Troseddau casineb ar-lein yn erbyn pobl anabl ar gynnydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna gynnydd y llynedd o 84% yn nifer y troseddau casineb ar-lein yn erbyn pobl anabl yng Nghymru, yn 么l ymchwil dwy elusen.

Cododd nifer y cwynion a gafodd eu derbyn gan dri o heddluoedd Cymru o 19 yn 2018/19 i 35 yn 2019/20.

Mae yna alwadau i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth lymach i fynd i'r afael 芒'r broblem.

Dywed Llywodraeth Cymru fod deddfwriaeth troseddau casineb yn fater i Lywodraeth y DU.

Ond ychwanegodd llefarydd y byddai'n gwneud popeth posib i daclo troseddau o'r fath, gan gynnwys ariannu gwasanaethau cefnogi dioddefwyr.

Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys fe dreblodd nifer y cwynion o droseddau casineb ar-lein yn erbyn pobl anabl rhwng 2019 a 2020.

Roedd yna gynnydd o 50% yn ardal Heddlu Gwent, ond doedd dim newid yng ngogledd Cymru, yn 么l ffigyrau a ddaeth i law'r elusennau Leonard Cheshire ac United Response drwy geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywed yr elusennau fod Heddlu De Cymru heb ymateb i nifer o geisiadau am y wybodaeth.

Daeth yr ymchwil i'r casgliad mai dim ond 1.5% o'r cwynion a arweiniodd at gyhuddiadau gan yr heddlu, gorchmynion erlyn drwy'r post neu w欧s llysoedd ym mlwyddyn ariannol 2019/20, o'i gymharu 芒 3.4% yn 2018/19.

268 oedd cyfanswm y cwynion i'r tair llu a wnaeth ddarparu ystadegau ond mae ffigyrau Gwasanaeth Erlyn Y Goron yn nodi 42 o erlyniadau am droseddau casineb anadledd yng Nghymru yn 2019/20.

Roedd yna euogfarn yn achos 36 o'r achosion hynny (86%).

Dywed heddluoedd Cymru eu bod yn cymryd pob math o droseddau casineb o ddifrif.

Galwodd cymydog fy mab yn 'frawychus'

Ffynhonnell y llun, Alice Legg

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alice Legg ei bod wedi ei gwneud i deimlo fel "niwsans" pan geisiodd gwyno am drosedd casineb

Rhybudd: Iaith all beri gofid

Mae gan Alice Legg a nifer o'i phlant awtistiaeth. Dywedodd eu bod wedi dioddef camdriniaeth "erchyll".

"Mae pobl yn ein galw ni'n enwau ofnadwy fel 'retard' a 'sbastig' ac yn gwneud i ni deimlo fel na ddylen ni fod yn rhan o'r gymuned," meddai Ms Legg, o Drefynwy.

Mewn un digwyddiad, dywedodd fod ei mab hynaf Adam, sydd ag awtistiaeth dwys, wedi'i adael yn teimlo'n "ynysig o'r gymuned" ar 么l i ddyn ddweud wrthi ei fod yn "dychryn" ei ferch.

"Mae cael gwybod bod eich mab yn codi ofn ar bobl eraill oherwydd ei gyflwr yn eithaf ofnadwy."

Dywedodd Ms Legg ei bod wedi adrodd un digwyddiad arall yr oedd hi'n ei ystyried yn drosedd casineb i'r heddlu, ond nad oedd hi'n teimlo ei fod wedi'i gymryd o ddifrif.

"Fe wnaeth i mi deimlo fy mod yn niwsans. Rwyf wedi cyrraedd y sefyllfa nawr lle rwy'n ystyried gadael," meddai.

"Rydw i wrth fy modd 芒 Mynwy - rydw i wedi byw yma ers blynyddoedd bellach - ond rydw i newydd gael digon ohono."

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedd trosedd wedi digwydd yn yr achos hwn, ond bod y dioddefwr wedi cael cynnig cefnogaeth.

'Ddigwyddodd na ddim o'r peth'

Ffynhonnell y llun, Dan Biddle

Disgrifiad o'r llun, Collodd Dan Biddle ei ddwy goes yn ymosodiad terfysgol 7\7 yn Llundain yn 2005

Roedd Dan Biddle yn un o'r bobl gafodd ei anafu waethaf yn ymosodiad terfysgol 7/7 yn Llundain yn 2005.

Collodd Mr Biddle, sydd bellach yn byw yn Y Fenni, ei ddwy goes, llygad, ac mae'n fyddar mewn un glust ar 么l i Mohammad Sidique Khan ffrwydro bom ar dr锚n danddaearol yn Edgware Road.

Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru am ddau ddigwyddiad lle dioddefodd gamdriniaeth oherwydd ei anabledd.

