Beirniadu gwasanaeth cwmni band-eang yn y gorllewin
- Cyhoeddwyd
Mae cwsmeriaid yn y de-orllewin yn dweud bod y gwasanaeth band-eang maen nhw'n ei dderbyn gan un cwmni penodol yn annerbyniol.
Mae cwmni Bluewave, sydd 芒 phencadlys yng Nghaerfyrddin, wedi derbyn grantiau sylweddol o arian cyhoeddus.
Dywed un cwsmer ei bod yn gorfod yn gweithio o sied ei ffrind am nad yw hi'n gallu dibynnu ar y we yn ei chartref.
Mae perchennog y cwmni'n dweud bod y "rhan fwyaf o broblemau yn cael eu datrys ar yr un diwrnod".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn nifer o gwynion am y cwmni a'u bod mewn trafodaethau er mwyn ceisio gwella'r sefyllfa.
'Ystyried symud t欧'
Mae Vicky Russant yn byw ym mhentref Mynachlog Ddu yn Sir Benfro ac fe gafodd brofiad rhwystredig iawn gyda chwmni Bluewave.
Dywedodd nad oedd y teulu'n gallu dibynnu ar y we ar gyfer gwneud unrhyw beth, a doedd y cwmni ddim yn ymateb i'w cwynion.
"Pob dydd Gwener roedd y we'n mynd bant ac wedyn o'dd dim byd 'da ni dros y penwthnos," meddai.
"Ro'n i'n ffonio'r cwmni ond do'dd neb yn ateb ac wedyn bydde neges yn dweud 'we'll get back to you'.
"Un dydd nes i feddwl 'reit ma' rhaid ni symud t欧 achos ro'dd y plant methu mynd ar unrhyw declynnau, do'dd dim gwaith cartref yn cael ei gyflawni.
"Fi'n grac iawn. Ma' ishe i rh'wbeth cael ei 'neud achos fi'n gw'bod am lawer o bobl jyst yn y pentref yma sy wedi cael digon a 'sneb yn cael unrhyw atebion."
Mae Bluewave yn cynghori cwsmeriaid newydd i geisio am grantiau o Lywodraeth Cymru o'r cynllun Allwedd Band Eang Cymru.
Ers 2017 mae 432 o bobl wedi cyflwyno cais am arian o'r gronfa ar gyfartaledd o 拢900 yr un, fyddai'n golygu bod y cwmni wedi derbyn tua 拢350,000 o arian cyhoeddus.
'Angen mwy o graffu'
Mae Francesca Nelson yn byw yn Nhyddewi ac yn gweithio yn y diwydiant adeiladu a pheirianneg.
Mae'n cael cyfarfodydd dyddiol dros y we gyda chyd-weithwyr dros y byd.
Ond fel cwsmer i Bluewave, mae hi'n gorfod gweithio o sied un o'i ffrindiau oherwydd nad yw hi'n gallu dibynnu ar y we yn ei chartref.
Mae hi'n gofyn pam nad oes mwy o graffu gan Lywodraeth Cymru o gwmn茂au sy'n derbyn arian cyhoeddus ond sy'n methu cynnal gwasanaeth.
"Rhaid bod rhywun yn rhywle yn gwirio bod be' sy'n cael ei gyflenwi yn addas," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian trethdalwyr er mwyn helpu pobl fel fi i gael y we - sy'n gr锚t - ond rhaid gwneud yn sicr bod y wasanaeth yn addas ac yn gweithio i bawb."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n ymwybodol bod rhai cwsmeriaid ddim yn hapus gyda'u gwasanaeth band-eang.
"Dyw Llywodraeth Cymru ond yn ariannu cysylltiadau llwyddiannus.
"Ry'n ni wedi codi'r materion yma gyda Bluewave er mwyn darganfod ffordd ymlaen. Mae'r trafodaethau hynny yn parhau."
'Buddsoddi'n rheolaidd'
Mewn datganiad, dywedodd perchennog Bluewave, Glyndwr Phillips: "Ry'n ni'n cymryd cwynion gan gwsmeriaid o ddifrif ac mae hyn yn achosi cryn ofid i ni.
"Ry'n ni'n monitro'r rhwydwaith ac yn buddsoddi yn rheolaidd mewn offer newydd.
"Mae ein cwsmeriaid yn ymwybodol bod sawl modd i gysylltu gyda ni - mewn rhai achosion ry'n ni hyd yn oed wedi rhoi ein rhifau ff么n personol i gwsmeriaid allu cysylltu tu allan i oriau gwaith. Mae'r rhan fwyaf o broblemau yn cael eu datrys ar yr un diwrnod.
"Yn anffodus, does dim modd boddhau pob cwsmer ond mae gyda ni nifer fawr o gwsmeriaid sy'n fodlon gyda'r gwasanaeth. Ry'n ni'n ymddiheuro i unrhyw un sy'n teimlo ein bod ni wedi eu gadael nhw i lawr."
Mae'r rheoleiddiwr Ofcom hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cwynion am gwmni Bluewave.
Ond fe ddywedodd Elinor Williams, ar ran y corff, nad yw Ofcom yn ystyried defnyddio eu pwerau i ymyrryd.
"Mae'n well gyda ni weithio gyda'r cwmni er mwyn sicrhau gwelliant a hynny er budd defnyddwyr yng Nghymru a sicrhau bod nhw'n cael gwasanaeth mae'n nhw'n talu amdano fe - gwasanaeth cyflym, fforddiadwy ac wrth gwrs dibynadwy," meddai.
"Dwi ddim yn ymwybodol bod rheswm gyda ni i ymyrryd ar hyn o bryd, ond ni yn ymwybodol bod problem ond dyw nhw ddim yn unigryw - mae 'na gwmn茂au eraill o'r un fath a ma' Ofcom yn monitro ac yn cadw llygad ar y sefyllfa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020