'Cynnydd sylweddol i'r risg o dwyll yn sgil y pandemig'

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywed yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton fod y pandemig wedi "dwyn heriau sylweddol i sefydliadau'r sector cyhoeddus"

Mae'r pandemig coronafeirws wedi cynyddu'r risg o dwyll ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn "sylweddol", yn 么l adroddiad newydd.

Dywed , a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, y bu'n rhaid i gyrff cyhoeddus brosesu taliadau cymorth Covid-19 "ar frys dan amgylchiadau anodd iawn".

Daeth y Fenter Twyll Genedlaethol o hyd i 拢8m o dwyll a gordaliadau rhwng 2018-2020, o'i gymharu 芒 拢5.4m yn ystod yr ymarfer blaenorol.

Roedd 98% o'r achosion yn ymwneud 芒 disgownt y dreth gyngor, bathodynnau glas, budd-dal tai, pensiynau, rhestrau aros, cartrefi gofal preswyl a chynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor.

Mae'r Fenter yn cael ei chynnal bob dwy flynedd, gan baru data rhwng sefydliadau, systemau ac ar draws ffiniau gwledydd i helpu cyrff cyhoeddus i adnabod hawliadau a thrafodion a allai fod yn dwyllodrus neu'n gyfeiliornus.

Dywed yr adroddiad y gallai "rhai cyfranogwyr fod yn llawer mwy rhagweithiol" i atal twyll.

"Ychydig iawn o'u pariadau a adolygwyd gan rai awdurdodau lleol, ac o ganlyniad ni wnaethant ddigon o waith i fynd i'r afael 芒 thwyll posibl," meddai'r adroddiad.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cynnwys paru data mewn perthynas 芒 grantiau cymorth busnes Covid-19 a dalwyd gan awdurdodau lleol fel rhan o'r Fenter Twyll Genedlaethol yn 2020-2022 i helpu cynghorau i adnabod ceisiadau twyllodrus am gymorth.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Mae pandemig Covid-19 wedi dwyn heriau sylweddol i sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n dal i ddarparu gwasanaethau ar gyfer unigolion, cymunedau a busnesau mewn cyfnod eithriadol o anodd.

"Felly mae nodi 拢8m yn yr ymarfer diweddaraf hwn o dan y Fenter Twyll Genedlaethol yn gyfraniad pwysig o ran cyllido gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

"Mae'n bwysicach nag erioed bod gan sefydliadau drefniadau llywodraethu a rheolaethau cadarn ar waith i helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol rhag y risg o dwyll ar yr adeg hon o argyfwng."

Mae bron i 拢43m o dwyll a gordaliadau wedi cael eu canfod yng Nghymru ers i'r Fenter Twyll Genedlaethol ddechrau yn 1996.