大象传媒

'Pryder bod achosion siroedd fel Gwynedd ar gynnydd'

  • Cyhoeddwyd
CovidFfynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bwysig glynu at y rheolau, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth i nifer yr achosion godi

Wrth i ddwy ran o dair o bobl yng Nghymru wynebu wythnos arall o gyfyngiadau lleol yn sgil Covid-19 mae un o gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio ei bod yn bwysig i bawb ddilyn y canllawiau.

Dywed Dr Giri Shankar o'r corff ei fod yn bryderus am y cynnydd yn y nifer o achosion sydd wedi'u cofnodi yng Ngwynedd - sir sydd ddim 芒 chyfyngiadau lleol.

Nododd hefyd bod cynnydd wedi bod yn y bobl sy'n s芒l iawn ac yn gorfod cael triniaeth ysbyty.

Dywedodd: "Rydym yn atgoffa pobl sy'n byw mewn ardaloedd yng Nghymru lle nad oes unrhyw gyfyngiadau ar waith ar hyn o bryd i gofio, bob amser, am bwysigrwydd cadw at y rheoliadau i atal cyfyngiadau lleol pellach rhag dod i rym.

"Rydym nawr hefyd yn gweld cynnydd mewn achosion yng Ngwynedd ac, am y rheswm hwnnw, rydym yn annog pobl i barhau i ddilyn y canllawiau iechyd cyhoeddus: hunan-ynysu pan ofynnir iddynt wneud hynny, cadw ddau fetr oddi wrth bobl eraill, a golchi eu dwylo yn rheolaidd."

Ni fydd 570 o ddisgyblion a saith aelod o staff tair ysgol yn Sir Ddinbych yn mynd i'r ysgol ddydd Llun wedi iddyn nhw gael cais ddydd Sadwrn i hunan-ynysu wedi achosion o'r haint.

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n bosib y bydd cyfyngiadau Sir Caerffili yn cael eu codi'r wythnos hon

Yng Nghaerffili y daeth y cyfyngiadau lleol i rym gyntaf yng Nghymru ac wrth gyfeirio at eu heffaith yn y sir dywedodd Dr Shankar: "Mae ein data yn dechrau dangos tuedd ar i lawr, ac er na allwn ddweud yn bendant fod y duedd hon yn ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, rydym yn optimistaidd ac rydym yn edrych ar nifer o ffynonellau eraill i ddilysu'r canlyniadau hyn."

Cyfyngiadau cenedlaethol yn bosib

Ychwanegodd Dr Shankar: "Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n s芒l iawn ac sydd wedi mynd i'r ysbyty oherwydd Covid-19.

"Rydym yn pryderu bod llawer o'r gwaith da a wnaed dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perygl o gael ei ddadwneud.

"Os bydd y sefyllfa'n parhau i waethygu, efallai y byddwn yn wynebu sefyllfa lle bydd lefelau'r haint mor uchel 芒'r hyn a welsom yn gynharach eleni ym mis Mawrth ac Ebrill ac y mae hynny yn creu'r posibilrwydd o osod cyfyngiadau mwy estynedig yn genedlaethol."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Ddydd Sul cafodd 432 achos o'r haint eu cofnodi - roedd 99 o'r rhain ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ond dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y niferoedd, mewn gwirionedd, yn uwch gan fod "oddeutu 2,000 o ganlyniadau profion (a fydd yn cynnwys canlyniadau positif a negatif) o Labordai Goleudy Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU wedi'u hoedi.聽

"Mae hyn yn golygu bod nifer y profion ddydd Sul yn amcangyfrif rhy isel o ddarlun cywir coronafeirws yng Nghymru," meddai'r corff.

"Mae'n debygol felly y bydd nifer y profion yn cynyddu'n anghymesur dros y dyddiau nesaf."