Swyddfa'r Post ddim am apelio achos is-bostfeistri
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Swyddfa'r Post yn herio penderfyniad y Llys Ap锚l yn achos mwyafrif y cyn is-bostfeistri oedd wedi apelio yn erbyn eu heuogfarnau o ddwyn neu gadw cyfrifon ffug.
Roedd Swyddfa'r Post wedi erlyn nifer o is-bostfeistri gan ddadlau eu bod wedi dwyn arian, ond daeth i'r amlwg yn diweddarach fod yna broblem gyda system gyfrifiadurol Horizon yr oedden nhw'n ei defnyddio, a bod hynny'n gyfrifol am y ffaith fod y cyfrifon yn anghywir.
Rhwng 2001 a 2013 fe wnaeth Swyddfa'r Post erlyn nifer o is-bostfeistri gan ddweud eu bod wedi dwyn arian ac wedi cadw cyfrifon ffug.
Cafwyd 47 yn euog ac fe dreuliodd nifer gyfnodau yn y carchar.
Fe gafwyd achos iawndal gan y cyn is-bostfeistri yn erbyn Swyddfa'r Post ac fe gytunon nhw i dalu 拢58m.
Fe wnaeth y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol benderfynu cyfeirio dedfrydau i ap锚l yn achos 47 o'r cyn-is-bostfeistri oedd wedi eu cael yn euog, ac fe lwyddodd yr apeliadau hynny.
Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Swyddfa'r Post eu bod yn derbyn penderfyniad y llys yn achos 44 o'r 47.
Un o'r is-bostfeistri a gafodd ei erlyn oedd Noel Thomas oedd yn cadw Swyddfa'r Post yn Gaerwen ar Ynys M么n. Yn 2006 fe'i cafwyd yn euog o gadw cyfrifon ffug.
Roedd Swyddfa'r Post yn honni fod 拢48,000 ar goll o'r cyfrifon. Cafodd ei ddedfrydu i naw mis o garchar ac fe dreuliodd dri mis dan glo.
Cyn hynny roedd yn gynghorydd sir uchel ei barch yn y gymuned.
Dywedodd Noel Thomas ei fod wedi clywed gan ei gyfreithwyr fod ei enw ymhlith y 44, ond nad oedd wedi cael cadarnhad swyddogol hyd yma.
Wrth siarad ar raglen Newyddion 大象传媒 Cymru, dywedodd Mr Thomas: "Dwi'n hapus iawn. Roeddwn i'n gweithio yn digwydd bod a dyma gydweithwyr i mi yn hapus hefo fi ac mae llawer un wedi tecstio a ffonio i longyfarch."
Wrth edrych yn 么l ar y profiad dros y 15 mlynedd diwethaf o frwydro i achub ei enw da, dywedodd: ""Dydi heb fod yn hawdd - roeddach chi'n ffeindio pwy oedd eich ffrindiau chi. Mae na rai pobl r诺an oedd yn cerdded ar ochor arall y stryd yn dod i'r un ochor a fi.
"Nes i golli lot - gwerthu fy nh欧 am nesa peth i ddim a bod yn onest...mynd yn fethdalwr - doedd hi ddim yn hawdd. Pan rydach chi wedi mynd o weithio yn galed a cael eich enw wedi ei bardduo fel nes i, doedd o ddim yn hawdd."
Fe ddisgrifiodd ymddygiad y Swyddfa Post fel un "gwarthus ar y pryd", "i feddwl ei fod yn establishment sydd wedi ei redeg ers cannoedd o flynyddoedd, ac yn trin pobl fel maen nhw wedi ei wneud."
Ymddiheuro am fethiannau
Dywedodd Tim Parker, Cadeirdydd Swyddfa'r Post ei fod yn ymddiheuro am fethiannau'r gorffennol ac "mae'r corff wedi cyflwyno newidiadau i sicrhau na fydd yr hyn a ddigwyddodd yn cael ei ail-adrodd".
"Mi fydd Swyddfa'r Post yn gweithredu yn gyflym i dalu iawndal i'r rhai hynny a wnaeth gais," meddai.
Mae Swyddfa'r Post wedi sefydlu trefn newydd o ymdrin 芒'i is-bostfeistri. Yn 么l y Prif Weithredwr Nick Read "mae gwersi'r gorffennol wedi eu dysgu ac rydym yn gwneud newidiadau sylfaenol i ddiwylliant yn busnes a sut yr ydym yn gweithredu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2019