefi, ac mae'n rhaid i dafarndai, bariau a thafarndai gau eu drysau erbyn 23:00.

Cynyddu lefel y rhybudd Covid-19

Mewn datganiad ar y cyd brynhawn Llun dywedodd Prif Swyddogion Meddygol Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon eu bod, ynghyd 芒'r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch, wedi penderfynu y dylid symud y lefel rhybudd Covid-19 o Lefel 3 i Lefel 4.

Mae Lefel 3 yn golygu bod Covid-19 yn lledu ymysg y cyhoedd, tra bod Lefel 4 yn golygu bod coronafeirws yn lledu yn sydyn a bod achosion yn cynyddu.

"Ar 么l cyfnod o achosion a marwolaethau Covid is, mae nifer yr achosion bellach yn codi'n gyflym mewn rhannau sylweddol o bob un o'r pedair gwlad," meddai'r datganiad.

"Os ydym am osgoi marwolaethau ychwanegol sylweddol a phwysau eithriadol ar y GIG, a gwasanaethau iechyd eraill, dros yr hydref a'r gaeaf mae'n rhaid i bawb ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchuddion wyneb yn gywir a golchi eu dwylo'n rheolaidd."

'Rhaid osgoi clo cenedlaethol'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y cyfyngiadau lleol, dywedodd llefarydd yr wrthblaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies AS: "Rhaid i weinidogion a llywodraethau wneud popeth posibl i osgoi cyfnod clo cenedlaethol arall gan y byddai'r effeithiau iechyd cyhoeddus ac economaidd yn drychinebus.

"Mae angen i ni weld cyfnodau clo craff, hynod o leol, yn seiliedig ar ddata cywir a manwl, ac ailddechrau cysgodi'r henoed a'r bregus.

"Mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan trwy gadw at bellhau cymdeithasol, masgiau a hylendid dwylo, ac mae angen i ni weld ymgyrch wybodaeth gyhoeddus gref gan Lywodraeth Cymru i anfon y neges hon adref."

Yn gynharach ddydd Llun dywedodd Vaughan Gething nad oedd cyfnod clo cenedlaethol arall ar hyd Cymru "ar fin digwydd, ond mae o hyd yn bosib."

Daeth ei sylwadau yn dilyn rhybudd gan Lywodraeth y DU am gyfyngiadau llymach i ddod yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 ym mhedair cenedl y DU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Syr Patrick Vallance a Dr Chris Whitty yn ystod y gynhadledd arbennig ar goronafeirws ddydd Llun

Fe allwn ni weld 50,000 o achosion y dydd erbyn canol mis Hydref os nad oes mwy o fesurau yn cael eu cyhoeddi, yn 么l gwyddonwyr sydd yn cynghori Llywodraeth Prydain.

Mewn cynhadledd coronfeirws arbennig fore dydd Llun, dywedodd Syr Patrick Vallance a Dr Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth y DU, bod y feirws yn dyblu pob saith diwrnod ar hyn o bryd, ac os nad ydy'r pandemig yn newid cyfeiriad, mi fyddwn mewn "sefyllfa anodd".

Yn 么l Syr Patrick Vallance, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU "fe allai hynny olygu 200 o farwolaethau pob dydd erbyn mis Tachwedd".

Rhybuddiodd fod y DU ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig "ac rydym yn teithio i'r cyfeiriad anghywir".

Dywedodd Dr Chris Whitty bod y "tymhorau yn ein herbyn" wrth i ni wynebu'r hydref a'r gaeaf, gan ychwanegu y dylen ni ystyried hyn yn "broblem am chwe mis y mae'n rhaid i pob un ohonom gymryd o ddifri."

"Os nad ydym ym gwneud digon ac mae'r feirws yn mynd allan o reolaeth, mi fydd 'na nifer sylweddol o farwolaethau uniongyrchol ac anuniongyrchol, ond os rydym yn mynd rhy bell i'r cyfeiriad arall, mi allwn ni wneud niwed i'r economi fydd yn achosi mwy o ddiweithdra a thlodi - a gall hyn greu problemau iechyd yn yr hir dymor.

"Mae'n rhaid i ni gadw'r ddwy ochor mewn golwg," meddai Dr Whitty.