Wylfa Newydd: Gwerthu cartref i Hitachi a 'chwalu cymuned'
- Cyhoeddwyd
Dywed teulu o F么n a werthodd eu cartref i Hitachi eu bod yn "chwerw" wedi penderfyniad y cwmni i beidio parhau 芒 chynllun Wylfa Newydd.
Yn 么l Mared Edwards a'i theulu maen nhw'n teimlo'u bod nhw wedi aberthu'r cwbl dim ond i'r cwmni niwclear wneud tro pedol dros ddyfodol yr atomfa.
Fe gyhoeddodd Hitachi ym mis Medi na fyddan nhw'n bwrw mlaen 芒'u cynllun gwerth 拢15-20 biliwn wedi blynyddoedd o waith cynllunio gan gynnwys dymchwel tai a chlirio caeau cyfagos.
Dywed yr is-gwmni a fyddai wedi bod yn gyfrifol am y datblygiad - Horizon Nuclear Power - fod unrhyw waith wedi ei wneud "gyda phob ewyllys da".
Ond yn 么l Mared, mae'r teulu'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu "gwthio allan".
Dim ond plentyn oedd Mared Edwards pan glywodd hi a'i theulu am gynlluniau Hitachi i brynu'r tir lle'r oedd y cartref wedi ei leoli.
Milltir i ffwrdd o'r pwerdy, roedd y cartref yn edrych yn syth am yr atomfa goncrit ger Cemlyn, Ynys M么n.
"Mae'n deimlad chwerw," meddai Mared. "Mae jest gweld o... mae'n bechod.
"'Da ni gyd dal yn flin, 12 mlynedd ymlaen achos jest... pam de? I be'? Mae 'na gymuned wedi ei chwalu."
Mae gan Mared atgofion da o'i chartref ond roedd y teulu "wedi bwriadu cael mwy o flynyddoedd yno".
"Mewn ffordd doedd ganddom ni ddim opsiwn achos oedd lot o'r tir wedi ei werthu o gwmpas tir ni," ychwanegodd.
"Pwy oeddem ni fel teulu bach i stopio bob dim arall? Oeddan ni am orfod symud yn diwedd.
"Mi oedd o'n lle teuluol ofnadwy, croesawgar. Doeddan ni byth yn meddwl 'sa' ni wedi gorfod gadael y lle mor fuan."
'Lleoliad deniadol i gwmn茂au niwclear'
Doedd penderfyniad Hitachi i ddod 芒'r cynllun i ben fis diwethaf ddim yn annisgwyl, gyda'r gwaith yno wedi'i oedi ers Ionawr 2019.
Yn 么l y Cynghorydd Aled Morris Jones, mae'r ffocws r诺an angen "troi at San Steffan".
"Mae'r prosiect yma wedi bod yn bartneriaeth rhwng y cymunedau lleol, y cyngor sir, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig," meddai.
"Mae'n rhaid cofio mai dyma'r safle mwyaf deniadol ar gyfer atomfa yn y Deyrnas Unedig o hyd."
Ychwanegodd Mr Jones, sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Cyswllt yr Atomfa, ei fod yn gobeithio nad yw "aberth" pobl leol wedi bod yn "ofer".
Mewn datganiad fe ddywedodd cwmni Horizon eu bod nhw'n deall siom pobl leol wrth i'r gwaith yma ddod i ben ond bod y gwaith cynllunio "wedi ei wneud gyda phob ewyllys da".
Ychwanegon nhw nad dyma ydy diwedd y safle, a'i fod yn parhau'n "lleoliad deniadol" i gwmn茂au niwclear.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad am gais cynllunio'r safle erbyn diwedd y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020