Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim consensws yngl欧n ag oedi etholiadau'r Senedd
Mae'r pleidiau gwleidyddol yn y Senedd wedi methu 芒 dod i gytundeb yngl欧n 芒 chynigion fyddai'n caniat谩u gohirio etholiadau'r Senedd yn 2021 oherwydd y risg o ledu coronafeirws.
Ar 6 Mai bydd pobl Cymru yn dewis eu cynrychiolwyr ar gyfer y Senedd ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Llafur, Plaid Cymru a'r Democrataidd Rhyddfrydol y byddan nhw o blaid symud y dyddiad "pe bai'r sefyllfa yn hynod ddifrifol".
Ond dywedodd y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit fod pobl mewn gwledydd eraill wedi llwyddo i gynnal etholiadau o dan amgylchiadau tebyg.
Gydag ychydig dros chwe mis cyn y dyddiad pleidleisio, mae bron i ddau filiwn o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd dan gyfyngiadau lleol.
Yr etholiad Senedd nesaf fydd y tro cyntaf i bobl 16 ac 17 oed gael bwrw pleidlais.
Mewn cyfweliad blaenorol dywedodd Mark Drakeford wrth ITV Cymru na fyddai'r "bleidlais yn cael ei chynnal mewn modd confensiynol" ond ychwanegodd ei fod o'r "farn ei fod yn iawn i'w chynnal".
Fe fethodd y gr诺p trawsbleidiol 芒 chytuno ar gynnig ble byddai modd oedi'r etholiad pe bai gwir angen.
Doedd dim consensws chwaith yngl欧n 芒 chynnal pleidlais dros gyfnod o ddiwrnodau yn hytrach nag un diwrnod yn unig.
Ond roedd cytundeb mai'r bwriad ddylai fod i gynnal yr etholiad ar 6 Mai 2021.
Annog pleidleisio drwy'r post
Fe fydd y gr诺p yn cwrdd fore Mawrth er mwyn cwblhau eu hadroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Mae'r gr诺p trawsbleidiol wedi cwrdd ar bum achlysur ers diwedd Mehefin.
Roedd y gr诺p, sy'n cynnwys pum plaid wleidyddol, Comisiwn y Senedd, y Comisiwn Etholiad, a llywodraethau Cymru a'r DU, yn ystyried a ddylid gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth etholiad "er mwyn sicrhau fod yr etholiad yn cael ei chynnal mewn modd diogel".
Mae adroddiad drafft sydd wedi ei weld gan 大象传媒 Cymru yn dweud fod yna gonsensws yngl欧n ag:
- annog pobl sy'n gwarchod rhag Covid-19 i wneud cais am bleidlais bost;
- mwy o hyblygrwydd i bleidleisio trwy ddirprwy, fel bod unigolyn yn gallu pleidleisio ar ran mwy nag un person;
- caniat谩u i bobl bleidleisio hyd yn oed os ydyn nhw'n byw dan gyfyngiadau lleol.