Cytuno i godi cyflogau athrawon hyd at 8.5%

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau codiad cyflog i athrawon "medrus a gweithgar" Cymru ar gyfer 2020/21.

Dywed Kirsty Williams bod "dim wedi dod i'r amlwg sy'n gwarantu ailystyried y dyfarniad cyflog arfaethedig" a gafodd ei awgrymu ym mis Gorffennaf a'i gytuno mewn egwyddor.

Ychwanegodd y bydd awdurdodau lleol yn derbyn 拢5.5m yn rhagor er mwyn talu'r arian ychwanegol i staff yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Mae'r cynnydd yn cael ei 么l-ddyddio i 1 Medi 2020.

Mae cyhoeddiad ddydd Mercher yn golygu cynnydd o:

  • 8.48% i gyflogau cychwynnol athrawon newydd;
  • 3.75% i uchafswm statudol y brif raddfa gyflog;
  • 2.75% i benaethiaid, penaethiaid cynorthwyol a dirprwyon.

Dyma'r eildro i Lywodraeth Cymru bennu cyflogau ac amodau athrawon ers datganoli'r cyfrifoldeb ac mae Ms Williams wedi pwysleisio "mantais" hynny.

"Rydym wedi parhau i ddilyn trywydd gwahanol i'r cynigion yn Lloegr, drwy roi cyflog cychwynnol uwch i athrawon yng Nghymru a chyflwyno rhai o'r prif newidiadau y gofynnwyd amdanynt gan y proffesiwn, megis dilyniant cyflog ar sail profiad a graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol."

"Bydd hyn yn help i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn y mae graddedigion a'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa am ei ddewis... bydd yn helpu i annog athrawon o'r safon uchaf i ymuno 芒'r proffesiwn yma yng Nghymru."

Ychwanegodd fod trafodaethau'n parhau rhwng colegau addysg bellach ac undebau, a bydd cyhoeddiad pellach ynghylch ymrwymiad i dalu cyflog cyfartal.