Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder o'r newydd am dorfeydd yn heidio i Eryri
Roedd yna bryderon o'r newydd dros y penwythnos am nifer yr ymwelwyr ag Eryri.
Cafodd lluniau o ddegau o bobl yn ceisio cyrraedd copa'r Wyddfa eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri ei bod hi wedi bod yn benwythnos "ofnadwy o brysur".
Ddiwedd mis Mawrth, yn dilyn niferoedd digynsail o ymwelwyr, fe wnaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd gau mynyddoedd prysuraf yr ardal gyda chymorth deddfwriaeth frys Llywodraeth Cymru.
Erbyn 18:00 ddydd Llun, bydd dwy ran o dair o boblogaeth Cymru yn byw gyda chyfyngiadau llymach yn sgil cynnydd yn achosion coronafeirws.
Er nad ydy gogledd Cymru'n wynebu cyfyngiadau lleol ar hyn o bryd, dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod y "darlun yn un cymysg" a bydd arweinyddion chwe chyngor y gogledd yn cyfarfod yn ystod yr wythnos i drafod y sefyllfa ddiweddaraf.
'Parcio dychrynllyd'
Dywed un hyfforddwr gyrru o Bentrefoelas bod yr hyn a welodd ddydd Sul ger Llyn Ogwen yn "gywilyddus".
"Ro'n i'n dysgu rhywun i yrru ac yn mynd â'r disgybl heibio i Lyn Ogwen - roedd y ffordd roedd y ceir wedi parcio wrth ochr y llyn yn ddychrynllyd," meddai Rhydian Hughes wrth siarad â Cymru Fyw.
"Ceir wedi parcio ymhob man - ar linellau dwbl melyn ac yn waeth na dim ar y palmant.
"Mewn mannau doedd hi ddim yn bosib i bobl gerdded ar y palmant ac roedd yn rhaid iddyn nhw gerdded ar y ffordd."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
"Dwi ddim yn gwybod o lle roedd y bobl yma wedi dod - ond mi oedd y rhai oedd wedi parcio mewn mannau nad oeddan nhw fod yn gwbl amharchus.
"Mae Cyngor Sir a'r Parc Cenedlaethol wedi ceisio gweithredu - wedi rhoi llinellau dwbl melyn a côns - ond mae nifer yn eu hanwybyddu. Mae'r peth yn gywilyddus.
"Pam fod pobl yn dod yma yng nghyfnod Covid? A'r cwestiwn arall ydy o le maen nhw wedi dod?
"Mae twristiaid i'w croesawu ond mae'n rhaid iddyn nhw ufuddhau i'r rheolau Covid presennol a pheidio bod mor amharchus wrth adael eu cerbydau. Ellith pobl ddim gadael eu ceir yn rhywle!"
Ddydd Gwener roedd Parc Cenedlaethol Eryri wedi trydar yn "gofyn i chi gyd ein helpu i gadw pawb yn ddiogel trwy ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru a bod â chynllun wrth gefn os byddwch yn cyrraedd rhywle sy'n amlwg yn rhy brysur".
Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd Helen Pye o Barc Cenedlaethol Eryri bod "angen sicrhau bod penderfyniadau byr dymor ddim yn effeithio ar bobl lleol rhag mynd am dro".
"Mae'n frustrating i bobl leol pan maen nhw'n gweld ciwio i dop y Wyddfa," meddai.
"'Da ni wedi llechio bob mathau o adnoddau at hyn. Os yda ni'n gweld tymor fel hyn am dymor llawn flwyddyn nesa, sut yda ni'n rhoi adnoddau tuag at hynna?
"Mae pobl yn sôn am y budd economaidd o dwristiaeth ond mae 'na gostau hefyd.
"Mae'n werth i ni weld ar frys sut allwn ni edrych ar dreth twristiaeth cenedlaethol. Mae 'na nifer o wledydd Ewropeaidd sy'n gwneud y fath yma o beth."
'Cael y balans yn iawn'
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, bod Llywodraeth Cymru'n "rhoi pwysau" ar Lywodraeth San Steffan i gyflwyno mesurau a fyddai'n atal pobl yn Lloegr sy'n byw â chyfyngiadau lleol rhag teithio i Gymru.
"Mae'n rhaid i ni gael y balans yn iawn achos mae twristiaeth yn bwysig i'n heconomi," meddai.
"Pe bydden ni'n cau hi lawr yn llwyr fe fydda hwnna'n achosi difrod aruthrol i'r sector yna."
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru bod nifer yr achosion yn y gogledd lawer yn is nag yn y de ond bod yna dystiolaeth bod coronafeirws ar gynnydd mewn rhannau o'r rhanbarth.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul fod 362 o achosion Covid-19 newydd wedi'u cofnodi yng Ngymru yn y 24 awr cyn hynny.