Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Un cyfle olaf' i Johnson newid rheolau teithiau i Gymru
Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud ei fod am roi "un cyfle olaf" i Lywodraeth y DU wahardd pobl rhag teithio o ardaloedd yn Lloegr sydd 芒 chyfraddau uchel o coronafeirws cyn cymryd unrhyw gamau ochor Cymru o Glawdd Offa.
Dywedodd Mark Drakeford nos Lun y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio'i phwerau ei hun i weithredu os nad yw Boris Johnson yn gweithredu ei hun.
Mae Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i osgoi teithiau diangen o ranbarth dinas Lerpwl, fydd dan gyfyngiadau caeth o nos Fercher, ond ni fydd hynny'n ofynnol yn gyfreithiol.
Bydd Mr Drakeford yn ysgrifennu llythyr at Mr Johnson yn amlinellu'r dystiolaeth o blaid gorchymyn cyfreithiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn dymuno cael ateb "o fewn dyddiau" ac os na fydd yna ymateb bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn Senedd Cymru "gynted 芒 phosib".
'Tystiolaeth'
Dywedodd Mr Drakeford wrth 大象传媒 Wales Today fod modd iddo gau'r ffin gyda Lloegr, ac nad dyna'r opsiwn y mae'n ei ddymuno, ond bod 'cyngor' Llywodraeth y DU yn "annerbyniol".
"Rhaid cael rheolau sy'n atal pobl rhag dod o ardaloedd ble mae nifer uchel o achosion i ardaloedd yng Nghymru sydd 芒 nifer isel o achosion," meddai.
Dywedodd fod gweinidogion San Steffan wedi gofyn am dystiolaeth fod pobl yn lledu'r feirws trwy symud o ardaloedd risg uchel i rai risg isel.
"Mae gyda ni'r dystiolaeth yna," meddai. "Fe wnawn ni rannu hynny gyda'r prif weinidog.
"Mi wna'i amlinellu yn fy llythyr y pwerau sydd gyda ni, ac os nad yw'n gweithredu, fe wnawn ni eu defnyddio."
Ychwanegodd Mr Drakeford mai ymddygiad pobl wrth "gwrdd 芒'i gilydd dan do" gan "anghofio gwneud y pethau sylfaenol" sydd i gyfri am ledaeniad y feirws yn hytrach na'r "ffordd y mae pobl yn ymddwyn mewn tafarndai a bwytai".
Yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Llun, gofynnodd AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts a yw'n deg i bobl o Lerpwl deithio i Wynedd ac Ynys M么n am wyliau, pan na all pobl Sir Conwy wneud teithiau diangen o'r sir.
Atebodd Mr Johnson: "Mae'r cyngor yn glir iawn na ddylai pobl o'r ardaloedd [risg] uchel iawn hynny, fel Glannau Mersi, fod yn gwneud y teithiau hynny."
Cynigion "annigonol"
Yn gynharach ddydd Llun fe fynegodd Mr Drakeford "siom fawr" am gynigion "annigonol" Llywodraeth y DU ar gyfer cyfyngiadau teithio mewn ardaloedd sydd 芒 chyfraddau uchel yn Lloegr.
Mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol yng Nghymru, does gan bobl ddim hawl i adael heb esgus digonol, ond nid yw'r un cyfyngiad cyfreithiol yna yn bodoli yn Lloegr.
Roedd Mr Drakeford mewn cyfarfod ddydd Llun gyda Phrif Weinidog y DU, Boris Johnson i drafod y bwriad i gyflwyno system 'haenog' o gyfyngiadau lleol yn Lloegr.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r diffyg cyfyngiadau teithio yn "destun siom fawr mewn sawl rhan o Gymru lle mae cyfraddau heintiau yn is".
Gofynnodd hefyd am fwy o eglurder ar y meini prawf ar gyfer gosod ardaloedd mewn 'haen' benodol, a chytunodd ag arweinwyr datganoledig eraill "nad oedd cynigion y Trysorlys ar gyfer cymorth ariannol, er eu bod yn cael eu croesawu, yn mynd yn ddigon pell i amddiffyn y gweithwyr ar y cyflog isaf".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai cyfarfod yn ddiweddarach i drafod y camau nesaf, ar 么l datgelu bod "mewnlifiad o achosion coronafeirws o gyswllt gyda rhai o'r ardaloedd gyda lefelau uchel yn Lloegr".
Dywedodd Vaughan Gething nad oedd yn broblem i Gymru yn unig ond i'r DU gyfan.
"Bydd ardaloedd gyda lefelau is yn Lloegr yn cael eu heffeithio gymaint ag ardaloedd yng Nghymru."
Price wedi ei 'gynddeiriogi'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei fod wedi ei "gynddeiriogi" gydag agwedd Boris Johnson tuag at pobl sy'n teithio o fannau risg uchel i lefydd gyda chyfraddau is yng Nghymru.
"Ond y cwestiwn yw beth ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud - rhaid iddynt weithredu eu hunain."
Ychwanegodd Mr Price: "Yn flaenorol mae Mark Drakeford wedi dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth o'r haint yn ymledu gan bobl yn teithio dros y ffin.
"Nawr rydym yn clywed gan Vaughan Gething am y tro cyntaf fod tystiolaeth wirioneddol wedi adnabod achosion o heintio o ganlyniad i bobl yn dod o ardaloedd sydd gyda lefelau uchel yn Lloegr i Gymru, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu heddiw."