Ar un achlysur, dywedodd Mr Biddle iddo gael ei alw'n "fd diog" ger y domen sbwriel leol tra roedd ei wraig yn gwagio gwastraff o'r car.

Er i'w wraig geisio egluro bod ei g诺r yn anabl, parhaodd y cam-drin.

Fe wnaeth Mr Biddle gysylltu gyda'r heddlu ond dywedodd "ddigwyddodd na ddim o'r peth" oherwydd na fyddai tystion yn darparu tystiolaeth.

Mewn digwyddiad arall, dywedodd fod dwy ferch ysgol "wedi bygwth fy nhynnu allan o fy nghadair olwyn a fy nhrywanu".

Aeth at yr heddlu ac fe gafodd y mater ei ddelio gydag o drwy broses cyfiawnder adferol.

Dywedodd Mr Biddle fod troseddau casineb yn erbyn pobl anabl yn digwydd yn aml oherwydd diffyg dealltwriaeth.

Dywedodd nad yw troseddau casineb yn erbyn pobl anabl yn cael yr un ystyriaeth yn llygad y gyfraith 芒 mathau eraill o droseddau casineb, a galwodd ar i bobl anabl sy'n dioddef troseddau casineb sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi felly pan fo achosion yn codi.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae yna alw i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth llymach yn erbyn troseddau casineb ar-lein

"Fel elusen sy'n eiriol dros gynhwysiant digidol, rydyn ni am sicrhau bod y rhyngrwyd yn lle diogel i bobl anabl," meddai Glyn Meredith, cyfarwyddwr elusen Leonard Cheshire Cymru.

"O ystyried y pandemig Covid-19 diweddar, mae llawer o bobl anabl wedi'u cyfyngu i'w cartrefi, gyda thechnoleg ddigidol yr unig ddull i'w cysylltu gyda'r byd y tu allan."

Dywedodd Mr Meredith fod angen i Lywodraeth Cymru "ddangos ei hymrwymiad i ddiogelwch ar-lein i bobl anabl" trwy gyflwyno deddfwriaeth debyg i Fesur Troseddau Casineb a Threfn Gyhoeddus Yr Alban.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod deddfwriaeth troseddau casineb yn fater i Lywodraeth y DU, ond y byddai'n "defnyddio popeth sydd ar gael" i frwydro yn erbyn troseddau casineb, gan gynnwys trwy ddarparu cyllid ar gyfer eiriolaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr.

Ychwanegodd: "Ni ddylai unrhyw berson yng Nghymru orfod dioddef rhagfarn na throseddau casineb. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy'n dioddef trosedd casineb yn cael eu cefnogi a bod troseddwyr yn cael eu herlyn."

Beth yw barn lluoedd yr heddlu?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn ystyried troseddau casineb yn erbyn pobl anabl "yn ddifrifol iawn" ac mae gan y llu ddau swyddog sydd wedi eu hymrwymo i hybu pobl i adrodd am droseddau o'r fath. Galwodd y llu ar ddioddefwyr i ddarparu unrhyw gwynion i'w swyddogion.

Dywedodd Heddlu Gwent bod t卯m o swyddogion wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn cefnogi dioddefwyr troseddau casineb. Dywedodd y llu ei fod yn ymwybodol nad yw'r nifer o achosion sy'n cael eu hadrodd "yn adlewyrchu profiadau pobl yng Ngwent", gan annog pobl i gysylltu 芒 nhw.

Galwodd Heddlu De Cymru ar bobl i adrodd unrhyw achosion o droseddau casineb a "digwyddiadau casineb" i helpu'r heddlu "greu darlun" a chaniat谩u i swyddogion "gynnig cefnogaeth a chyngor i'r rhai sydd wedi eu heffeithio". Ychwanegodd "na fydd pob digwyddiad casineb yn gyfystyr 芒 throseddau".

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys Police eu bod yn ymwybodol nad ydy'r holl achosion o droseddau casineb, gan gynnwys rhai yn erbyn pobl anabl, yn dod i'w sylw.

"Mae rhoi gwybod i'r heddlu am droseddau'n galluogi'r heddlu i ymchwilio ac erlyn troseddwyr, boed trwy'r llysoedd neu ryw fodd arall, fel gwarediadau tu allan i'r llys.

"Mae'n well gan rai dioddefwyr i beidio ffafrio ymchwiliad ond trwy ddod ymlaen gallwn ni helpu rhoi pa bynnag gefnogaeth sydd angen arnyn nhw.

"Rydym yn gwybod fod troseddau casineb yn gallu fod yn annymunol iawn i'r rhai sy'n cael eu targedu ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i'w cyrraedd ac i ddelio 芒 throseddwyr."